Datganiad i'r wasg

Alun Cairns: "Mae cynhyrchwyr teledu annibynnol Cymru yn stori o lwyddiant rhyngwladol”

Bydd Ysgrifennydd Cymru yn llywyddu derbyniad ar y cyd yn Llundain gyda’r gymdeithas fasnach ar gyfer cynhyrchwyr teledu Cymru

Bydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns yn dathlu cyfraniad rhyngwladol aruthrol y cynhyrchwyr teledu annibynnol a’r diwydiannau creadigol mewn derbyniad ar y cyd gyda TAC (Teledwyr Annibynnol Cymru) yn Nhŷ Gwydyr yn ddiweddarach heddiw (dydd Llun, 11 Mehefin).

Yn ei araith i’r gymdeithas fasnach ar gyfer cynhyrchwyr teledu Cymraeg, bydd Mr Cairns yn cydnabod pwysigrwydd y diwydiannau creadigol i economi Cymru, diwydiant sy’n cyflogi oddeutu 50,000 o bobl drwy’r wlad. Bydd yn siarad yn ogystal ynglŷn â chefnogaeth barhaus Llywodraeth y DU i S4C a derbyn adolygiad annibynnol ynglŷn â’r darlledwr Cymraeg a oedd yn awgrymu pecyn o ddiwygiadau er mwyn gwasanaethu cynulleidfaoedd Cymraeg eu hiaith yn y dyfodol.

Bydd Margot James, y Gweinidog dros Ddigidol a’r Diwydiannau Creadigol a Gareth Williams, Cadeirydd TAC yn ymuno ag Ysgrifennydd Cymru i gydnabod cyflawniadau rhai o gynhyrchwyr mwyaf addurnog Cymru, yn cynnwys Boom Cymru, Rondo ac Avanti Media.

Cynhelir y derbyniad yn fuan iawn ar ôl y cyhoeddiad y bydd Caerdydd yn llywyddu Confensiwn y Dinasoedd Creadigol y flwyddyn nesaf, gan ennill cystadleuaeth gref gan Fryste a Glasgow oherwydd ei henw da rhyngwladol fel cartref Doctor Who a’i phoblogrwydd ymysg yr 20 miliwn o bobl sy’n ymweld â hi bob blwyddyn. Mae ardderchowgrwydd darlledu a diwylliannol Caerdydd hefyd wedi cael ei gydnabod gan Channel 4, sydd wedi rhoi’r ddinas ar restr fer fel safle posibl ar gyfer ei bencadlys newydd ochr yn ochr â Bryste, Glasgow, Manceinion Fwyaf, Leeds, Lerpwl a Gorllewin Canolbarth Lloegr.

Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru Alun Cairns:

Yng Nghymru, mae gennym ni rai o’r cynhyrchwyr teledu a’r darlledwyr annibynnol mwyaf talentog yn y byd, sy’n creu swyddi a chyfleoedd ar gyfer miloedd o bobl drwy’r wlad.

Yn gynyddol, mae ein dinasoedd yn dod yn gyrchfannau o ddewis ar gyfer buddsoddwyr mawr sy’n cydnabod yr effaith anferth y mae ein crewyr cynnwys yn ei gael ar y llwyfan rhyngwladol.

Dywedodd Margot James, Gweinidog ar gyfer y Diwydiannau Digidol a Chreadigol:

Mae ein diwydiannau creadigol yn bwerdy economaidd a diwylliannol sy’n cael eu mwynhau gan filiynau o amgylch y byd, ac mae’n wych gweld cynhyrchwyr annibynnol yng Nghymru yn cael y gydnabyddiaeth ryngwladol maent yn ei haeddu am eu gwaith anhygoel.

Rydym eisiau pob cenedl i gyfrannu tuag at y sectorau bywiog hyn ac rydym yn gweithio’n agos gyda diwydiannau creadigol a darlledwyr ar draws y wlad i wneud yn siŵr bod y llwyddiant hwn yn parhau yn y dyfodol.

Dywedodd Gareth Williams, Cadeirydd TAC:

Mae TAC yn gweithio’n galed i ddangos beth sydd gan ein sector i gynnig, ac rydym yn croesawu’n fawr gymorth Swyddfa Cymru yn y gwaith hwnnw.

Mae dwsinau o gwmnïau cynhyrchu egnïol yng Nghymru yn gwneud rhaglenni o ansawdd uchel mewn amrywiaeth eang o genres, o ddrama Un Bore Mercher/Keeping Faith a Bang i gydgynyrchiadau ffeithiol rhyngwladol; o gynnwys ar gyfer plant i chwaraeon a darllediadau o ddigwyddiadau byw.

Gall straeon, lleoliadau, safbwyntiau a lleisiau amrywiol Cymru cyfoethogi allbwn unrhyw ddarlledwr. Gyda Chaerdydd yn cynnal y Confensiwn Dinasoedd Creadigol yn 2019 ac yn ymddangos ar y rhestr fer fel lleoliad posibl ar gyfer canolfan Channel 4, mae llwyth o gyfleoedd o’n blaenau.

DIWEDD

Cyhoeddwyd ar 11 June 2018