Datganiad i'r wasg

Stryd Fawr Orau Prydain - Y Frwydr yn Dechrau

Mae Ysgrifennydd Cymru yn galw ar bob stryd fawr yng Nghymru i gymryd rhan yng nghystadleuaeth Stryd Fawr Orau Prydain

Great British High Street Logo

Heddiw (20 Mehefin 2018) mae Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns, yn galw ar gymunedau o bob cwr o Gymru i gyflwyno eu pentrefi, eu trefi a’u dinasoedd i gystadleuaeth Stryd Fawr Orau Prydain 2018.

Mae’r gystadleuaeth yn dathlu’r gwaith gwych sy’n cael ei wneud i adfywio, addasu ac amrywio’r stryd fawr ac mae’n gyfle i gynghorau, busnesau, grwpiau cymunedol a gwirfoddolwyr ddysgu gan y goreuon.

Cynhaliwyd y gystadleuaeth ddiwethaf yn 2016 a chafwyd 900 o ymgeiswyr o bob cwr o’r Deyrnas Unedig a thros 500,000 o bleidleisiau cyhoeddus. Stryd fawr Blackburn ddaeth i’r brig fel y stryd fawr orau ym Mhrydain. Daeth stryd fawr Prestatyn yng ngogledd Cymru yn agos iawn i’r brig yn y categori cymunedau arfordirol.

Enillodd Bae Colwyn y categori arfordirol yn 2014.

Eleni, mae strwythur gwobrwyo newydd wedi ei ddatblygu a bydd enillwyr yn cael eu cyhoeddi ym mhob un o bedair gwlad y Deyrnas Unedig, sef Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon, a hynny mewn dau gategori, sef Y Stryd Fawr Orau a’r Stryd Fawr Fwyaf Addawol.

Bydd y categori Y Stryd Fawr Orau yn gwobrwyo strydoedd gorau Prydain a bydd y categori Y Stryd Fawr Fwyaf Addawol yn gwobrwyo’r strydoedd mwyaf uchelgeisiol, sy’n datblygu ac yn gweithio gyda’i gilydd i adfywio, i addasu ac i amrywio.

Hefyd, bydd enillydd cyffredinol yn cael ei gyhoeddi ar gyfer gwobr Stryd Fawr y Flwyddyn Prydain a Gogledd Iwerddon.

Gan fod categorïau a gwobrau newydd yn y fantol, dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru ei fod yn disgwyl gweld llawer mwy o strydoedd o Gymru yn cystadlu eleni.

Dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Mae cystadleuaeth Stryd Fawr Orau Prydain yn gyfle i ddangos cryfderau strydoedd Cymru. Mae’n gyfle i chwalu pob myth am ddyfodol canol ein trefi yn tymor hir, ac mae’n gyfle i wobrwyo’r doniau lleol, y gwaith tîm a’r egni sy’n cyfrannu at wneud ein strydoedd yn llefydd gwych i fyw, i weithio neu i ymweld â nhw.

Dyna pam rydw i’n falch mai fi sy’n hyrwyddo’r gystadleuaeth hon yng Nghymru. Rydyn ni’n awyddus i ddod o hyd i drysorau cudd y wlad. Felly, p’un ai a ydych chi’n dref farchnad, yn bentref arfordirol neu’n ganol tref, mae cynifer o strydoedd ledled Cymru yn gwneud gwaith gwych. Mae angen eu cefnogi nhw a sicrhau bod strydoedd Cymru yn y ras i gael y gwobrau a fydd yn cael eu cyhoeddi yn yr hydref.

Eleni, mae hi’n haws nag erioed i’ch stryd fawr gystadlu.

Os ydych chi’n awdurdod, yn gymdeithas neu’n dîm cymunedol lleol sy’n cynrychioli eich stryd fawr, yna cliciwch yma i gofrestru eich diddordeb ac i gael rhagor o wybodaeth a chyfarwyddiadau gystadlu.

Os ydych chi’n aelod o’r cyhoedd ac yn awyddus i’ch stryd fawr ymgeisio, yna cysylltwch â’ch Aelod Seneddol neu’ch awdurdod lleol yn uniongyrchol i annog y cyngor i gofrestru ar ran eich cymuned.

Nodiadau i olygyddion.

  • I gael manylion y gystadleuaeth, ewch i: www.thegreatbritishhighstreet.co.uk neu @TheGBHighSt ar Twitter.
  • RHAID COFRESTRU ERBYN 23:59, 22 AWST 2018
  • Bydd y rhai sy’n cyrraedd y rhestr fer yn cael gwahoddiad i seremoni wobrwyo yn Llundain fis Tachwedd i ddathlu’r strydoedd sy’n llwyddo ac yn dylanwadu ar newid.
  • Hefyd, bydd Timau Strydoedd GBHS Visa yn ymweld â strydoedd a ddewisir ar hap yn ystod cyfnod y Gwobrau. Byddant yn hyrwyddo’r strydoedd sydd wedi cofrestru a byddant yn rhoi syrpréis i ddefnyddwyr a busnesau drwy gynnal gweithgareddau a chynnig gwobrau

I gofrestru eich stryd fawr, bydd yn rhaid i chi fod yn cynrychioli:

  • Ardal Gwella Busnes
  • Awdurdod Lleol
  • Cyngor Plwyf
  • Tîm Tref
  • Tîm Cymuned Arfordirol
  • Partneriaeth Canol Tref
  • Cwmni Buddiannau Cymunedol
  • Siambrau Masnach
  • Cymdeithas Fasnach
Cyhoeddwyd ar 20 June 2018