Alun Cairns yn croesawu lansiad yr Ŵyl Fusnes Ryngwladol
Mae Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, wedi canmol yr Ŵyl Fusnes Ryngwladol, gan ddweud ei bod yn “ffenestr siop ddelfrydol i gwmnïau Cymru”.

Dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:
TMae’r Ŵyl Fusnes Ryngwladol yn ffenestr siop ddelfrydol i gwmnïau Cymru ac yn gyfle i ryngweithio gyda chleientiaid posibl o bedwar ban byd.
Mae’r ŵyl yn cael ei chynnal yn Lerpwl – dinas sydd â chysylltiadau hanesyddol â Gogledd Cymru. Mae’r ddinas hefyd yn rhan o Bwerdy’r Gogledd, ardal fasnachu ddynamig sydd bellach yn ymestyn o Ogledd Cymru i Newcastle ac yn cysylltu dinasoedd mawr y gogledd a’u heconomïau unigryw.
Rwy’n edrych ymlaen at fynd i’r digwyddiad cyffrous hwn yr wythnos nesaf, ac rwy’n annog busnesau yng Ngogledd Cymru i wneud yr un fath.