Cymorth gydag ailbrisiad ardrethi busnes 2026
Dysgwch am ailbrisiad 2026, sut i ddod o hyd i’ch prisiadau ardrethi busnes cyfredol a’r dyfodol, a beth i’w wneud os ydych chi’n credu bod eich prisiad yn anghywir.
Yn berthnasol i Loegr a Chymru
Mae Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA) yn diweddaru gwerthoedd ardrethol eiddo annomestig yng Nghymru a Lloegr bob tair blynedd. Gelwir hyn yn ailbrisiad. Mae ailbrisiad yn helpu i ailddosbarthu’r swm a delir mewn ardrethi busnes ar draws sectorau a rhanbarthau.
Gwyliwch fideo i ddarganfod pam y gallai eich ardrethi busnes newid.
Pam y gallai fy ardrethi busnes newid? (yn agor tudalen Saesneg).
Mae gwerthoedd ardrethol yn seiliedig ar faint fyddai’n ei gostio i rentu eiddo am flwyddyn ar ddyddiad prisio penodol. Ar gyfer ailbrisiad 2026, y dyddiad hwnnw yw 1 Ebrill 2024. Bydd gwerthoedd ardrethol newydd yn dod i rym ar 1 Ebrill 2026, ond mae camau y gallwch eu cymryd i baratoi.
Nid eich gwerth ardrethol yw’r swm y mae’n rhaid i chi ei dalu. Mae cynghorau lleol yn defnyddio gwerthoedd ardrethol i gyfrifo biliau ardrethi busnes.
Dod o hyd i’ch prisiad ardrethi busnes
Gwyliwch fideo ar ddeall eich prisiad ardrethi busnes.
Deall eich prisiad ardrethi busnes (yn agor tudalen Saesneg).
Gallwch weld gwerth ardrethol cyfredol a’r dyfodol eich eiddo drwy:
-
fewngofnodi i’ch cyfrif prisio ardrethi busnes — darganfod sut i gofrestru ar gyfer cyfrif
-
defnyddio’r offeryn ‘dod o hyd i brisiad ardrethi busnes’
Gallwch hefyd:
-
gwirio sut y cyfrifwyd eich gwerth ardrethol
-
cymharu gwerth ardrethol eich eiddo ag eiddo tebyg
-
cael amcangyfrif o faint y gallai eich bil ardrethi busnes fod o 1 Ebrill 2026
Sut mae eiddo yn cael eu prisio
Darganfod sut mae’r VOA yn prisio eiddo ar gyfer ardrethi busnes (yn agor tudalen Saesneg)
Gwyliwch fideo ar sut mae’r VOA yn mesur eiddo.
Sut rydym yn mesur eiddo ar gyfer ardrethi busnes (yn agor tudalen Saesneg).
Os ydych chi’n credu bod eich prisiad yn anghywir
Ni allwch herio’ch prisiad yn y dyfodol tan 1 Ebrill 2026. Os ydych chi’n credu bod manylion yr eiddo a ddefnyddiwyd yn eich prisiad ar gyfer 2026 yn anghywir, gallwch chi ddweud wrth y VOA drwy godi achos gwirio yn erbyn eich prisiad yn 2023. Bydd unrhyw newidiadau a wneir i fanylion eich eiddo yn dilyn eich achos gwirio yn cael eu trosglwyddo i’ch prisiad yn 2026. Mae angen i chi ychwanegu eich eiddo at eich cyfrif prisio ardrethi busnes cyn y gallwch chi godi achos gwirio.
Ni fyddwch yn gallu gwneud newidiadau i’ch prisiad blaenorol unwaith y bydd eich prisiad newydd yn dod i rym ar 1 Ebrill 2026. Mae gennych tan 31 Mawrth 2026 i godi achos gwirio yn erbyn eich prisiad yn 2023.
Gwyliwch fideo i ddarganfod sut i ddweud wrth y VOA eich bod yn credu bod manylion eich eiddo yn anghywir.
Sut i wirio a ydych yn credu bod prisiad eich ardrethi busnes yn anghywir (yn agor tudalen Saesneg).
Penodi asiant
Gallwch reoli eich ardrethi busnes eich hun neu benodi asiant i ddelio â’r VOA ar eich rhan.
Darllenwch ganllawiau ar ddewis asiant ardrethi busnes neu gwyliwch fideo.
Rhestr wirio dewis asiant ardrethi busnes (yn agor tudalen Saesneg).