Data Tueddiadau'r Farchnad mis Awst 2014
Data Tueddiadau'r Farchnad y Gofrestrfa Tir ar gyfer Cymru a Lloegr.

- Pris tai cyfartalog yng Nghymru a Lloegr bellach yn £177,824 o gymharu â’r uchafbwynt o £181,383 ym mis Tachwedd 2007
- Twf blynyddol o 8.4 y cant ym mis Awst
- Prisiau tai wedi codi 1.0 y cant oddi ar fis Gorffennaf
- 794 o adfeddiannau yng Nghymru a Lloegr yn ystod mis Mai 2014
- Cyflwynwyd dros 82,600 o eiddo preswyl yng Nghymru a Lloegr i’w cofrestru ym mis Awst yn amrywio o £13,000 i £19.5 miliwn
Mae data mis Awst o Fynegai Prisiau Tai blaenllaw y Gofrestrfa Tir yn dangos cynnydd prisiau blynyddol o 8.4 y cant sy’n mynd â gwerth eiddo cyfartalog yng Nghymru a Lloegr i £177,824. Mae prisiau tai wedi codi 1.0 y cant oddi ar fis Gorffennaf. Gostyngodd niferoedd yr adfeddiannau 36 y cant ym mis Mehefin 2014 i 794 o gymharu â 1,238 ym mis Mehefin 2013.
- Y rhanbarth yng Nghymru a Lloegr welodd y cynnydd mwyaf yn ei werth eiddo cyfartalog yn ystod y 12 mis diwethaf yw Llundain gyda symudiad o 21.6 y cant
- Llundain welodd y twf prisiau misol mwyaf gyda symudiad o 2.7 y cant
- Gogledd Ddwyrain Lloegr welodd y twf prisiau blynyddol isaf gyda symudiad o 3 y cant
- De Orllewin Lloegr and Gogledd Orllewin Lloegr welodd y gostyngiad prisiau misol mwyaf arwyddocaol o 0.1 y cant
- Mae’r ffigurau mwyaf cyfredol sydd ar gael yn dangos i nifer y gwerthiannau tai a gwblhawyd yng Nghymru a Lloegr ym mis Mehefin 2014 gynyddu 11 y cant i 73,158 o gymharu â 66,123 ym mis Mehefin 2013
- Mae nifer yr eiddo yng Nghymru a Lloegr a werthwyd am fwy nag £1 miliwn ym mis Mehefin 2014 wedi cynyddu 34 y cant i 1,135 o 848 ym mis Mehefin 2013
- Y rhanbarth welodd y gostyngiad mwyaf mewn gwerthiannau adfeddiannau ym mis Mehefin 2014 oedd Dwyrain Canolbarth Lloegr
Rhanbarth | Newid misol oddi ar fis Gorffennaf 2014 | Newid blynyddol oddi ar fis Awst 2013 | Pris cyfartalog Awst 2014 |
---|---|---|---|
Llundain | 2.7% | 21.6% | £467,070 |
De Ddwyrain Lloegr | 1.7% | 11.6% | £238,119 |
Dwyrain Lloegr | 1.9% | 8.3% | £192,295 |
Cymru | 0.4% | 3.4% | £118,814 |
Cymru a Lloegr | 1.0% | 8.4% | £177,824 |
De Orllewin Lloegr | 0.1% | 5.8% | £183,991 |
Gogledd Orllewin Lloegr | 0.1% | 4.2% | £113,269 |
Dwyrain Canolbarth Lloegr | 0.7% | 5.9% | £131,171 |
Gorllewin Canolbarth Lloegr | 0.2% | 4.4% | £135,637 |
Gogledd Ddwyrain Lloegr | 0.6% | 3.0% | £100,781 |
Swydd Gaerefrog a’r Humber | 1.6% | 4.0% | £121,466 |
Pris cyfartalog yn ôl math o eiddo 2014 i 2013
Pris cyfartalog yn ôl math o eiddo (Cymru a Lloegr) | Awst 2014 | Awst 2013 | Gwahaniaeth (%) |
