Stori newyddion

Alun Cairns yn ymweld â pharth cefnogwyr yng Nghaerdydd cyn gêm gynderfynol hanesyddol Cymru ym mhencampwriaeth Euro 2016.

Mae Alun Cairns wedi ymweld â pharth cefnogwyr yng Nghaerdydd cyn gêm gynderfynol Cymru yn erbyn Portiwgal ym mhencampwriaeth Euro 2016.

Secretary of State for Wales, Rt Hon Alun Cairns MP in control room

Mae Stadiwm Principality yn ddelfrydol ar gyfer tyrfa lond y lle i fwynhau’r achlysur arbennig hwn, am ddim, mewn amgylchedd sy’n addas i’r teulu. Mae pencampwriaeth Euro 2016 wedi gwneud Cymru yn wlad falch dros ben ac mae llwyddiant tîm pêl-droed y wlad yn golygu bod Cymru wedi mynd cam ymhellach eto yn y bencampwriaeth Ewropeaidd.
Mewn cyfnod o ffyniant economaidd yng Nghymru, y gobaith yw gafael yn ysbryd y pencampwriaethau a denu rhagor o gyfleoedd buddsoddi o’r tu allan.

Dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Mae tîm pêl-droed Cymru nid yn unig wedi ysbrydoli ein cenedl ni, ond y Deyrnas Unedig gyfan hefyd gyda’i gynnydd ffantastig drwy bencampwriaethau Euro 2016.

Dan arweiniad rheolwr gwych, mae’r tîm hwn wedi cyflawni perfformiadau angerddol sydd wedi rhoi gwefr i bawb ohonom ni ac wedi codi calon y wlad. Mae’n rhaid troi at fuddugoliaeth stori tylwyth teg Clwb Pêl-droed Dinas Caerlŷr am rywbeth yr un modd ysbrydoledig. Mae’r tîm hwn o Gymru wedi creu hanes o ddifrif.

Heno, bydd y tîm unwaith eto’n cynnal gobeithion y genedl wrth i’r bechgyn wynebu Portiwgal. Pob lwc, ac ewch yr holl ffordd i’r rownd derfynol.

Cyhoeddwyd ar 6 July 2016