Datganiad i'r wasg

Hwb mawr Band Eang Cymru

Llefydd mwyaf gwledig ac anodd eu cyrraedd i elwa o £56m ar gyfer band eang

  • Hyd at £56 miliwn ar gael i helpu i ledaenu cyflymder cyflym iawn ymhellach ledled Cymru

  • Mae dros 650,000 o gartrefi a busnesau yng Nghymru, a fyddai fel arall wedi cael eu gadael ar ôl, wedi cael cysylltiad erbyn hyn

  • Bydd gan 95 y cant o’r Deyrnas Unedig fynediad at gyflymderau cyflym iawn erbyn diwedd y flwyddyn

Bydd hyd at £56 miliwn ar gael i helpu i fynd â band eang cyflym iawn i’r llefydd mwyaf gwledig ac anodd eu cyrraedd yng Nghymru, cyhoeddodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig heddiw (9 Medi).

Mae’r arian yn rhan o gronfa’r Deyrnas Unedig sy’n cynnwys hyd at £645 miliwn, a gyhoeddwyd heddiw gan y Gweinidog dros faterion Digidol, Matt Hancock.

Ynghyd â gwaith cyflenwi arall sydd wedi ei gynllunio, amcangyfrifir y gallai hyn arwain at fwy na 900,000 o gartrefi a busnesau ychwanegol yn y Deyrnas Unedig yn cael mynediad at gyflymder cyflym iawn ar ôl diwedd eleni, gan fynd â’r ddarpariaeth gyflym iawn i 98 y cant o’r genedl dros yr ychydig flynyddoedd nesaf.

Dywedodd Gweinidog Llywodraeth y Deyrnas Unedig yng Nghymru, Guto Bebb:

Mae’n debyg mai darparu mynediad at fand eang cyflym a dibynadwy yw’r peth pwysicaf y gallwn ni ei wneud i ddiogelu cynaliadwyedd ein busnesau a’n cymunedau gwledig. Gwyddom fod mwy i’w wneud, ond mae cyhoeddiad heddiw am gyllid i ymestyn band eang cyflym iawn ymhellach nag erioed o’r blaen, yn nodi cynnydd sylweddol arall yn ymdrechion Llywodraeth y Deyrnas Unedig i sicrhau bod gan Gymru rwydwaith band eang sy’n addas ar gyfer yr oes ddigidol.

Mae cysylltiad gwell ar gyfer cartrefi a busnesau yn gonglfaen i ymdrechion y Llywodraeth hon i greu economi gryfach yng Nghymru. Oherwydd buddsoddiad Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn seilwaith digidol Cymru, rydym yn sicr ar ein ffordd i sicrhau gweddnewidiad gwirioneddol anhygoel yn y ddarpariaeth band eang ledled y wlad. Rydym yn gwbl ymwybodol bod angen i hyn fod ar gyfer pob cymuned yng Nghymru, waeth pa mor wledig ydyn nhw.

Dywedodd y Gweinidog dros faterion Digidol, Matt Hancock:

Rydyn ni nawr wedi dod â band eang cyflym iawn i bron i 94 y cant o gartrefi a busnesau’r Deyrnas Unedig, ac rydym yn cyrraedd miloedd yn fwy bob wythnos. Rydym ar y trywydd iawn i gyrraedd 95 y cant erbyn diwedd y flwyddyn, ond gwyddom fod mwy i’w wneud o hyd. Bydd yr arian sy’n cael ei ddychwelyd i’r rhaglen yn awr ar gyfer ail-fuddsoddi yn ein helpu i gyrraedd y 5 y cant olaf hwnnw, ac mae hyn i gyd yn rhan o’n hymrwymiad i sicrhau y gall 100 y cant o’r Deyrnas Unedig gael band eang fforddiadwy, cyflym a dibynadwy erbyn 2020.

Erbyn hyn, mae’r gwaith cyflwyno â chymhorthdal gan y Llywodraeth wedi cyrraedd mwy na 4.5 miliwn o adeiladau ledled y Deyrnas Unedig, ac mae ffigurau newydd yn dangos bod mwy na 2 filiwn o gartrefi a busnesau wedi cofrestru ar gyfer cysylltiadau cyflym iawn mewn mannau lle mae’r Llywodraeth wedi buddsoddi mewn band eang.

Mae cymal yng nghontractau’r Llywodraeth yn ei gwneud yn ofynnol i gyflenwyr ailgylchu cyllid pan fydd pobl yn ymgymryd â chysylltiadau cyflym iawn fel rhan o’r rhaglen. Mae’r ymchwil a gyhoeddwyd heddiw yn dangos bod y cynnydd hwn wedi bod yn uwch na’r disgwyl, ac o ganlyniad, mae’r prif gyflenwr, BT, wedi neilltuo £465 miliwn i ymestyn y ddarpariaeth dros gyfnod llawn y contractau - cynnydd o’r £292 miliwn ym mis Rhagfyr y llynedd - yng nghenhedloedd y Deyrnas Unedig a’i rhanbarthau.

Ar y cyd ag arbedion effeithlonrwydd prosiect o £180 miliwn o ganlyniad i reoli a chyflwyno’r rhaglen yn llwyddiannus, bydd hyd at £645 miliwn ar gael i awdurdodau lleol ei ail-fuddsoddi a darparu cyflymder cyflym iawn i’r cartrefi a’r busnesau hynny nad ydynt eisoes wedi eu cynnwys yn y cynlluniau presennol. O hyn, mae dros £200 miliwn eisoes wedi ei ymrwymo i brosiectau i ymestyn band eang cyflym iawn.

Mae cysylltiadau cyflym iawn o 24Mbps ac uwch yn galluogi teuluoedd i wylio’r teledu ar ddyfeisiau lluosog ar yr un pryd, neu alluogi plant i wneud gwaith cartref tra bydd rhieni yn bancio a siopa ar-lein. Mae’r dechnoleg yn ddelfrydol ar gyfer llawer o fusnesau bach hefyd, gan alluogi penaethiaid i redeg gwefannau a phrynu a gwerthu ar-lein.

Daw’r cyhoeddiad diweddaraf hwn yn dynn ar sodlau camau diweddar gan y Llywodraeth i wella cyflymderau band eang yn y mannau mwyaf anghysbell yn y Deyrnas Unedig. Ym mis Gorffennaf, ymrwymodd yr Adran dros faterion Digidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon i gyflwyno Rhwymedigaeth Gwasanaeth Cyffredinol neu gytuno ar gynnig gwirfoddol cyfreithiol sy’n rhwymo gan BT i helpu i sicrhau bod gan bawb yn y Deyrnas Unedig y cysylltedd sydd ei angen arnynt ar gyfer yr oes ddigidol.

Nodiadau i Olygyddion:

  • Mae data annibynnol Thinkbroadband yn dangos bod dros 93 y cant o adeiladau’r Deyrnas Unedig yn gallu cael mynediad at fand eang cyflym iawn ar hyn o bryd, ac rydym yn disgwyl y bydd y ffigwr hwn yn cyrraedd 95 y cant erbyn diwedd y flwyddyn hon. Fodd bynnag, mae’r data Ofcom diweddaraf sydd ar gael yn dangos mai dim ond 31 y cant o adeiladau sydd wedi dewis uwchraddio i gysylltiad cyflym iawn.
Cyhoeddwyd ar 9 September 2017
Diweddarwyd ddiwethaf ar 12 September 2017 + show all updates
  1. Added translation

  2. First published.