Stori newyddion

Y Gyllideb 2013 – yr hyn y mae’n ei olygu i Gymru

Cyflwynodd Canghellor y Trysorlys ei Gyllideb i’r Senedd ar 20 Mawrth 2013. Dyma ddadansoddiad o effeithiau ei gyhoeddiadau ar Gymru.

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

TREFNIADAU BARNETT

O ganlyniad i benderfyniadau gwariant yn y Gyllideb bydd Llywodraeth Cymru’n cael budd o £161m ychwanegol o hawl gwario cyfalaf.

Bydd hyn yn dod â chyfanswm yr hawl gwario cyfalaf ychwanegol a ganiatawyd i Lywodraeth Cymru dros gyfnod yr arolwg gwariant i dros £858 miliwn.

TRETH TANWYDD

Bydd y cynnydd mewn treth tanwydd y bwriadwyd ei gyflwyno ar 1 Medi 2013 yn cael ei ganslo.

EFFAITH YNG NGHYMRU

Bydd canslo’r cynnydd mewn treth tanwydd yn helpu perchnogion yr 1.8 miliwn o gerbydau modur yng Nghymru, gan arbed £25 i’r gyrrwr arferol, £50 i yrrwr fan a £750 i gwmnïau cludo.

TRETH GORFFORAETH

Bydd busnesau Cymreig yn cael mantais o 1% ychwanegol o ostyngiad ym mhrif gyfradd treth gorfforaeth, gan ddod â hi i 20% erbyn 2015.

CYMORTH I BRYNU

Gwarant Morgeisi Cymorth i Brynu: Cyflwyno gwarant ecwiti’r Llywodraeth ar forgeisi 95% i helpu ar draws y DU.

EFFAITH YNG NGHYMRU

Mae’r polisi hwn ar gael ar draws y DU. Bydd yn helpu’r rhai sy’n cael trafferth gyda blaendaliadau, ond a fyddai’n gallu fforddio cynnal morgais.

I’r unigolyn arferol sy’n symud cartref yng Nghymru, byddai morgais 90 y cant yn gofyn blaendal o oddeutu £18,000. Gyda morgais 95% byddent angen £9,000 o flaendal.

LWFANS PERSONOL

Bydd lwfans personol treth incwm yn cynyddu i £10,000 o 1 Ebrill 2014.

EFFAITH YNG NGHYMRU

Bydd y cynnydd hwn yn y lwfans personol o fudd i £1.1m o drethdalwyr yng Nghymru ac yn eithrio 12,000 o unigolion yng Nghymru ar incwm isel rhag talu treth incwm o gwbl. O’u hystyried gyda’i gilydd, bydd newidiadau i’r lwfans personol ers 2012 wedi eithrio 130,000 o bobl yng Nghymru rhag talu treth incwm o gwbl.

YSWIRIANT GWLADOL

Bydd y Llywodraeth yn cyflwyno lwfans o £2,000 y flwyddyn i bob busnes ac elusen i’w ddefnyddio yn erbyn cyfraniadau yswiriant gwladol eu gweithwyr o Ebrill 2014 ymlaen.

EFFAITH YNG NGHYMRU

Yn 2014-15 bydd hyn yn rhoi budd o £50 miliwn i 35,000 o fusnesau yng Nghymru, gyda 20,000 o’r busnesau hyn yn cael eu heithrio o Gyfraniadau Yswiriant Gwladol yn gyfan gwbl.

GOFAL PLANT DIDRETH

Bydd y Llywodraeth yn darparu £750m y flwyddyn i helpu teuluoedd sy’n gweithio gyda 20 y cant o’u costau gofal plant, ar gyfer plant dan 12 oed, hyd at uchafswm o £6,000 (cyfanswm cost) ar gyfer pob plentyn bob blwyddyn.

EFFAITH YNG NGHYMRU

Bydd y mesur hwn yn cefnogi 110,000 o deuluoedd yng Nghymru gyda 170,000 o blant dan 12.

Yng Nghymru mae cost gwarchodwr plant am 25 awr wedi cynyddu (3%) i oddeutu £95 (yn dibynnu ar oedran plentyn), ac mae cost 15 awr yr wythnos mewn clwb ar ôl ysgol wedi cynyddu 20% i ychydig dan £50.

TRETH INCWM : SAIL ARIANNOL AR GYFER BUSNESAU BACH

O fis Ebrill 2013, mae’r Llywodraeth yn cyflwyno sail ariannol newydd i gyfrifo treth incwm ar gyfer busnesau bach anghorfforedig. Bydd busnesau gyda derbyniadau o hyd at £79,000 yn gymwys.

EFFAITH YNG NGHYMRU

Byddai o leiaf 110,000 o fusnesau hunangyflogedig a phartneriaethau yng Nghymru yn gymwys ar gyfer y sail ariannol newydd i fusnesau bach.

