Datganiad i'r wasg

Alun Cairns yn gweld sut mae mesurau Datganiad yr Hydref eisoes wedi buddio Casnewydd a Chaerdydd

Yn dilyn Datganiad yr Hydref yr wythnos diwethaf, mae'r Gweinidog Alun Cairns yn ymweld a dinasoedd Cysylltiad Cyflym Casnewydd a Chaerdydd, a gorsafoedd yng Nghaerdydd sy'n elwa o Gronfa Genedlaethol Mynediant i Bawb

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Yn dilyn y cyhoeddiad yn Natganiad yr Hydref, bydd Gweinidog Swyddfa Cymru Alun Cairns yn ymweld â phrosiectau Dinasoedd Cysylltiad Cyflym a gorsafoedd rheilffordd sy’n derbyn cymorth gan y Gronfa Mynediad i Bawb. Cyhoeddodd y Canghellor yr wythnos ddiwethaf fod hyd at £40 miliwn wedi ei neilltuo ar gyfer ymestyn y rhaglen Dinasoedd Cysylltiad Cyflym a £60 miliwn yn ychwanegol ar gyfer y Gronfa genedlaethol Mynediad i Bawb, sy’n darparu cyllid i wella mynediad i blatfformau mewn gorsafoedd rheilffordd ar draws Cymru a Lloegr. Heddiw bydd Alun Cairns yn gweld sut y mae’r buddsoddiad hwn gan Lywodraeth y DU o fudd i Gymru.

Bydd y cynlluniau yng Nghasnewydd a Chaerdydd yn cael eu hymestyn am 12 mis hyd fis Mawrth 2016 a bydd y rhaglen yn gweld cynnydd o 22 i 28 o ddinasoedd o fis Ebrill 2015. Mae Alun Cairns yn obeithiol iawn y gwelir mwy o Ddinasoedd Cysylltiad Cyflym yng Nghymru yn dilyn yr ymrwymiad hwn gan Lywodraeth y DU, sy’n parhau i greu’r amodau cywir i fusnesau dyfu.

Bydd yn ymweld â thri o fusnesau bach a chanolig, Satellite Finance Limited, Global Business Events Limited a Sefydliad Alacrity i ganfod sut y mae’r prosiect Dinasoedd Cysylltiad Cyflym wedi bod o fudd iddynt hwy. Bydd hefyd yn ymweld â chyflenwr y band eang cyflym iawn hwn, Spectrum Internet, sydd wedi penodi mwy o staff ers y cyhoeddiad.

Mae modd i fusnesau, elusennau a mentrau cymdeithasol yng Nghasnewydd sydd eisiau band eang cyflymach a mwy dibynadwy gael talebau gwerth hyd at £3,000 i gefnogi uwchraddio cysylltiad band eang. Yn sail i’r cynllun talebau y mae darpariaeth Llywodraeth y DU o £69 miliwn i wella mynediad at fand eang i gartrefi a busnesau yng Nghymru fel rhan o’i buddsoddiad ehangach o £1 biliwn yn seilwaith band eang ar draws y DU dan raglen Cyflymu Cymru.

Bydd hefyd yn ymweld â gorsafoedd rheilffordd Radur a Llandaf i weld sut y maent yn cael budd o well mynediad dan Gynllun y Gronfa Genedlaethol Mynediad i Bawb. Cyhoeddwyd yn Natganiad yr Hydref y byddai’r fenter, sy’n cynnwys gorsafoedd rheilffordd yng Nghymru a Lloegr, yn derbyn £60 miliwn yn ychwanegol.

Defnyddir y cyllid hwn i sicrhau bod gan orsafoedd lwybr sy’n rhydd o rwystrau, tuag at a rhwng platfformau mewn gorsafoedd blaenoriaeth. Yn gyffredinol, mae hyn yn cynnwys darparu lifftiau neu rampiau, yn ogystal â gwaith cysylltiedig ag ailwampio ar hyd y llwybr a ddiffiniwyd.

Dywedodd Gweinidog Swyddfa Cymru, Alun Cairns:

Mae’n hanfodol darparu mynediad o’r radd flaenaf i’r rhyngrwyd i fusnesau bach yng Nghymru. Nhw yw’r peiriant sy’n rhoi hwb i greu swyddi ledled Cymru, a nhw yw asgwrn cefn economi Cymru.

Rwyf wrth fy modd yn gweld drosof fy hun yr effaith gadarnhaol y mae’r rhaglen Dinasoedd Cysylltiad Cyflym yn ei chael ar yr SMEs Cymreig hyn ac rwy’n gobeithio, o ehangu’r rhaglen, y gwelwch fwy yn ymgymryd â’r cynllun hwn wrth i ni barhau i fuddsoddi mewn lefelau seilwaith na welwyd eu bath o’r blaen ledled Cymru.

Yn Natganiad yr Hydref yr wythnos ddiwethaf, cyhoeddwyd y byddai’r rhaglen Dinasoedd Cysylltiad Cyflym yn cael ei hymestyn am flwyddyn arall ac mae’r Llywodraeth yn ymrwymo hyd at £40 miliwn tuag at gynllun talebau’r cysylltiad. Hyd yma, cyhoeddwyd 279 o dalebau o fewn Cymru. Hefyd cyhoeddodd y Canghellor £60 miliwn yn ychwanegol ar gyfer y Gronfa genedlaethol Mynediad i Bawb, sy’n darparu cyllid i wella mynediad i blatfformau mewn gorsafoedd rheilffordd ar draws Cymru a Lloegr.

Dywedodd James Jackson, rheolwr gwelliannau Network Rail Cymru:

Bydd gwella mynediad mewn gorsafoedd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i deithwyr drwy ei gwneud yn haws iddynt fynd i’w gwaith neu deithio i weld ffrindiau a theulu.

Dyma ran bwysig o’n gwaith i adeiladu rheilffordd fwy a gwell ar gyfer Cymru.

Rydym yn cyflawni buddsoddiad nas gwelwyd ei fath dros y pum mlynedd nesaf i ddarparu ar gyfer y galw cynyddol a gweddnewid y rheilffordd yng Nghymru.

Cyhoeddwyd ar 11 December 2014