---|---|---|---|
Tŷ sengl | £278,003 | £258,615 | 7.5% |
Tŷ pâr | £166,667 | £155,407 | 7.2% |
Tŷ teras | £134,594 | £124,140 | 8.4% |
Fflat/Fflat deulawr | £171,975 | £155,137 | 10.9% |
Holl | £177,824 | £164,116 | 8.4% |
Nifer y gwerthiannau 2013 i 2012
Mis | Gwerthiannau 2013 Cymru a Lloegr | Gwerthiannau 2012 Cymru a Lloegr | Gwahaniaeth |
---|---|---|---|
Ionawr | 43,392 | 43,787 | -1% |
Chwefror | 45,260 | 44,875 | 1% |
Mawrth | 54,732 | 61,380 | -11% |
Ebrill | 51,033 | 43,283 | 18% |
Mai | 66,334 | 52,563 | 26% |
Mehefin | 66,123 | 59,902 | 10% |
Gorffennaf | 73,723 | 59,191 | 25% |
Awst | 79,544 | 65,060 | 22% |
Medi | 69,969 | 52,898 | 32% |
Hydref | 77,244 | 59,258 | 30% |
Tachwedd | 83,511 | 64,009 | 30% |
Rhagfyr | 80,225 | 56,736 | 41% |
Cyfanswm | 791,090 | 662,942 | 19% |
Nifer y gwerthiannau 2014 i 2013
Mis | Gwerthiannau 2014 Cymru a Lloegr | Gwerthiannau 2013 Cymru a Lloegr | Gwahaniaeth |
---|---|---|---|
Ionawr | 65,856 | 43,392 | 52% |
Chwefror | 65,412 | 45,260 | 45% |
Mawrth | 67,494 | 54,732 | 23% |
Ebrill | 69,838 | 51,033 | 37% |
Mai | 75,213 | 66,334 | 13% |
Mehefin | 73,158 | 66,123 | 11% |
Adfeddiannau fesul rhanbarth 2014 i 2013
Adfeddiannau fesul rhanbarth | Mai 2014 | Mai 2013 | Gwahaniaeth |
---|---|---|---|
Dwyrain Lloegr | 52 | 107 | -51% |
Dwyrain Canolbarth Lloegr | 68 | 121 | -44% |
Llundain | 71 | 105 | -32% |
Gogledd Ddwyrain Lloegr | 29 | 38 | -24% |
Gogledd Orllewin Lloegr | 196 | 291 | -33% |
De Ddwyrain Lloegr | 90 | 155 | -42% |
De Orllewin Lloegr | 55 | 75 | -27% |
Cymru | 60 | 80 | -25% |
Gorllewin Canolbarth Lloegr | 75 | 95 | -21% |
Swydd Gaerefrog a’r Humber | 98 | 171 | -43% |
Holl | 794 | 1,238 | -36% |
Mae’r Data pris a dalwyd yn cynnwys manylion dros 88,930 o werthiannau eiddo preswyl yng Nghymru a Lloegr a gyflwynwyd i’w cofrestru ym mis Awst 2014. Mae’r eiddo drutaf a werthwyd ym mis Awst 2014 wedi’i leoli yn Knightsbridge, Llundain SW7 a werthwyd am £17,750,000 miliwn. Mae’r gwerthiant rhataf a werthwyd ym mis Awst 2014 wedi’i leoli yn Bishop Auckland, Swydd Durham a werthwyd am £16,400.
Nodiadau i olygyddion
-
Cyhoeddir Data Tueddiadau’r Farchnad ar ugeinfed diwrnod gwaith pob mis. Cyhoeddir Mynegai Prisiau Tai mis Medi ar ddydd Mawrth 28 Hydref 2014 am 9.30 y bore a’r set data Pris a Dalwyd am 11 y bore ar yr un diwrnod.
- Mae calendar rhyddhau y prif ffigur a’r Mynegai lawn ar gael yn www.gov.uk/government/about-the-house-price-index.
- Mae’r Data Trafodiad bellach ar gael ar bymthegfed diwrnod gwaith y mis. Cyhoeddir set data trafodiad mis Medi ar 21 Hydref 2014 am 11 y bore.
