Stori newyddion

Alun Cairns yn ysgrifennu yn y Sunday Times

Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn siarad am ei blaenoriaethau

Pan ganodd y ffôn ddydd Sadwrn diwethaf a chefais wahoddiad gan y Prif Weinidog i fod yn Ysgrifennydd Gwladol Cymru newydd, roeddwn i’n gwybod ar unwaith beth roeddwn i am ei gyflawni yn y swydd.

Mae gennyf un flaenoriaeth yn arbennig: adeiladu economi cryf yng Nghymru fel bod mwy o gwmnïau’n buddsoddi yma, busnesau’n tyfu a mwy o bobl ar draws Cymru’n gallu cael budd o sicrwydd swydd sefydlog.

Gwnawn hynny trwy gydweithio.

Llai na deg diwrnod yn ôl, sicrhaodd Prifddinas-Ranbarth Caerdydd y Fargen Ddinesig. Mae hwn yn ddatblygiad sy’n newid y gêm ac yn golygu mwy na £1.2bn o fuddsoddiad yn gyfnewid am well cysylltiadau cludiant fel Metro De Cymru; adeiladu mwy o dai ac academi meddalwedd technoleg uchel. Mae hyn i gyd yn addo trawsnewid Caerdydd a’i hanfon i uwch-gynghrair prifddinasoedd.

Yr unig reswm y digwyddodd hyn yw oherwydd – er ein bod wythnosau’n unig i ffwrdd o etholiad – bod gwleidyddion wedi rhoi gwahaniaethau pleidiau gwleidyddol i’r neilltu er lles pawb.

Mae deg awdurdod lleol, Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU wedi cydweithio dros nifer o fisoedd i ddatblygu gweledigaeth fentrus ac arloesol nid oedd Llywodraeth y DU yn gallu ei gwrthod.

Gan adeiladu ar ymrwymiad y Canghellor yn y Gyllideb, y flaenoriaeth nesaf yw bargen twf i Ogledd Cymru a Bargen Ddinesig i Abertawe.

Y peth cyntaf a wnes i ar ddod yn Ysgrifennydd Gwladol oedd gofyn i’m swyddogion drefnu cyfarfod o amgylch y bwrdd yng Ngogledd Cymru ddydd Mercher yma gydag arweinwyr busnes, cynrychiolwyr awdurdodau lleol ac addysg uwch i roi hwb i drafodaethau ynglŷn â bargen twf. Mae fy nirprwy a anwyd yng Ngogledd Cymru, Guto Bebb, yn hyrwyddwr naturiol i’r rhanbarth a bydd hefyd yn sicrhau bod Gogledd Cymru yn manteisio i’r eithaf ar fod yn rhan o’r Pwerdy Gogleddol - yr uned economaidd honno sydd bellach yn ymestyn o Ogledd Cymru i Newcastle. Nid yw ffiniau awdurdodau lleol yn llywodraethu swyddi a bywydau pobl ac mae gan Swydd Gaer a Glannau Merswy gysylltiadau cryf â Gogledd Cymru. Bydd Guto yn gweithio i sicrhau bod y rhain yn gweithio er budd Gogledd Cymru.

Rwyf eisiau gweld yr un ysbryd o gydweithredu a ffocws ar ganlyniadau mewn bargen twf Gogledd Cymru â’r hyn a welwyd yng Nghaerdydd.

Nid ydym eto’n gwybod beth fydd y canlyniad. Ond nid yw cyhoeddiadau pennawd mawr fel yr un a welsom yng Nghaerdydd yn digwydd dros nos. Maent yn ganlyniad misoedd o waith amyneddgar. Gwaith Ysgrifennydd Gwladol yw ymgynnull y bobl barod – weithiau’r bobl amharod – ond ym mhob achos y bobl alluog i yrru’r prosiectau hyn ymlaen a rhoi elfennau bargen mewn lle.

Ysgrifennydd Gwladol Cymru yw llais Cymru yn San Steffan. Mae’n golygu llawer mwy na siarad ar ran Cymru yng Nghabinet y Prif Weinidog unwaith yr wythnos.Yn ymarferol, mae gan fy nhîm gweinidogol a minnau warant i guro ar ddrysau Whitehall a gwneud yn siŵr bod adrannau Llywodraeth y DU yn cyflawni dros Gymru.

Mae’n Ysgrifennydd Gwladol Cymru cryf yn gwneud yn siŵr bod Llywodraeth y DU yn cyflawni dros Gymru.

Dyma dair enghraifft ddiweddar. Cyhoeddodd y Canghellor yn y Gyllideb y byddai tollau Pont Hafren yn cael eu haneru yn 2018 – mesur a groesawyd gan gymudwyr a busnesau yn ne ddwyrain Cymru a gorllewin Lloegr.

