Datganiad i'r wasg

Cyllideb 2014 ar frig yr agenda yng nghyfarfod y Grŵp Cynghori ar Fusnes

David Jones yn croesawi cynrychiolwyr o gymuned fusnes Cymru i Dŷ Gwydyr

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Rt. Hon David Jones MP

Y cyhoeddiad sydd i ddod am y Gyllideb oedd un o brif bynciau’r trafodaethau ymhlith cynrychiolwyr o gymuned fusnes Cymru yn ystod cyfarfod ag Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David Jones, yn Llundain heddiw (11 Chwefror 2014).

Croesawodd Mr Jones aelodau’r Grŵp Cynghori ar Fusnes i Dŷ Gwydyr, lle y cymerodd y cyfle i gasglu syniadau am y mesurau yr hoffent eu gweld yn cael eu cynnwys yn y Gyllideb pan gyhoeddir hi gan Ganghellor y Trysorlys fis nesaf (19 Mawrth).

Fel rhan o gynllun economaidd hirdymor y Llywodraeth, mae Trysorlys EM yn croesawu cynrychioliadau gan randdeiliaid am syniadau arloesol yr hoffent weld eu cynnwys yn y Gyllideb gyda’r nod o ysgogi twf economaidd ar draws y DU.

Trafodwyd a datblygwyd syniadau gan aelodau’r Grŵp yn y cyfarfod heddiw, a bydd yr Ysgrifennydd Gwladol yn awr yn rhannu’r cynigion gyda’r Trysorlys am ystyriaeth yn ystod y cyfnod yn arwain at Gyllideb 2014.

Dywedodd David Jones, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Dros y tair blynedd diwethaf, mae’r Llywodraeth hon wedi rhoi mesurau cadarn yn eu lle i helpu i ailadeiladu ein heconomi. Mae’r ffigurau Cynnyrch Mewnwladol Crynswth (GDP) cadarnhaol diweddar yn dangos twf yn y sectorau gweithgynhyrchu, gwasanaethau ac adeiladu, ac yng Nghymru y gwelwyd y cynnydd mwyaf yng nghyfradd cyflogaeth o holl ranbarthau’r DU.

Gyda busnesau’n cyflogi mwy o bobl, rydym yn darparu sefydlogrwydd a diogelwch cyflog rheolaidd i fwy o deuluoedd ac yn cynnig mwy o’r cyfleoedd sydd eu hangen ar bobl ifanc i lwyddo mewn bywyd.

Ond mae llawer mwy o waith i’w wneud eto. Wrth i ni edrych ymlaen at gyhoeddi Cyllideb y Canghellor fis nesaf, mae’n bwysig i mi gael cyfle i glywed am y math o gynigion polisi yr hoffai cynrychiolwyr busnes yng Nghymru i’r Trysorlys eu hystyried er mwyn helpu i roi ysgogiad pellach i economi Cymru.

O ystyried y cyhoeddiadau seilwaith sylweddol a wnaed gan y Llywodraeth hon ers y Gyllideb ddiwethaf, roedd gennyf ddiddordeb penodol mewn clywed pa welliannau ychwanegol i seilwaith yr hoffent eu gweld yn cael eu cynnwys. Byddaf yn awr yn rhannu canlyniadau’r trafodaethau hyn gyda Changhellor y Trysorlys, i sicrhau y caiff llais cymuned fusnes Cymru ei glywed yn uchel ac yn groyw.

Yn ystod y cyfarfod, cadeiriodd yr Ysgrifennydd Gwladol drafodaeth bwrdd crwn ar yr amgylchedd busnes ar hyn o bryd, ac ar ymateb busnesau i’r sialensiau economaidd presennol.

Hefyd, rhoddwyd y wybodaeth ddiweddaraf i’r grŵp am y cynnydd a wnaed gan Weithgor Seilwaith Swyddfa Cymru.

Croesawyd Rob Saunders, Pennaeth Ynni yn y Bwrdd Strategaeth Technoleg (TSB) i’r cyfarfod hefyd. Rhoddodd Mr Saunders gyflwyniad ar waith yr asiantaeth i gefnogi ymchwil a datblygiad dan arweiniad busnes, gan amlinellu sut y gallai cwmnïau Cymreig gyda syniadau arloesol fanteisio ar y gefnogaeth sydd ar gael.

Ychwanegodd Mr Jones:

Mae cyfarfodydd y Grŵp Cynghori ar Fusnes yn gyfle pwysig i mi fesur yn uniongyrchol sut mae busnesau’n gwneud ar y tir yng Nghymru, a chlywed eu safbwyntiau am sut mae polisïau’r Llywodraeth yn effeithio arnynt hwy, a beth mwy y gellir ei wneud i gefnogi twf.

Gyda Mr Saunders yn ymuno â ni heddiw, cawsom gyfle i edrych yn fwy manwl ar opsiynau a llwybrau eraill o gefnogaeth y gall busnesau yng Nghymru gael mynediad atynt i gefnogi ymhellach eu huchelgais ar gyfer sicrhau twf.

Cyhoeddwyd ar 11 February 2014