Datganiad i'r wasg

Alun Cairns i gynnal Cinio Mawr y Gymanwlad

Ysgrifennydd Cymru i gael cwmni athletwr amgylcheddau eithafol, Richard Parks, yn nerbyniad Caerdydd i ddathlu Diwrnod y Gymanwlad

Bydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns, yn cael cwmni athletwr dygnedd, Richard Parks, a chynrychiolwyr o grwpiau ieuenctid, ffydd, Cymry ar wasgar a chwaraeon yng Nghymru mewn dathliad o’r perthnasoedd byd-eang sydd wedi’u creu gan y Gymanwlad pan fydd yn cynnal Cinio Mawr y Gymanwlad ym Mae Caerdydd yn nes ymlaen heddiw (12 Mawrth).

Bydd Ciniawau Mawr y Gymanwlad, sydd wedi’u lansio mewn partneriaeth â’r Eden Project, yn cael eu cynnal ledled y Gymanwlad rhwng Diwrnod y Gymanwlad (12 Mawrth) a 22 Ebrill. Mae’r fenter yn rhan o’r dathliadau swyddogol sy’n arwain at Gyfarfod Penaethiaid Llywodraethau’r Gymanwlad yn Llundain fis nesaf.

Bydd Alun Cairns yn dathlu’r cysylltiadau rhyngwladol a lleol sydd wedi’u creu gan y Gymanwlad mewn Cinio Mawr yn Caspian Point ac mae’n annog pobl i ddod at ei gilydd i ddathlu eu cysylltiadau â’r Gymanwlad ar hyd a lled Cymru.

Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns:

Mae’r Gymanwlad yn deulu unigryw o wledydd sy’n cynnwys pobl sydd wedi’u clymu â’i gilydd drwy rannu hanes a gwerthoedd.

I ddathlu’r cwlwm yma, a’n hamrywiaeth ni, rydw i’n falch iawn bod Swyddfa Ysgrifennydd Gwladol Cymru’n cynnal Cinio Mawr y Gymanwlad yma yng Nghymru, gan ddod ag aelodau o’n cymunedau lleol ni at ei gilydd i ddathlu’r hyn sydd gennym ni yn gyffredin, yn ogystal â chydnabod natur unigryw ac amrywiol y Gymanwlad.

Rydw i’n edrych ymlaen at weld pob rhan o Gymru’n dod at ei gilydd i gadarnhau cyfeillgarwch, a rhannu bwyd a hwyl gyda’r bobl sy’n byw yn eu hymyl yn eu digwyddiadau eu hunain fel rhan o Ginio Mawr y Gymanwlad rhwng nawr a mis Ebrill. Mae’n cynnig cyfleoedd gwych i bobl o bob oedran ddod â’n teulu Cymanwlad gwych ni’n fyw mewn ffyrdd newydd wrth i ni weithio tuag at ddyfodol ar y cyd – dyfodol rydw i’n eithriadol obeithiol yn ei gylch, ac ynghylch y rôl sydd gan Gymru i’w chwarae ynddo.

Bydd uwchgynhadledd y Gymanwlad, sy’n cael ei chynnal rhwng 16 a 20 Ebrill, yn dod ag arweinwyr o 53 o wledydd y Gymanwlad at ei gilydd yn Llundain a Windsor i roi sylw i heriau byd-eang ac i drafod sut i greu dyfodol gwell.

Thema’r uwchgynhadledd fydd ‘Tuag at Ddyfodol Ar y Cyd’ a bydd yr arweinwyr yn canolbwyntio ar greu dyfodol tecach a mwy ffyniannus, diogel a chynaliadwy i holl ddinasyddion y Gymanwlad.

DIWEDD

  • I gael gwybod mwy am gyfarfod Penaethiaid Llywodraethau’r Gymanwlad, cliciwch yma
Cyhoeddwyd ar 12 March 2018