Dechrau Contractau Gwasanaethau'r Asiantaeth Orfodi Gymeradwy
Bydd darparwyr gwasanaethau newydd yn dechrau gweithio yn Lloegr gyda Chymru i ddilyn yn 2021.

Mae darparwyr newydd ar gyfer gwasanaethau’r Asiantaeth Orfodi Gymeradwy (AEA) yn dechrau gweithio i GLlTEM heddiw. Bydd y darparwyr newydd yn rheoli pob Gwarant Rheolaeth a Gwarantau Arestio mewn perthynas â gorfodi cosbau a chostau mewn achosion troseddol yn Lloegr.
Bydd y contractau newydd yn gweld arbedion o tua £4 miliwn y flwyddyn i’r Weinyddiaeth Gyfiawnder dros y pum mlynedd nesaf a byddant yn darparu gwasanaeth cyson ac effeithlon. Bydd adroddiadau a monitro perfformiad cadarn yn cael eu rhoi ar waith yn ogystal â phrotocolau o ran ymddygiad, ymdrin â chwynion a delio â diffynyddion bregus.
Disgwylir i wasanaethau newydd yng Nghymru ddechrau o’r 1af o Ebrill 2021 gyda darparwyr sydd â dyletswydd yn sicrhau parhad gwasanaeth o dan y trefniadau presennol fel a ganlyn:
Rhanbarth | O’r 1af o Fedi 2020 | O’r 1af o Ebrill 2021 |
---|---|---|
Llundain | Grŵp CDER | |
Canolbarth Lloegr | Grŵp CDER | |
Gogledd Ddwyrain Lloegr | Marston Holdings Ltd | |
Gogledd Orllewin Lloegr | Marston Holdings Ltd | |
De Ddwyrain Lloegr | Grŵp CDER | |
De Orllewin Lloegr | Marston Holdings Ltd | |
Cymru | Dim newid – Marston Holdings Ltd (Swift) ac Excel Civil Enforcement | Jacobs |
Darparwr Eilaidd A (Gogledd Ddwyrain Lloegr, Gogledd Orllewin Lloegr, De Orllewin Lloegr a Chymru) | Grŵp CDER | |
Darparwr Eilaidd B (Llundain, Canolbarth Lloegr a De Ddwyrain Lloegr) | Marston Holdings Ltd |