Stori newyddion

Addewid y Llywodraeth i roi buddsoddiad ychwanegol i S4C yn hwb mawr i deledu Cymraeg

Alun Cairns: LLywodraeth y DU yn ymrwymo i gefnogi'r iaith Gymraeg

  • Benthyciad adleoli o £10m gan y Llywodraeth ar gyfer yr unig ddarlledwr Cymraeg-yn-unig yn y byd.
  • Caiff 800 o swyddi eu creu, rhoddir hwb o £11m i’r economi leol, a cheir trefniant cydleoli newydd gyda BBC Caerdydd.
  • Bydd cyllid o £350,000 gan y Llywodraeth yn galluogi’r darlledwr i uwchraddio ei offer.

Mae’r Llywodraeth wedi cyhoeddi heddiw bod y cwmni darlledu Cymraeg S4C yn mynd i elwa o hwb ariannol o dros ddeg miliwn o bunnoedd, gan helpu i ddiogelu ei ddyfodol.

Mae’r Llywodraeth wedi cymeradwyo benthyciad o £10 miliwn ar gyfer adleoli pencadlys y sianel i Gaerfyrddin. Bydd hyn yn creu dros 800 o swyddi yn yr ardal leol. Bydd yr arian hwn hefyd yn golygu y gall cyfleusterau technegol gael eu rhannu gyda’r BBC yng Nghaerdydd, gan leihau costau cyffredinol S4C a chynyddu ei gronfa o ddoniau creadigol. Ac mewn asesiad economaidd annibynnol gan Brifysgol Cymru, datgelwyd y bydd y symudiad hefyd yn rhoi hwb o tua £11 miliwn i economi leol Caerfyrddin.

Bydd S4C, y bedwaredd sianel deledu hynaf yn y DU, hefyd yn cael £350,000 o gyllid gan y Llywodraeth, gan alluogi’r darlledwr i uwchraddio llawer iawn ar ei offer technegol a TG. Bydd hyn yn sicrhau bod y sianel yn gyfredol, yn parhau i gyrraedd cynulleidfaoedd byd-eang ac yn parhau i fod yn berthnasol mewn marchnad ddarlledu gynyddol gystadleuol.

Meddai Karen Bradley, Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon:

Rydym yn gwneud Prydain yn wlad sy’n gweithio i bawb, ac rydym wedi ymrwymo i sicrhau dyfodol y byd darlledu Cymraeg. Mae gan S4C hanes balch o arddangos rhai o ddoniau gorau Prydain ac o ddarparu arlwy i gynulleidfaoedd Cymraeg eu hiaith ar draws y byd.

Mae gan S4C hanes darlledu cyfoethog, ar ôl ennill enw ardderchog iddi ei hun am gomisiynu rhaglenni dogfen, animeiddiadau a dramâu o’r radd flaenaf – fel Hinterland a Fferm Ffactor.

Bydd yr arian hwn nid yn unig yn sicrhau bod S4C yn dal i ffynnu, ond hefyd fod y sianel mewn sefyllfa i gystadlu’n fyd-eang.

Cyfrannodd S4C £114 miliwn i economi Cymru yn 2015/16 ac adroddodd y sianel yn ddiweddar bod ei ffigurau gwylio presennol yn uwch nag y buont mewn naw mlynedd, gan ddenu 629,000 o wylwyr yr wythnos ar gyfartaledd. Mae’r Llywodraeth yn awyddus i weld y llwyddiant hwn yn parhau, ac fel rhan o ymrwymiad y Llywodraeth i warchod teledu Cymraeg a rhoi iddo lwyfan byd-eang, yn ogystal â sicrhau cynaliadwyedd S4C, bydd yn lansio adolygiad annibynnol o’r sianel yn fuan. Bydd yr adolygiad yn edrych ar gylch gwaith, trefniadau llywodraethu a chyllid S4C fel bod y darlledwr yn gallu parhau i fodloni anghenion cynulleidfaoedd Cymraeg eu hiaith i’r dyfodol a buddsoddi mewn rhaglenni o safon. Bydd yr arian ychwanegol a gyhoeddwyd heddiw yn rhoi sefydlogrwydd ariannol gydol y broses adolygu.

Meddai Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Mae’r buddsoddiad hwn yn rhoi S4C ar sylfaen gadarn am flynyddoedd, gall sicrhau bod gwylwyr teledu yn dal i fwynhau amrywiaeth o raglenni teledu Cymraeg o safon. Mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo’n llwyr i gefnogi a hyrwyddo’r iaith Gymraeg, ac mae’r buddsoddiad heddiw yn brawf cadarn o hynny.

Caiff Sir Gaerfyrddin fanteision enfawr yn sgil y symud, gyda channoedd o swyddi’n cael eu creu yn lleol a miliynau’n mynd i economi’r rhanbarth. Edrychaf ymlaen at weld S4C yn ymgartrefu yn y stiwdios newydd, diweddaraf ac yn difyrru, yn herio ac yn hysbysu gwylwyr fel rhan o’n sgwrs genedlaethol.

Nodiadau i Olygyddion

  • Bydd y Llywodraeth yn darparu £350,000 o gyllid cyfalaf i S4C ar gyfer 2017/18. Caiff y sefyllfa ei hadolygu ar ganol y flwyddyn a bydd y Llywodraeth yn ystyried a oes angen rhagor o arian yn seiliedig ar hynt/canlyniad yr adolygiad o S4C.
  • Mae’r Llywodraeth hefyd yn buddsoddi yn nyfodol tymor hir S4C gyda benthyciad o £10m i alluogi i bencadlys S4C gael ei symud i Gaerfyrddin a rhannu cyfleusterau stiwdio gyda’r BBC yng Nghaerdydd.
  • Mae’r rhan fwyaf o gyllid S4C yn dod oddi wrth ffi’r drwydded deledu (£74.5m y flwyddyn).
  • Mae’r Llywodraeth wedi sicrhau oddeutu £80 miliwn o gyllid y flwyddyn ar gyfer S4C tan ddiwedd y cyfnod adolygu gwariant presennol, wedi’i ddarparu drwy gyfuniad o ffi’r drwydded a chyllid cymorth grant.
  • Dan y cynlluniau a gadarnhawyd gan Lywodraeth y DU, mae’r BBC hefyd yn cadw ei addewid i ddarparu 10 awr yr wythnos o raglenni Cymraeg i S4C ac adeiladu ar y bartneriaeth gadarn, bresennol rhwng y ddau gwmni darlledu sy’n helpu i ddarparu gwasanaethau teledu Cymraeg sy’n diwallu anghenion a disgwyliadau’r gwylwyr.
Cyhoeddwyd ar 20 March 2017