Stori newyddion

Ailbrisiad ardrethi busnes 2026

Gallwch nawr weld beth fydd gwerth ardrethol y dyfodol eich eiddo busnes.

Mae Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA) wedi diweddaru gwerthoedd ardrethol pob eiddo masnachol, ac eiddo annomestig arall, yng Nghymru a Lloegr. Bydd y gwerthoedd yn y dyfodol hyn yn dod i rym ar 1 Ebrill 2026. 

Beth mae hyn yn ei olygu? 

Cynhelir ailbrisiadau bob tair blynedd yng Nghymru a Lloegr i adlewyrchu newidiadau yn y farchnad eiddo. 

Mae eich cyngor lleol yn defnyddio gwerthoedd ardrethol i gyfrifo biliau ardrethi busnes. Nid yw gwerth ardrethol yr un peth â’r hyn rydych chi’n ei dalu mewn ardrethi busnes neu rhent. 

Gallwch ddod o hyd i bopeth sydd angen i chi wybod am ailbrisio 2026 ar GOV.UK

Amcangyfrifwch faint fydd eich bil ardrethi busnes yn y dyfodol 

Gallwch nawr weld gwerth ardrethol eich eiddo yn y dyfodol gan ddefnyddio ein gwasanaeth dod o hyd i brisiad ardrethi busnes ar GOV.UK. 

Os yw eich eiddo yn Lloegr, gallwch hefyd ddefnyddio’r gwasanaeth hwn i gael amcangyfrif o beth allai eich bil ardrethi busnes fod o 1 Ebrill 2026. Bwriad y gwasanaeth yw rhoi syniad o beth allai eich bil ardrethi busnes fod. Efallai na fydd yn ystyried unrhyw ryddhad y gallech fod yn gymwys i’w gael. 

Nid yw’r gwasanaeth hwn ar gael ar hyn o bryd ar gyfer eiddo yng Nghymru. Bydd yn cael ei ddiweddaru unwaith y bydd Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau manylion lluosyddion newydd ac unrhyw ryddhadau yng Nghymru. 

Sut mae eich bil ardrethi busnes yn cael ei gyfrifo 

Nid yw cynnydd yn eich gwerth ardrethol o reidrwydd yn golygu y bydd eich bil ardrethi busnes yn codi o swm tebyg. 

Bydd eich cyngor lleol yn cyfrifo eich bil trwy luosi eich gwerth ardrethol â’r lluosydd perthnasol a osodwyd gan lywodraethau’r DU a Chymru. Yna byddant yn penderfynu a ddylid cymhwyso unrhyw ryddhadau yr ydych yn gymwys i’w derbyn. 

Mae Llywodraeth Cymru ar fin cadarnhau manylion lluosyddion ac unrhyw ryddhadau ar gyfer busnesau Cymru yn ystod yr wythnosau nesaf. 

Camau y gallwch eu cymryd nawr 

Gallwch fewngofnodi i’ch cyfrif prisio ardrethi busnes i: 

  • wirio’r manylion ffeithiol yr ydym yn dal ar eich eiddo 

  • gweld sut y cyfrifwyd prisiad eich eiddo 

  • rhoi gwybod i ni os oes rhywbeth o’i le gyda’ch prisiad 

Gallwch hefyd ddefnyddio’ch cyfrif i gymharu gwerth ardrethol eich eiddo ag eiddo tebyg yn yr ardal a gwirio sut y cyfrifwyd y prisiad. 

Ar hyn o bryd, gallwch ond ofyn am newidiadau i’ch prisiad cyfredol. Mae gennych tan 31 Mawrth 2026 i ofyn am unrhyw newidiadau i’ch gwerth ardrethol cyfredol. Ar ôl 1 Ebrill 2026 byddwch ond yn gallu gwneud newidiadau i’r gwerth ardrethol yn y dyfodol. 

Dysgwch fwy am ailbrisiad 2026 

Rydym wedi cyhoeddi ystadegau swyddogol ar gyfer ailbrisiad 2026 (yn agor tudalen Saesneg). 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am filiau ardrethi busnes, rhyddhadau neu daliadau, dylech gysylltu â’ch cyngor lleol. 

Rhannwch y dudalen hon 

Mae’r dolenni canlynol yn agor mewn tab newydd 

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 26 Tachwedd 2025