Datganiad i'r wasg

Data Trafodiad mis Ebrill 2015

Mae'r data a gyhoeddir yma yn rhoi gwybodaeth am y niferoedd a'r mathau o geisiadau a gwblhawyd gan y Gofrestrfa Tir ym mis Ebrill 2015.

Ym mis Ebrill 2015:

  • y Gofrestrfa Tir yn cwblhau 1,363,565 o geisiadau
  • De Ddwyrain Lloegr ar frig y tabl o geisiadau rhanbarthol gyda 314,893 o geisiadau
  • Dinas Westminster ar frig y tabl o geisiadau awdurdodau lleol gyda 21,209 o geisiadau

Mae’r Data Trafodiad yn dangos i’r Gofrestrfa Tir gwblhau dros 1,363,560 o geisiadau gan ei chwsmeriaid ym mis Ebrill. Mae hyn yn cynnwys 1,325,062 o geisiadau gan gwsmeriaid cyfrif, gyda:

  • 311,084 ohonynt yn geisiadau mewn perthynas â thir cofrestredig (deliadau)
  • 637,719 yn geisiadau i gael copi swyddogol o gofrestr neu gynllun teitl
  • 170,455 yn chwiliadau
  • 79,723 yn drafodion am werth
Rhanbarth Ceisiadau
De Ddwyrain Lloegr 314,893
Llundain Fwyaf 266,868
Gogledd Orllewin Lloegr 151,747
De Orllewin Lloegr 130,576
Gorllewin Canolbarth Lloegr 113,052
Swydd Gaerefrog a’r Humber 106,234
Dwyrain Canolbarth Lloegr 98,033
Gogledd Lloegr 63,714
Cymru 63,470
Dwyrain Anglia 54,818
Ynysoedd Sili 84
Cymru a Lloegr (heb eu haseinio) 76
Cyfanswm 1,363,565
Tri phrif awdurdod lleol Ceisiadau
Dinas Westminster 21,209
Birmingham 20,715
Leeds 15,969
Tri phrif gwsmer Trafodion am werth
My Home Move Limited 1,545
Countrywide Property Lawyers 810
O’Neill Patient 694
Tri phrif gwsmer Chwiliadau
Enact 7,197
TM Group (UK) Ltd (Search Choice 6,984
Optima Legal Services 5,112

Mynediad i’r set lawn o ddata

Nodiadau i olygyddion

  1. Cyhoeddir y Data Trafodiad ar bymthegfed diwrnod gwaith pob mis. Cyhoeddir Data Trafodiad mis Mai ar ddydd Gwener 19 Mehefin 2015 am 11 y bore yn data.gov.uk
  2. Mae’r Data Trafodiad misol yn dangos faint o geisiadau am gofrestriadau cyntaf, prydlesi, trosglwyddiadau o ran, deliadau, copïau swyddogol a chwiliadau a gyflwynwyd gan gwsmeriaid cyfrif y Gofrestrfa Tir. Ar gyfer esboniad o’r termau a ddefnyddir, gweler Byrfoddau a ddefnyddir yn y Data Trafodiad.
  3. Mae trafodion am werth yn cynnwys gwerthiannau rhydd-ddaliol a phrydlesol.
  4. Mae’r rhan fwyaf o chwiliadau a gyflawnir gan gyfreithiwr neu drawsgludwr er mwyn gwarchod pryniant a/neu forgais. Er enghraifft, bydd chwiliad yn rhoi blaenoriaeth i brynwr am gais i’r Gofrestrfa Tir i gofrestru pryniant eiddo.
  5. Fel adran o’r llywodraeth a sefydlwyd ym 1862, asiantaeth weithredol a chronfa fasnachu sy’n atebol i’r Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Arloesedd a Sgiliau, mae’r Gofrestrfa Tir yn cadw ac yn cynnal y Gofrestr Tir ar gyfer Cymru a Lloegr. Mae’r gofrestr wedi bod ar agor i’r cyhoedd ei harchwilio oddi ar 1990.
  6. Gyda’r gronfa ddata o drafodion eiddo fwyaf o’r fath gyda manylion mwy na 24 miliwn o deitlau, mae’r Gofrestrfa Tir yn cefnogi’r economi trwy ddiogelu perchnogaeth eiddo sy’n werth biliynau o bunnoedd.
  7. I gael rhagor o wybodaeth am y Gofrestrfa Tir ewch i https://www.gov.uk/land-registry.
  8. Dilynwch chi ar Twitter @LandRegGov a dewch o hyd i ni ar ein blog, LinkedIn a Facebook.

Cysylltu

Swyddfa'r wasg

Trafalgar House
1 Bedford Park
Croydon
CR0 2AQ

E-bost HMLRPressOffice@landregistry.gov.uk

Ffôn (dydd Llun i ddydd Gwener 8.30am a 5.30pm) 0300 006 3565

Symudol (5.30pm a 8.30am) 07864 689 344

Cyhoeddwyd ar 22 May 2015