Datganiad i'r wasg

Camlesi, cestyll a thramffyrdd: Gweinidog Swyddfa Cymru yn dathlu Wythnos Twristiaeth Cymru

Mae dathliadau yn mynd rhagddynt ar gyfer ‘Wythnos Twristiaeth Cymru’, a heddiw [2 Mawrth 2012] ymwelodd Gweinidog Swyddfa Cymru David Jones…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Mae dathliadau yn mynd rhagddynt ar gyfer ‘Wythnos Twristiaeth Cymru’, a heddiw [2 Mawrth 2012] ymwelodd Gweinidog Swyddfa Cymru David Jones a sawl lle yng Ngogledd Cymru i weld sut mae’r rhanbarth yn chwarae rol allweddol wrth hyrwyddo adeiladau a diwydiannau treftadaeth Cymru. Ymwelodd y Gweinidog a’r Waun yn Nyffryn Ceiriog yn gyntaf, cyn ymweld a Llandudno yng Nghonwy, a gwelodd sut mae cwmniau twristiaid a phrosiectau lleol yn hybu economiau lleol, yn cynyddu cyfleoedd gwirfoddoli a gwaith ac yn rhoi Cymru ar y map.

Rhagwelir y bydd y Gemau Olympaidd a’r Gemau Paralympaidd yn denu miloedd o ymwelwyr i’r DU eleni, a bydd Wythnos Twristiaeth Cymru yn dangos bod y rhanbarth yn gyrchfan ysbrydoledig i dwristiaid ac yn tynnu sylw at ei arwyddocad economaidd posib.  Ymwelodd y Gweinidog a’r Waun yn  Wrecsam i weld sut mae’r Ymddiriedolaeth Cestyll, Marina a Thramffyrdd yn defnyddio treftadaeth ddiwylliannol a diwydiannol yr ardal i roi hwb i adfywio economaidd yn ogystal a hybu Cymru fel cyrchfan i dwristiaid.

Yn gyntaf, cyfarfu’r Gweinidog a rheolwr eiddo Castell y Waun, Emma Thompson, i weld sut mae’r castell yn defnyddio gwirfoddolwyr i helpu yn ei gynlluniau ehangu. Ymwelodd wedyn a safle Ymddiriedolaeth Tren Bach y Glyn i weld sut mae cynlluniau adfer yn mynd rhagddynt ar ol cael caniatad cynllunio ar gyfer cam un trac 1.2 milltir rhwng y Waun a Phontfaen.  Yno, cyfarfu’r Gweinidog hefyd ag Alison Phillips a Jacob Evans, o ‘Imagematch’ sef menter gymdeithasol arobryn. Maen nhw’n gweithio gyda’r Ymddiriedolaeth i roi profiad gwaith a chyfleoedd gwirfoddoli i bobl sy’n ddi-waith dros dymor hir yn y cam trawsnewid.  Disgwylir i’r trac tren ddenu nifer sylweddol o ymwelwyr newydd i’r ardal, sydd a chyfoeth o dreftadaeth ddiwydiannol yn barod

Wedyn aeth y Gweinidog yn ei flaen i Farina’r Waun i gwrdd a Dorothy Davies o ‘Marine Services Chirk / Crest Narrowboats’ i weld sut effaith mae safle treftadaeth y byd gerllaw, sef Pontcysyllte, yn ei chael o ran rhoi hwb i fusnes y marina a’r fflyd o gychod cul. Ar ol hynny, cyfarfu a Jason Leach (Rheolwr Menter Strategol ar gyfer Dyfrffyrdd Prydain) i drafod cynlluniau yn y dyfodol ar gyfer hunaniaeth newydd Dyfrffyrdd Prydain yng Nghymru, ‘Glandwr Cymru’.

Wedyn, aeth y Gweinidog ar daith o amgylch ‘Neuadd a Sba Bodysgallen’ sy’n eiddo i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol i weld y tŵr a’r adeilad Gradd 1 sy’n tarddu o’r 17eg ganrif, cyn cwrdd a Justin Albert, Cyfarwyddwr newydd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Nghymru i drafod cynlluniau datblygu’r Ymddiriedolaeth yn y dyfodol. 

Dywedodd Mr Jones: “Mae wedi bod yn galonogol gweld y gwaith gwych a wneir gan lu o wirfoddolwyr a mudiadau lleol, pob un yn chwarae ei ran i gadw hud y gorffennol yn fyw, ond hefyd yn ei ddefnyddio fel ffordd o ddarparu cyfleoedd gwerth chweil i bobl feithrin sgiliau newydd drwy brofiad gwaith a chyfleoedd gwirfoddoli. 

“Mae Wythnos Twristiaeth Cymru yn dangos yr hyn sydd gan Gymru i’w gynnig, ac yn y cyfnod at Gemau Olympaidd a Gemau Paralympaidd Llundain 2012, gallwn edrych ymlaen at ddiddordeb o’r newydd yn atyniadau Cymru, wrth i gystadleuwyr Olympaidd o China a Lesotho leoli eu hunain yng Ngogledd Cymru.

“Mae wedi bod yn wefreiddiol gweld yr ymdrechion gwych a wneir i gadw etifeddiaeth gorffennol diwydiannol Cymru yn fyw a’i siapio ar gyfer cynulleidfaoedd y dyfodol hefyd.  Mae gan Ogledd Cymru hanes cyfoethog, sy’n werth ei ddathlu ac rwyf wrth fy modd bod Twristiaeth Gogledd Cymru, Dyfrffyrdd Prydain a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol i gyd yn chwarae eu rhan i ddiogelu a hyrwyddo trysorau twristiaeth y rhanbarth.”

Dywedodd Justin Albert, Cyfarwyddwr yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Nghymru: “Fel y busnes twristiaeth mwyaf yng Nghymru; gan groesawu dros filiwn o bobl i’n hatyniadau, a darparu mynediad am ddim i bedair miliwn arall i arfordir a chefn gwlad trawiadol Cymru sydd yn ein gofal, mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol wedi ymrwymo i wneud popeth o fewn ei gallu i hybu twristiaeth yng Nghymru.

“A’r sector yn werth £1.8 biliwn i economi Cymru, mae’n hanfodol ein bod yn parhau i adeiladu ar ein llwyddiannau a chwarae rol allweddol i ddenu ymwelwyr i Gymru a’u difyrru.”

Dywedodd Dorothy Davies, Rheolwr Gyfarwyddwr Marina’r Waun: “Gyda thymor y gwyliau ar ein gwarthaf, rydym yn falch iawn o’r nifer sydd eisoes wedi trefnu eu gwyliau ar gyfer y tymor i ddod, ac rydym yn edrych ymlaen at helpu ymwelwyr i ddarganfod hud Camlas Llangollen mewn cwch cul yn 2012.

“Rydym yn ffodus bod ein busnes wedi’i leoli yma yn nhref fendigedig y Waun ac ar Safle Treftadaeth y Byd sy’n denu ymwelwyr o bob cwr o’r byd i’r ardal bob blwyddyn. Hefyd, gyda gwyliau lleol a chychod hamdden ar gynnydd, mae’r darlun ar gyfer y dyfodol yn optimistaidd ac yn gyffrous, ac mae gennym gynlluniau o hyd i ehangu ein fflyd o gychod llogi”.

Nodiadau i olygyddion: 

Cyhoeddwyd ar 2 March 2012