Ni fydd seren Burton byth yn pylu medd Ysgrifennydd Cymru
Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru Cheryl Gillan wedi croesawu’r newyddion y gallai seren Richard Burton fod yr un nesaf o Gymru i gael ei hychwanegu…
Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru Cheryl Gillan wedi croesawu’r newyddion y gallai seren Richard Burton fod yr un nesaf o Gymru i gael ei hychwanegu at ‘Rodfa’r Enwogion’ yn Hollywood.
Mae lle’r actor o Bont-rhyd-y-fen ar ‘Rodfa’r Enwogion’ bellach yn nesau at gael ei wireddu wedi i ymgyrchwyr dderbyn y newyddion ddydd Mercher y bydd Burton yn un o’r ychydig ser eleni i dderbyn yr anrhydedd wedi ei farwolaeth, ar yr amod eu bod yn codi’r arian angenrheidiol.
Dywedodd Mrs Gillan: “Mae Burton yn llwyr haeddu ei le ar ‘Rodfa’r Enwogion’. Yr wyf wedi cael fy nghalonogi fod ymgyrchwyr wedi ymladd yn frwdfrydig er mwyn i un o eiconau diwylliannol gorau Cymru gael ei anrhydeddu yn yr union fan lle y daeth i sylw miloedd o bobl ledled byd.
”Fel un o actorion mwyaf carismatig a dawnus ei gyfnod, y mae wedi ysbrydoli to o actorion a doniau crai naturiol, y gwelwyd adlewyrchiad ohonynt yn Anthony Hopkins a Michael Sheen, ac y byddwn yn sicr o’u gweld eto drwy’r llu myfyrwyr o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, lle y mae theatr newydd Richard Burton wedi’i hagor.
“Bydd y gofod theatr newydd yn y Coleg yn galluogi cenedlaethau newydd i werthfawrogi drama a pherfformiadau er cof amdano. Dymunaf y gorau i ymgyrchwyr ‘Rhodfa’r Enwogion’ wrth godi’r arian angenrheidiol, fel na fydd seren Richard Burton byth yn pylu ac y gall ei apel oroesi am genedlaethau.”