RHEWI TRETH CAR

Caiff Treth Car (VED) ar gyfer cerbydau HGV ei rewi yn 2013-14.

Bydd holl weithredwyr cerbydau HGV a Bysys (y mae eu VED yn gysylltiedig â’r gyfradd HGV) ledled y DU yn cael budd o’r polisi hwn.

EFFAITH YNG NGHYMRU

Bydd gweithredwyr dros 21,000 o gerbydau HGV a thros 10,000 o fysiau a bysiau moethus yng Nghymru yn arbed rhwng £5 a £60 o VED fesul cerbyd, o’i gymharu â chynnydd yn unol â’r Mynegai Prisiau Manwerthu, gan ddibynnu ym mha fand VED y mae eu cerbyd. Mae cludwyr wedi bod yn manteisio ar gyfraddau VED wedi rhewi ers 2001 ac yn 2013-14 byddai cyfraddau HGV oddeutu 45% yn uwch pe byddent wedi cynyddu’n unol â’r Mynegai Prisiau Manwerthu ers 2001.

MENTRAU BACH A CHANOLIG

Bydd y 192,745 o Fusnesau Bach a Chanolig a Busnesau a Busnesau Canolig eu Maint yn cael budd o’r Banc Busnes. Bydd y sefydliad newydd hwn yn gwneud y canlynol:

  • cyhoeddi strategaeth busnes yn nodi amserlen wedi’i chyflymu ar gyfer sut y bydd y Banc yn dyrannu £1bn o gyfalaf newydd, yn gwella cynlluniau presennol ac yn datblygu sefydliad parhaol newydd i gefnogi twf busnesau bach a chanolig erbyn diwedd 2014.

  • gwneud cais am gynigion ar gyfer cronfa gyd-fuddsoddi £300m;

  • creu dwy gronfa cyfalaf menter newydd ar gyfer £75m; a

  • cefnogi mwy o fenthycwyr i gynyddu benthyciadau i Fusnesau Bach a Chanolig drwy’r Gwarant Cyllid Menter (EFG).

Yn ogystal, bydd 10,100 yn cael budd o daliadau cyflymach gyda cherdyn gwerth oddeutu £500m y flwyddyn yn genedlaethol, gan ddarparu arbedion llog o oddeutu £45m y flwyddyn.

SEFYDLIAD TECHNOLEG AWYROFOD

Bydd y clwstwr awyrofod a leolir o gwmpas ffin Gogledd Cymru yn cael budd o fynediad at y Sefydliad Technoleg Awyrofod (ATI) £2.1 biliwn a fydd yn cefnogi ymchwil a datblygu yn y sector allweddol hwn yn y DU.

YR M4 YN NE CYMRU A CHOMISIWN SILK

Mae’r Llywodraeth yn parhau i drafod opsiynau ar gyfer ariannu gwelliannau i’r M4 yn Ne Cymru gyda Llywodraeth Cymru, ynghyd ag asesiad o argymhellion Comisiwn Silk, a bydd yn adrodd ar gynnydd maes o law.

EITHRIO RHAG TALU TRETH CAR I GERBYDAU CLASUROL - ESTYNIAD

Estyniad i’r eithriad rhag talu treth car i gerbydau clasurol, gan gael gwared â threth dros 30,000 o gerbydau a adeiladwyd yn 1973.

EFFAITH YNG NGHYMRU

Bydd hyn o fudd i hyd at 1,647 o berchnogion cerbydau 1973 yng Nghymru gan arbed hyd at £225 y flwyddyn iddynt.

CREDYD ‘UWCHBEN Y LLINELL’

Mae’r Llywodraeth yn cyflwyno credyd newydd ‘uwchben y llinell’ ar gyfer gwariant Ymchwil a Datblygu cwmnïau mawr ar gyfradd o 10%, cynnydd o’r gyfradd o 9.1% a gynigiwyd yng Nghyllideb 2012.

EFFAITH YNG NGHYMRU

Ceir oddeutu 60 o hawliadau am gymorth Ymchwil a Datblygu yng Nghymru bob blwyddyn – bydd modd i’r cwmnïau hyn gael budd o gyfradd uwch o ostyngiad treth yng nghyswllt eu gwariant Ymchwil a Datblygu.

Bydd hyn yn cefnogi’r 8 busnes a leolir yng Nghymru sydd ar restr y Farchnad Buddsoddi Amgen (AIM). Bydd cwmnïau’n cael budd o gostau ariannol is, a fydd yn annog y buddsoddiad angenrheidiol i roi hwb pellach i’w twf a chynyddu cyflogaeth.

TRETH STAMP AR GYFRANDDALIADAU

Cael gwared ar dreth stamp ar gyfranddaliadau ar gyfer cwmnïau a restrir ar farchnadoedd twf cwmnïau bychain, gan gynnwys Marchnad Dwf AIM ac ISDX.

Cyhoeddwyd ar 21 March 2013