Stori newyddion

Alun Cairns: "Creu swyddi yng Nghymru o ganlyniad i fuddsoddiad o dramor yn amlygu potensial Cymru i fod yn ganolfan ar gyfer masnach a ffyniant ar ôl Brexit"

Ysgrifennydd Cymru yn ymateb i'r ffigurau diweddaraf ar gyfer Buddsoddi Uniongyrchol o Dramor

Inward investment

Inward investment opportunities for Wales

Mae buddsoddwyr o dramor yn dal i weld cyfleoedd i fuddsoddi yng Nghymru wrth i’r ffigurau newydd a gyhoeddwyd gan yr Adran Masnach Ryngwladol heddiw ddangos bod buddsoddiad o dramor wedi creu mwy na 3,000 o swyddi yng Nghymru yn ystod 2017-18 – dros 500 yn fwy na’r flwyddyn flaenorol.

Ar lefel y DU, mae ffigurau a gyhoeddwyd gan yr Adran Masnach Ryngwladol heddiw yn dangos bod 2,072 o brosiectau wedi cael eu cofnodi, bod 75,968 o swyddi newydd wedi’u creu a bod 15,063 o swyddi wedi cael eu diogelu, sy’n gyfanswm o bron i 1,500 o swyddi newydd bob wythnos ledled y wlad.

Llwyddodd Cymru i ddenu 57 o brosiectau ac fe gafodd 3,107 o swyddi newydd eu creu. Rhwng 2013 a 2018, mae bron i 70% o’r prosiectau y buddsoddwyd ynddynt yng Nghymru wedi dod o’r tu allan i’r UE.

Yn gyffredinol, mae’r DU wedi cynnal ei statws fel y gyrchfan sy’n derbyn y mwyaf o fewnfuddsoddiad yn Ewrop ac mae cynnydd wedi bod yn nifer y swyddi newydd yn y sectorau cyfanwerthu, bwyd a diod, electroneg a seilwaith.

Dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Mae nifer y swyddi sydd wedi cael eu creu yng Nghymru yn arwydd o hyder buddsoddwyr o dramor yn ein gwlad. Gyda bron i 70% o’r prosiectau yn dod o’r tu allan i’r DU yn ystod y pum mlynedd diwethaf, mae’n amlygu ein potensial i fod yn ganolfan ar gyfer masnach agored a ffyniant ar ôl i ni adael yr UE.

Mae Llywodraeth y DU wedi chwarae rôl allweddol yn y broses o ddenu buddsoddiadau allweddol i Gymru. Eleni yn unig, mae Medical Ethics, cwmni gwyddorau bywyd o Melbourne, wedi buddsoddi £3 miliwn yng Nghymru, ac fe fydd penderfyniad Toyota i adeiladu’r genhedlaeth nesaf o’r model Auris yn y DU yn cael effaith uniongyrchol a chadarnhaol ar y gwaith cynhyrchu injans yn eu gorsaf yng Nglannau Dyfrdwy.

Mae’r gwasanaeth awyrennau dyddiol cyntaf rhwng Caerdydd a Qatar wedi cael ei lansio hefyd ac fe fydd y gwaith arfaethedig o ehangu Maes Awyr Heathrow yn agor y drws i hyd yn oed mwy o fewnfuddsoddiad i Gymru o’r awyr, a fydd yn gwneud cysylltiad ein gwlad â gweddill y byd mor gryf ag y gall fod.

Ond ni allwn laesu dwylo. Mae sicrhau bod Cymru yn lle deniadol i fuddsoddwyr o dramor yn hollbwysig er mwyn sicrhau ein bod yn llwyddo yn y dyfodol ar ôl Brexit. Dyna pam rydw i wedi ymweld â Japan, Hong Kong a’r Dwyrain Canol yn ystod y flwyddyn ddiwethaf er mwyn dangos i arweinwyr busnes y byd fod Cymru yn wlad ag economi flaengar a deinamig sy’n uchelgeisiol ac yn awyddus i lwyddo. Mae ein hysbryd entrepreneuraidd, ein dyfeisgarwch a’n dawn arloesi, yn ogystal â sgiliau ein gweithlu, yn ein gwneud yn arbennig, ac fe fydd Llywodraeth y DU yn gwneud popeth posibl i hyrwyddo’r nodweddion hyn i weddill y byd.

Nodiadau i olygyddion

  • Gallwch weld y datganiad ystadegol llawn yma
  • Mae’r adran yn nodi mathau ehangach o brosiectau mewnfuddsoddi, gan gynnwys prosiectau uno a chaffael, a rhai sydd heb gael eu cyhoeddi gan fuddsoddwyr tramor.
  • Felly mae ffigurau’r prosiectau Buddsoddi Uniongyrchol o Dramor a gofnodwyd yn wahanol i’r rheini a nodwyd gan sefydliadau allanol fel EY ac FT, sy’n olrhain llif prosiectau Buddsoddi Uniongyrchol Tramor ar sail cyhoeddiadau buddsoddi yn bennaf.
  • Mae’r sefydliadau allanol hyn yn adrodd ar sail y flwyddyn galendr, ac mae ystadegau’r adran ar sail y flwyddyn ariannol.
Cyhoeddwyd ar 26 June 2018