Datganiad i'r wasg

Alun Cairns yn ymweld ag Affganistan ac yn canmol “ysbryd anhygoel a chyfraniad” milwyr Cymru

Ymweliad yn nodi ‘mis i fynd’ tan Diwrnod Lluoedd Arfog y DU yn Llandudno

Alun Cairns delivers Welsh Jerseys to the troops

Mae milwyr Cymru sydd wedi’u lleoli yn Affganistan yn arddangos yr “ysbryd anhygoel”, sydd wastad wedi bod yn nodweddiadol o filwyr Cymru, wrth iddynt weithio i gefnogi’r wlad sydd wedi’i chwalu gan ryfela, meddai Alun Cairns heddiw.

Siaradodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn dilyn ei ymweliad am gyfnod o 24 awr â milwyr y Gwarchodlu Cymreig sydd wedi’u lleoli ym mhrifddinas Afghanistan, Kabul. Cafodd Mr Cairns sgwrs gyda’r milwyr i ddysgu mwy am eu rôl yn darparu diogelwch ac yn mentora a chynorthwyo swyddogion Affganaidd wrth i Lywodraeth y wlad barhau gyda’r gwaith ailadeiladu. Cafodd gyfarfod gydag Uwch Gadlywyddion y Fyddin Brydeinig hefyd i gael diweddariad ar ymgyrch cadw’r heddwch y milwyr.

Dywedodd Mr Cairns:

Roeddwn i wedi fy ysbrydoli gan ysbryd anhygoel a meddylfryd penderfynol y milwyr wnes i gyfarfod â hwy, sy’n gwneud eu gwaith mewn amgylchedd tanllyd sy’n aml yn beryglus.

Ar ôl clywed yn uniongyrchol gan y milwyr am eu bywyd yn Kabul, rwy’n hynod falch o’r hyn y mae’r Gwarchodlu Cymreig yn ei wneud. Mae gan y gatrawd ganrif o hanes yn gwasanaethu ledled y byd, mewn ymladdoedd sy’n amrywio o’r Ail Ryfel Byd i Balestina ac Ynysoedd y Falklands. Maent ar eu trydedd daith yn gwasanaethu yn Affganistan, ac maen nhw’n parhau i arddangos yr ysbryd anhygoel sydd wastad yno.

Er fy mod i wastad wedi cefnogi ein milwyr o Gymru (dynion a merched), mi wnaeth bod yn Affganistan agor fy llygaid i’r gwaith maent yn ei wneud mewn amgylchiadau peryglus. Dylai Cymru gyfan ddiolch iddynt.

Mae yna 260 aelod o’r Gwarchodlu Cymreig yn gwasanaethu yn Kabul ar hyn o bryd, fel rhan o Ymgyrch Gefnogi NATO, ac maent yn dod o bob cwr o Gymru. Bu i Ysgrifennydd Gwladol Cymru ymweld â gwersyllfa’r Gatrawd, eistedd i mewn ar y gwaith paratoi ar gyfer patrôl a dysgu mwy am y gefnogaeth maent yn ei rhoi i Academi Genedlaethol Swyddogion y Fyddin Affganaidd - a fydd yn amlwg yn cael ei ystyried yn fersiwn Affganistan o Sandhurst - sy’n datblygu corfflu swyddogion y Fyddin Affganaidd ar gyfer y dyfodol.

Nodiadau i’r golygyddion:

  • Sefydlwyd y Gwarchodlu Cymreig ar 26 Chwefror 1915 trwy Warant Frenhinol Siôr V er mwyn cynnwys Cymru yng nghyfansoddiad cenedlaethol y Gwarchodlu Milwyr Traed. Dyma’r Gwarchodlu olaf a grëwyd, oherwydd roedd y Gwarchodlu Gwyddelig wedi’i sefydlu yn 1900. Dim ond tridiau yn ddiweddarach, cyflawnodd Bataliwn Cyntaf y Gwarchodlu Cymreig ei seremoni Gwarchodlu’r Brenin cyntaf ym Mhalas Buckingham ar 1 Mawrth 1915 – Dydd Gŵyl Dewi. Ers hynny, mae’r Gwarchodlu Cymreig wedi gwasanaethu yn yr Ail Ryfel Byd, Palestina, Aden, y Rhyfel Falklands, Gogledd Iwerddon, y Balcanau, Iraq ac Affganistan. Y Gwarchodlu Cymreig yw Uwch Gatrawd Gwyr Traed Cymru, gydag enw da sydd wedi datblygu trwy gydol y ganrif ddiwethaf.

  • Mae’r gatrawd yn cynnal cysylltiadau agos iawn gyda’r Teulu Brenhinol a Chyrnol y Gatrawd yw Ei Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru. Oherwydd rôl ddeuol y gatrawd fel milwyr brwydro ac fel milwyr seremonïol, mae’n gyswllt anorfod rhwng y gatrawd a’r Teulu Brenhinol. Mae’n bumed gatrawd y Gwarchodlu Milwyr Traed ac mae’n cyflawni dyletswyddau gwarchod y Palasau Brenhinol ac mewn digwyddiadau gwladol megis seremoni Cyflwyno’r Faner.

Cyhoeddwyd ar 29 May 2018