Datganiad i'r wasg

Gweinidog Swyddfa Cymru: Buddsoddi mewn band eang yn “newyddion da” i fusnesau a chartrefi ledled Cymru

This news article was published under the 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Heddiw mae Gweinidog Swyddfa Cymru, David Jones, wedi croesawu’r cyhoeddiad bod BT wedi sicrhau contract i helpu i fynd a band eang i 96 y cant…

Heddiw mae Gweinidog Swyddfa Cymru, David Jones, wedi croesawu’r cyhoeddiad bod BT wedi sicrhau contract i helpu i fynd a band eang i 96 y cant o gartrefi a busnesau yng Nghymru.

Mae hyn yn dilyn cyhoeddiad a wnaed y llynedd gan yr Ysgrifennydd Diwylliant, Jeremy Hunt, fod Llywodraeth EM yn rhoi £57m o’r gronfa buddsoddi mewn band eang i Lywodraeth Cymru.  Roedd yn rhaid i Lywodraeth Cymru ddod o hyd i’r arian cyfatebol ar gyfer y buddsoddiad ynghyd a phenderfynu ar y ffordd orau o’i ddefnyddio i gefnogi’r gwaith o gyflwyno band eang ledled y wlad.

Heddiw, cyhoeddodd y Prif Weinidog, Carwyn Jones, fod y cwmni telathrebu mawr BT wedi sicrhau’r contract i ddarparu gwasanaethau band eang arloesol ledled Cymru. Gobeithir gorffen y gwaith seilwaith erbyn 2015, a disgwylir y bydd darparwyr gwasanaethau yn gallu cynnig gwasanaeth band eang sydd yn 15 gwaith yn gyflymach na’r hyn sydd ar gael ar hyn o bryd.

Hefyd, daw’r cyhoeddiad cadarnhaol diweddaraf hwn i Gymru yn ystod wythnos y cyhoeddodd Llywodraeth EM gynlluniau i drydaneiddio prif lein rheilffordd y Great Western i Abertawe a Chledrau’r Cymoedd, gan ychwanegu at enw da Cymru fel lleoliad i fuddsoddi ynddo.

Dywedodd David Jones, Gweinidog Swyddfa Cymru, wrth groesawu’r cyhoeddiad:

“Y llynedd rhoddodd Llywodraeth EM bron i £57m i Lywodraeth Cymru ei fuddsoddi i wella cysylltedd band eang yng Nghymru. Rwy’n falch bod Llywodraeth Cymru wedi penderfynu o’r diwedd sut i wario’r arian hwn, gan ddod o hyd i’r arian cyfatebol ar ei gyfer hefyd.

“Mae’r wythnos hon wedi bod yn bwysig i Gymru ac o ran ymdrechion Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru wrth iddynt gydweithio i wella’r seilwaith sydd ei angen arnom ar gyfer twf economaidd.

“Mae Llywodraeth EM yn credu’n gryf bod band eang yn hanfodol, nid yn unig mewn bywyd bob dydd, ond i lwyddiant economaidd y DU hefyd. Drwy gael mynediad at fand eang cyflym iawn, gall busnesau ehangu, datblygu marchnadoedd newydd, creu’r swyddi sydd eu hangen arnom a chystadlu ag eraill drwy’r byd i gyd. Mae’n rhoi cyfle hefyd i gymunedau lleol yn ardaloedd mwyaf gwledig Cymru gael mynediad at wasanaethau cyhoeddus yn gyflymach ac yn effeithlon ar-lein.

“Mae hyd at £12 miliwn wedi cael ei roi i brosiect a gyhoeddwyd eisoes i gael cysylltiad band eang cyflym iawn i ddinas Caerdydd. Bydd hyd at 142,000 o drigolion a 10,000 o fusnesau yn elwa o hyn. Cyhoeddwyd hefyd fod £50miliwn ychwanegol i ariannu ail rownd lle bydd 10 dinas arall yn y DU yn cael cysylltiad band eang cyflym iawn, ac mae Abertawe a Chasnewydd yn gymwys i wneud cais am yr arian hwnnw.

“Ond, mae helpu economi cefn gwlad yr un mor bwysig ac mae hyn yn dal i fod yn flaenoriaeth i’r Llywodraeth hon. Yn adroddiad tasglu Swyddfa Cymru ar economi cefn gwlad, gwelwyd mai mynediad at fand eang dibynadwy oedd un o’r prif bryderon a oedd yn wynebu ffermwyr a busnesau gwledig yng Nghymru, ac roedd llawer o’r rhai a ymatebodd yn cwyno bod cysylltiadau yn araf ac yn anghyson neu ddim yn bodoli o gwbl. Bydd y cyhoeddiad heddiw yn helpu i sicrhau bod busnesau hyd yn oed yn rhannau mwyaf gwledig Cymru yn gallu parhau i ffynnu.”

NODIADAU I OLYGYDDION

Nod y Llywodraeth yw bod gan y DU rwydwaith band eang cyflym iawn ymhlith y gorau yn Ewrop erbyn 2015, gyda 90 y cant o gartrefi a busnesau ar draws pob ardal awdurdod lleol yn cael mynediad at fand eang cyflym iawn a bod pawb yn y DU yn cael mynediad at o leiaf 2Mbps.

Cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Diwylliant ym mis Mai bod Abertawe a Chasnewydd yn gymwys i wneud cais am gyfran o’r gronfa £50 miliwn sydd a’r nod o’u helpu i gyflwyno band eang hynod gyflym a dod yn ddinas a chysylltiadau cyflym iawn.  Dyma’r ail rownd o gyllid sydd ar gael, gyda deg o ddinasoedd mwyaf y DU, gan gynnwys Caerdydd, eisoes yn gweithio ar gynlluniau manwl i ddiweddaru eu rhwydweithiau.