Datganiad i'r wasg

Datganiad yr Hydref ar frig yr agenda yng nghyfarfod y Grŵp Cynghori ar Fusnes

Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David Jones yn croesawi aelodau cymuned busnes Cymru i Lundain

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Secretary of State for Wales, Rt. Hon David Jones MP

Y Datganiad yr Hydref nesaf oedd prif ffocws y trafodaethau ymhlith cynrychiolwyr o gymuned fusnes Cymru yn ystod cyfarfod ag Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David Jones, yn Llundain heddiw (15 Hydref 2013).

Croesawodd Mr Jones aelodau o’r Grŵp Cynghori ar Fusnes i Dŷ Gwydyr, lle manteisiodd ar y cyfle i holi am farn yr aelodau ynghylch pa gynigion polisi yr hoffent hwy eu gweld yn cael eu cynnwys yn Natganiad Hydref y Canghellor [4 Rhagfyr 2013].

Fel rhan o’r broses o lunio polisïau, mae Trysorlys Ei Mawrhydi yn croesawu safbwyntiau rhanddeiliaid ar y darpariaethau yr hoffent eu gweld yn cael eu cynnwys yn natganiadau’r gyllideb, gyda’r nod o ysgogi twf economaidd.

Trafododd aelodau cymuned fusnes Cymru eu cynigion yn y cyfarfod heddiw, a nawr bydd yr Ysgrifennydd Gwladol yn rhannu’r cynigion gyda Changhellor y Trysorlys ar gyfer eu hystyried.

Cynhaliwyd y cyfarfod ar y diwrnod y cyhoeddodd Llywodraeth y DU y byddai Benthyciadau i Gychwyn yn cael eu cyflwyno ledled Cymru. Mae’r cynllun, a ariennir gan y Llywodraeth, yn rhoi cyfle i ddarpar entrepreneuriaid gael cyllid a gwasanaeth mentora busnes proffesiynol i’w helpu i gychwyn a rhedeg menter lwyddiannus. Hyd yma, mae’r cynllun wedi helpu dros 8,000 o fusnesau yn y DU i gael eu traed oddi tanynt ac mae wedi rhoi benthyg dros £42m dros y 12 mis diwethaf.

Dywedodd David Jones, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Yn gynharach y mis hwn, bûm yng ngwobrau Fast Growth 50 yng Nghaerdydd, ac fe wnaeth y llwyddiant y mae cwmnïau Cymru wedi’i gael dros y flwyddyn ddiwethaf gryn argraff arnaf i, yn ogystal â’r ffordd y maen nhw wedi ymateb yn gadarnhaol i amodau economaidd anodd.

Bydd cyflwyno’r cynllun Benthyciadau i Gychwyn yng Nghymru yn rhoi cyfle i lawer mwy o’n darpar entrepreneuriaid i fwynhau’r llwyddiant hwn. Byddwn i’n eu hannog i fanteisio ar y cymorth sydd ar gael i fynd amdani a throi eu syniadau yn fusnesau hyfyw a llwyddiannus ar gyfer y dyfodol.

Trafodwyd y mater o ddiwygio rheolau’r UE er mwyn chwalu’r hyn sy’n rhwystro cystadleuaeth lwyddiannus rhwng busnesau, yn dilyn cyflwyniad gan swyddogion yr Adran Busnes, Arloesedd a Sgiliau.

Lansiodd Tasglu Busnes y Prif Weinidog ymgynghoriad ym mis Awst, yn gofyn am farn busnesau ym Mhrydain, gyda’r nod o gasglu enghreifftiau cadarn ac ymarferol o rwystrau’r UE i gystadleurwydd busnesau. Roedd yr Ysgrifennydd Gwladol yn annog aelodau i gyflwyno eu barn ar gyfer yr ymgynghoriad hwn, a chefnogi’r Tasglu gyda’i waith pwysig.

Ychwanegodd Mr Jones:

Mae’r Llywodraeth hon yn dymuno pwysleisio bod Cymru ar agor i fusnes. Fel Cadeirydd Grŵp Cynghori ar Fusnes Swyddfa Cymru, rwyf bob amser yn awyddus i sicrhau bod fy nghydweithwyr yn y cabinet yn clywed barn busnesau, yn ogystal â thynnu sylw at rôl bwysig Cymru yn nhwf y sector preifat.

Wrth i ni edrych ymlaen at Ddatganiad Hydref y Canghellor, mae’n bwysig i mi fanteisio ar y cyfle hwn i glywed y math o gynigion polisi yr hoffai cynrychiolwyr cymuned fusnes Cymru i’r Trysorlys eu hystyried, gyda’r nod o helpu i lywio economi Cymru o achub i adfer.

Yn ystod y cyfarfod, cadeiriodd yr Ysgrifennydd Gwladol drafodaeth ar yr amgylchedd busnes ar hyn o bryd, ac ar ymateb busnesau i’r her economaidd bresennol.

Nodiadau i Olygyddion

  • I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Thîm Cyfathrebu Swyddfa Cymru ar 029 2092 4204 / 020 7270 1362.

  • I gael rhagor o wybodaeth am y cyhoeddiad am y Benthyciadau i Gychwyn, cysylltwch â thîm y wasg yr Adran Busnes, Arloesedd a Sgiliau ar 020 7215 5000.

Cyhoeddwyd ar 15 October 2013