- Mae’r Mynegai Prisiau Tai yn defnyddio sampl sy’n fwy na’r holl fesurau ystadegol eraill sydd ar gael. Mae’n cael ei gyfrifo ar sail set ddata’r Gofrestrfa Tir o holl werthiannau eiddo preswyl a gwblhawyd yng Nghymru a Lloegr oddi ar Ionawr 1995.
- Mae set ddata’r Gofrestrfa Tir yn cynnwys manylion dros 19 miliwn o drafodion preswyl. O’r rhain mae dros 7 miliwn yn barau cyfatebol y gellir eu hadnabod, sy’n darparu’r sail ar gyfer y dadansoddiad ailwerthiannau atchweliad a ddefnyddir i lunio’r mynegai. Mae’r dechneg addasu ansawdd hon yn sicrhau ein bod yn cymharu eiddo cyffelyb.
- Mae’r pris ystadegau ar gyfer Cymru a Lloegr ar dudalen 14 yr adroddiad Mynegai Prisiau Tai misol yn cynnwys data adfeddiannau ychwanegol.
- Mae’r data adfeddiannau yn seiliedig ar nifer y trafodion a gyflwynwyd i’r Gofrestrfa Tir gan roddwyr benthyg sy’n arfer eu pŵer gwerthu. Unwaith y byddwn wedi nodi’r trafodion hyn, rydym yn tynnu’r wybodaeth pris a dalwyd o’r cofnod perthnasol yn y gofrestr.
- Er bod y Mynegai yn mynd yn ôl i Ionawr 1995, dim ond oddi ar 2006 rydym wedi bod yn cofnodi adfeddiannau’n gynhwysfawr. Mae hyn yn golygu nad yw data adfeddiannau hanesyddol ar gael cyn mis Ionawr 2006. Gweler Am y Mynegai i gael rhagor o wybodaeth.
- Mae tablau cefndir y Mynegai ar gael fel Data agored ar ffurf Excel a CSV ac mewn ffurf y gellir ei darllen gan beiriant fel data cysylltiedig. Maent ar gael am ddim i’w defnyddio a’i ailddefnyddio o dan y Drwydded Llywodraeth Agored (TLlA).
-
Mae’r Data Pris a Dalwyd yn ddata prisiau eiddo preswyl ar gyfer unrhyw werthiannau eiddo preswyl yng Nghymru a Lloegr a gyflwynir i ni i’w cofrestru yn ystod y mis hwnnw. Mae’r wybodaeth ganlynol ar gael ar gyfer pob eiddo: * y cyfeiriad llawn * y pris a dalwyd * dyddiad y trosglwyddiad * y math o eiddo * ai adeilad newydd yw’r eiddo ai peidio * ai rhydd-ddaliol neu brydlesol yw’r eiddo
- Gellir llwytho Data pris a dalwyd i lawr ar ffurf CSV ac mewn ffurf y gellir ei darllen ar beiriant fel data cysylltiedig . Mae ar gael i unrhyw un ei archwilio neu ei ail-ddefnyddio am ddim o dan y TLlA.
- Fel adran o’r llywodraeth a sefydlwyd ym 1862, asiantaeth weithredol a chronfa fasnachu sy’n atebol i’r Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Arloesedd a Sgiliau, mae’r Gofrestrfa Tir yn cadw ac yn cynnal y Gofrestrfa Tir ar gyfer Cymru a Lloegr. Mae’r Gofrestrfa Tir yn ddogfen agored oddi ar 1990.
- Gyda’r gronfa data o drafodion eiddo fwyaf o’r fath gyda manylion tua 24 miliwn o deitlau, mae’r Gofrestrfa Tir yn cefnogi’r economi trwy ddiogelu perchnogaeth eiddo sy’n werth biliynau o bunnoedd.
- I gael rhagor o wybodaeth am y Gofrestrfa Tir, ewch i www.gov.uk/land-registry. Dilynwch ni ar Twitter @LandRegGov, ein blog, LinkedIn a Facebook.
Cysylltu
Swyddfa'r wasg
Trafalgar House
1 Bedford Park
Croydon
CR0 2AQ
Email HMLRPressOffice@landregistry.gov.uk
Ffôn (dydd Llun i ddydd Gwener 8.30am a 5.30pm) 0300 006 3565
Symudol (5.30pm a 8.30am) 07864 689 344