Datganiad i'r wasg

Beicwyr fydd allan dros ŵyl y banc yn cael cyngor chwalu mythau

Cafodd bron i 10,000 o feicwyr eu dirwyo am roi beiciau modur heb dreth ar y ffordd y llynedd yn ôl y ffigyrau diweddaraf gan DVLA.

This news article was withdrawn on

This page has been withdrawn because it is no longer current. Find out more about taxing a vehicle.

Dros y gaeaf, mae miloedd o feicwyr modur yn trefnu HOS (Hysbysiad Oddi ar y ffordd Statudol) ar gyfer eu beiciau – sy’n golygu y gallant gadw eu beiciau oddi ar y ffordd heb dalu treth. Mae ffigyrau diweddar gan DVLA yn dangos, o blith y beicwyr hynny sydd ond yn reidio am ran o’r flwyddyn, y bydd mwy na hanner yn mynd â’u beic modur allan ar ddechrau’r “cyfnod gwyliau banc”.

Penwythnos y Pasg yw’r adeg pan mae llawer o feicwyr yn dewis rhoi eu beiciau modur yn ôl ar y ffordd. Felly, mae DVLA yn cyhoeddi’r gwirionedd ynghylch rhai o’r mythau am drefnu HOS a threthu beic modur.

Myth 1: “Gallaf gadw fy meic modur ar y ffordd ar ôl trefnu HOS iddo – ond ni allaf ei yrru.”

Tra bod ‘HOS’ wedi ei drefnu ar gyfer eich beic modur ni ellir ei gadw ar ffordd gyhoeddus - sy’n golygu fod rhaid ei gadw mewn garej, ar rodfa neu ar dir preifat.

Myth 2: “Os rwyf ond yn mynd allan ar fy meic modur unwaith, does dim angen i mi ei drethu.”

Yn ôl y gyfraith, rhaid trethu beiciau modur cyn y gellir eu defnyddio neu eu cadw ar ffordd gyhoeddus. Os na wnewch hynny, rydych mewn perygl o gael eich dal a’ch dirwyo llawer mwy na chost flynyddol trethu eich beic modur.

Fodd bynnag, mae un achlysur pan nad yw hynny’n wir…

…gallwch reidio beic modur i apwyntiad MOT a drefnwyd ymlaen llaw o dan ‘HOS’ – ond mae’n rhaid i chi gael yswiriant modur.

Myth 3: “Nid yw defnyddio beic modur ar ôl trefnu HOS iddo yn rhywbeth i boeni amdano.”

Mae defnyddio unrhyw gerbyd ar ffordd gyhoeddus tra trefnwyd HOS ar ei gyfer yn drosedd droseddol o dan Adran 29 Deddf Trethu & Chofrestru Cerbydau 1994. Uchafswm y ddirwy yw £2,500.

Myth 4: “Mae trethu beic modur ar ôl trefnu HOS iddo yn golygu llawer o waith papur a chost.”

Gall trethu ar-lein gymryd munudau ac fe gewch gadarnhad yn syth ei bod yn gyfreithlon i chi ddefnyddio eich beic modur ar y ffordd. Ewch i www.gov.uk/vehicle-tax a gofalwch fod eich llyfr cofnod (V5CW) gennych. Os nad yw eich V5C gennych, gallwch fynd i swyddfa bost i wneud cais am un. Gallant drethu’r cerbyd i chi ar yr un pryd.

Myth 5: “Rydw i newydd brynu’r beic modur felly mae’r HOS neu dreth yn cael ei drosglwyddo i mi.”

Yn yr un modd nad yw treth yn cael ei drosglwyddo pan gaiff beic modur ei werthu, nid yw ‘HOS’ ychwaith yn cael ei drosglwyddo i’r ceidwad newydd. Rhaid i chi drethu cerbyd cyn ei roi ar ffordd gyhoeddus. Felly, os ydych yn prynu beic modur ac eisiau mynd ag ef allan yn syth – cofiwch ei drethu. Gallwch wneud hynny ar ochr y ffordd ar eich ffôn – trwy’r wefan neu’r ganolfan gyswllt – ar yr amod fod y ddalen ceidwad newydd gwyrdd gennych o’r V5CW.

Myth 6: “Dydw i ddim yn talu treth – mae am ddim, felly does dim rhaid i mi ei drethu, na threfnu HOS iddo.”

Hyd yn oed os oes ‘dim treth’ ar gyfer eich beic modur ac nad oes rhaid i chi dalu unrhyw beth wrth ei drethu, mae dal angen i chi drethu eich cerbyd bob blwyddyn a bydd angen hefyd i chi drefnu ‘HOS’ os nad ydych yn adnewyddu eich treth cerbyd.

Myth 7: “Nid yw’r beic modur wedi’i gofrestru yn fy enw i eto. Felly, alla i ddim ei drethu na threfnu HOS iddo.”

Os ydych newydd brynu’r beic modur, gallwch wneud hynny o hyd, ar yr amod fod y ddalen ceidwad newydd gwyrdd o’r llyfr log gennych (V5CW). Os nad oes gennych unrhyw ddogfennau, gallwch wneud cais mewn Swyddfa Bost.

Dywedodd Rohan Gye, Rheolwr Gwasanaethau Cerbydau,

Er y gall fod nifer o fythau am HOS mae’r rheolau yn glir ac yn hawdd eu deall – mae’n rhaid i chi drethu eich beic modur cyn ei roi ar y ffordd. Os ydych wedi trefnu HOS ar gyfer eich beic dros y gaeaf, y ffordd gyflymaf a rhwyddaf o drethu yw ar-lein.

Er mwyn cael mwy o wybodaeth gan DVLA am drethu cerbyd a’i wneud ar-lein heddiw ewch i www.gov.uk/vehicle-tax.

Swyddfa'r Wasg

Swyddfa'r Wasg y DVLA
Longview Road
Treforys
Abertawe
SA6 7JL

E-bost press.office@dvla.gov.uk

Dim ond ar gyfer newyddiadurwyr a'r wasg yn unig 0300 123 2407

Cyhoeddwyd ar 29 March 2018