Datganiad i'r wasg

Alun Cairns yn croesawu’r teithiau hedfan dros dro tra bo’r twnnel ar gau

Ysgrifennydd Gwladol Cymru wedi croesawu’r teithiau hedfan dros dro rhwng Caerdydd a Maes Awyr Dinas Llundain

Dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Mae’r teithiau hedfan gan FlyBe rhwng Caerdydd a Maes Awyr Dinas Llundain yn ffordd ddefnyddiol o sicrhau y bydd y cysylltiad rhwng prifddinas Cymru, Canary Wharf a chanol Llundain yn parhau pan fydd Twnnel Hafren yn cau dros dro.

Mae Caerdydd yn dod yn fwyfwy pwysig fel canolfan gwasanaethau ariannol, ac mae’r galw am gysylltiadau teithio cyflym i deithwyr busnes yn siŵr o gynyddu.

Rwy’n gobeithio y bydd mwy o wasanaethau hedfan rhanbarthol rhwng Llundain a Chaerdydd yn y tymor hwy. Mae angen i ni sicrhau ei bod hi mor hawdd â phosib i gymudwyr gyrraedd yma – boed hynny drwy hedfan neu oherwydd yr amseroedd teithio cyflymach a addawyd yn sgil cynllun uwchraddio Crossrail.

Cyhoeddwyd ar 12 September 2016