Mae darlledu yn faes arall sydd o dan reolaeth Llywodraeth ganolog. Mae’r BBC yn wynebu pwysau aruthrol i dorri costau ac nid yw S4C – sy’n derbyn y rhan fwyaf o’i chyllid o ffi’r drwydded – yn eithriad i hynny. Rydym wedi dod o hyd i ffordd i ddiogelu cyllid S4C am flwyddyn. Mae Guto Bebb, fy Is Ysgrifennydd Gwladol Seneddol newydd, a minnau’n siaradwyr Cymraeg. Mae’r ddau ohonom yn gwerthfawrogi’r gwasanaethau hyn ac eisiau gweld ein hiaith frodorol yn ffynnu.

Edrychwn ar fater arall sy’n bwysig yng Nghymru – gwasanaeth ffôn symudol. Yr wythnos hon rwyf wedi casglu gweithredwyr ffôn symudol mwyaf y wlad ynghyd yn Nhŷ Gwydyr yn Llundain i weld sut allwn fynd i’r afael â gwasanaeth bylchog mewn ardaloedd gwledig yng Nghymru, a sicrhau y gall pobl heb wasanaeth gael mynediad at wasanaethau llais a data heb amhariad.

Fel rhan o’r Gyllideb, cyhoeddodd Llywodraeth y DU llacio o ran uchder mastiau ffôn symudol yn Lloegr. Gyda chefnogaeth y diwydiant ffôn symudol, bellach rwy’n gofyn i Lywodraeth Cymru ystyried datblygiad tebyg fel ein bod yn gallu rhoi hwb i wasanaethau llais a data. Nid yw gwasanaeth ffôn symudol 3G a 4G dibynadwy yn rhyw fath o gyfleuster y byddai’n neis ei gael; mae busnesau’n dibynnu arno a dylem ddisgwyl ei gael. Mae gan Gymru fodern yr hawl i gael seilwaith modern.

Mae’r hyn sy’n digwydd ar garreg eu drws yn bwysig i bobl yng Nghymru. Mae swyddi, gwasanaethau cyhoeddus a chyfleoedd i’n plant yn bwysig. Rwy’n rhannu’r farn honno. Ces i fy magu yng Nghymru, astudiais yno ac roedd fy nhad yn weldiwr ym Mhort Talbot. Fy nod yw cefnogi busnesau ym mhob sector a chymuned. Mae fy ngyrfa wedi fy nhywys i’r sector preifat lle bûm yn gweithio fel ymgynghorydd datblygu busnes i fanc, yn cefnogi unigolion a chwmnïau a oedd eisiau tyfu yng Nghymru. Rwy’n deall bod yn rhaid i unrhyw fusnes mewn mannau fel y Drenewydd neu Abergwaun ennill contractau a chwsmeriaid newydd - trwy’r dydd, bob dydd. Y bobl fentrus ag uchelgais a fydd yn helpu i adeiladu ac ehangu economi Cymru. Rwy’n deall eu hanghenion, a byddaf yn gwneud popeth y gallaf fel Ysgrifennydd Gwladol Cymru i’w helpu i wireddu eu huchelgais.

Mewn perthynas â busnes y Llywodraeth, mae gennyf berthynas da â Phrif Weinidog Cymru. Rydym wedi siarad yr wythnos hon ac mae’r ddau ohonom eisiau cyflawni’r hyn sy’n gweithio i Gymru. Fel aelod Cynulliad ers 11 mlynedd gallaf hawlio rhywfaint o ddealltwriaeth resymol o sut mae Bae Caerdydd yn gweithredu a defnyddiaf y wybodaeth fewnol honno i osgoi unrhyw ddrwgdeimlad diangen. Rwy’n gwybod nad yw dadleuon dirgel ynglŷn â’r cyfansoddiad yn bwyntiau trafod mawr ym mwytai’r Mwmbwls neu dafarndai Dinbych.

Yr hyn rwyf am ei weld yw’r partneriaethau ymarferol a phragmatig sy’n arwain at fargeinion buddsoddi fel Aston Martin Lagonda yn Sain Tathan a TVR yng Nglyn Ebwy. Credaf y bydd Cymru’n aros mewn Ewrop diwygiedig yn helpu cwmnïau fel Airbus yng Ngogledd Cymru i ffynnu. Mae’r busnesau y siaradaf â nhw ar draws Cymru - neu’r rheiny sy’n meddwl am ddod yma - yn dweud wrthyf eu bod eisiau’r farchnad sengl unigryw honno. Dyna pam y byddaf, fel Ysgrifennydd Gwladol Cymru, yn gwneud yr achos bod Cymru ar ei hennill o fewn Undeb Ewropeaidd ddiwygiedig.

Fy ngwaith yw sicrhau bod Llywodraeth y DU yn gweithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru i gyflawni mwy o sefydlogrwydd, sicrwydd a chyfleoedd i bobl sy’n gweithio ar draws yr holl wlad. Dyma genhadaeth Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn yr 21ain ganrif.

Cyhoeddwyd ar 31 March 2016