Datganiad i'r wasg

Alun Cairns: Busnesau Cymru yn barod i lwyddo ar ôl Brexit

Heddiw (dydd Llun 22 Awst) bydd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, yn cyfarfod ag arweinwyr busnes yng nghanolbarth Cymru i rannu gweledigaeth optimistaidd ar gyfer Cymru ar ôl Brexit.

Bydd arweinwyr cwmnïau o bob math o feysydd, gan gynnwys eiddo a’r gyfraith, adwerthu, bancio a gweithgynhyrchu, yn rhan o ddigwyddiad arbennig i fusnesau a gynhelir gan Siambrau Masnach De a Chanolbarth Cymru yn y Drenewydd.

Dywedodd Mr Cairns:

Yn ystod yr wythnosau diwethaf, rydw i wedi bod yn cael cyfarfodydd ag arweinwyr busnesau a chynghorau, ac arweinwyr yn y sector cyhoeddus ledled Cymru, i drafod sut gellir gwneud yn siŵr bod Cymru yn y sefyllfa orau i lwyddo wrth i ni adael yr UE.

Rydw i wedi cael fy nharo gan safbwyntiau cadarnhaol entrepreneuriaid, sy’n teimlo y bydd cyfleoedd newydd yn codi o’r newid. Mae economi Cymru yn gadarn, gyda marchnad swyddi fywiog a chyfradd diweithdra is na gweddill y DU. Mae’r Prif Weinidog hefyd wedi pwysleisio ei bod yn cefnogi Pwerdy Gogledd Lloegr, a fydd yn rhoi cyfleoedd newydd i Ogledd Cymru.

Mae’n hanfodol ein bod yn cynnal cyfarfodydd gydag arweinwyr busnesau ac eraill i gael trafodaethau wrth i ni baratoi ar gyfer Brexit. Ond mae cyfle hefyd i ddweud: mae Llywodraeth y DU yn barod i gynnig cymorth i economi Cymru – economi ddynamig sy’n ffynnu. Dyna’r neges galonogol y byddaf yn ei chyfleu heddiw.

Dywedodd Liz Maher, Llywydd Siambrau Masnach De a Chanolbarth Cymru:

Er bod barn aelodau’r Siambr ar refferendwm yr Undeb Ewropeaidd yn amrywio, mae’r penderfyniad i’r DU adael yr UE wedi peri llawer o ansicrwydd i fusnesau Cymru.

Mae’r gymuned fusnes yn gobeithio y bydd y llywodraeth yn sicrhau sefydlogrwydd economaidd yn y tymor byr, eglurder ar y ffordd ymlaen a chamau gweithredu i wneud yn siŵr bod Cymru’n cael llwyddiant economaidd yn y dyfodol.

Rydym yn hynod o falch bod Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn cymryd y cam hwn i gyfarfod â busnesau yng nghanolbarth Cymru i glywed eu pryderon yn uniongyrchol, ac edrychwn ymlaen at ei weld yn mynd â nhw’n ôl i galon y llywodraeth.

Bydd Mr Cairns yn mynd yn ei flaen i weld prototeip o gar sy’n cael ei bweru gan gelloedd tanwydd hydrogen pan fydd yn ymweld â Riversimple Engineering yn Llandrindod. Bydd yn rhoi cynnig ar yrru’r Rasa, car trydan dwy sedd wedi’i wneud o ffibr carbon sy’n pwyso llai na 40 kg ond sy’n gallu teithio ar gyflymder o hyd at 60mya, gyda phellter teithio o 300 milltir.

Cyhoeddwyd ar 22 August 2016