Datganiad i'r wasg

Alun Cairns: “Bydd Llywodraeth y DU yn cyflawni ei dyletswydd i amddiffyn diwydiannau Cymru wrth inni adael yr UE”

Bydd yr Ysgrifennydd Gwladol yn ymweld â PCI Pharma Services ym Mhen-y-bont ar Ogwr i danlinellu ymrwymiad Llywodraeth y DU i gefnogi cymuned fusnes Cymru wrth i’r Deyrnas Unedig baratoi i adael yr Undeb Ewropeaidd

Bydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru Alun Cairns yn ymweld â PCI Pharma Services, a leolir ym Mhen-y-bont ar Ogwr, yn nes ymlaen heddiw (dydd Llun 3 Medi) i danlinellu ymrwymiad Llywodraeth y DU i gefnogi cymuned fusnes Cymru wrth i’r Deyrnas Unedig baratoi i adael yr Undeb Ewropeaidd.

Mae’r ymweliad yn dilyn cyhoeddi Papur Gwyn gan Lywodraeth y DU ym mis Gorffennaf yn amlinellu’r berthynas rhwng y Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd yn y dyfodol. Yr wythnos diwethaf cyhoeddodd y Llywodraeth gyfres o hysbysiadau technegol yn cynnwys gwybodaeth i alluogi busnesau a dinasyddion i ddeall yr hyn y byddai angen iddynt ei wneud pe na bai cytundeb rhwng y DU a’r UE, er mor annhebygol yw hynny.

Yn ystod yr ymweliad, bydd Ysgrifennydd Cymru’n cael taith dywys o gwmpas y safle ac yn siarad gydag uwch arweinwyr ac aelodau staff am sut bydd cynnig y Papur Gwyn yn sicrhau perthynas hir a chlòs â’r UE yn y dyfodol, gan sicrhau bod Cymru a gweddill y DU yn y lle gorau i fanteisio ar y cyfleoedd o’n blaen ac adennill rheolaeth dros ein cyfreithiau, ein ffiniau a’n harian.

Mae PCI Pharma Services (PCI) yn ddarparwr gwasanaeth cyflawn ym maes gweithgynhyrchu cyffuriau arbenigol a ddarperir yn allanol, gwasanaethau treialon clinigol, a phecynnu masnachol i’r diwydiant gofal iechyd byd-eang. Mae safle PCI ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn darparu gwasanaethau helaeth i gefnogi meddyginiaethau ymchwiliadol Clinigol, gan gynnwys arbenigedd ym maes pecynnu a labelu eilaidd, storio a dosbarthu’n fyd-eang, ynghyd â gallu’r cwmni i ddarparu ar gyfer ystod sylweddol o anghenion cynhyrchion Cadwyn Oer neu Gadwyn Oer Iawn, gan gynnwys yr arbenigedd a’r seilwaith i gefnogi’r gwaith o baratoi, storio a dosbarthu uwchfeddyginiaethau â gofynion tymheredd cryogenig hyd at -196ºC.

Hefyd mae gan y cwmni gyfleusterau yn Y Gelli Gandryll, yn Nhredegar ac yn Nhrefforest, yn ogystal â safleoedd yn Rockford a Philadelphia yn yr Unol Daleithiau, Dulyn, a Melbourne, Awstralia. Cyfarfu Ysgrifennydd Cymru â chynrychiolwyr o safleoedd yr Unol Daleithiau yn ystod ymweliad tridiau ag Efrog Newydd, New Jersey a Pennsylvania ym mis Chwefror eleni.

Meddai Ysgrifennydd Gwladol Cymru Alun Cairns:

Mae’r Llywodraeth hon yn ymrwymedig i wireddu Brexit sy’n hyrwyddo swyddi a ffyniant, sy’n cadw pobl yn ddiogel ac sy’n amddiffyn yr Undeb werthfawr rhwng pedair cenedl y Deyrnas Unedig, adennill rheolaeth dros ein harian, ein cyfreithiau a’n ffiniau.

Mae PCI Pharma yn arwain yn fyd-eang yn y maes fferyllol, gan ddarparu arbenigedd o ran pecynnu a datblygu cyffuriau i gwmnïau o bedwar ban y byd. Mae’n gyflogwr pwysig yn y rhanbarth hwn o Gymru ac mae’n gwneud cyfraniad sylweddol i economi Cymru. Fy uchelgais yw y bydd hyn yn parhau am amser maith ar ôl i ni adael yr Undeb Ewropeaidd.

Mae Dr Fiona Withey, Is-lywydd Strategaeth Glinigol Fyd-eang yn PCI Pharma, yn gyfrannwr rheolaidd ar Fwrdd Cynghori Economaidd a Phanel Arbenigwyr yr Ysgrifennydd Gwladol, i gynghori ar sut gall Cymru fanteisio ar fuddion Strategaeth Ddiwydiannol Llywodraeth y DU, yn ogystal â chyfleoedd fydd yn codi yn sgil gadael yr UE.

Meddai Dr Withey:

Mae PCI wedi dilyn y trafodaethau Brexit gan gymryd diddordeb mawr ynddynt, yn yr un modd ag y mae ein cleientiaid ym maes fferylliaeth a biodechnoleg yn fyd-eang. Fel darparwr gwasanaethau sy’n cefnogi meddyginiaethau i’w dosbarthu i dros 100 o wledydd o amgylch y byd, mae PCI mewn sefyllfa unigryw i sicrhau cadwyn gyflenwi ddi-fwlch i’n cleientiaid ar gyfer pob canlyniad posib. Rydym yn cefnogi meddyginiaethau masnachol sy’n achub bywydau, yn ogystal â’r meddyginiaethau ar gyfer astudiaethau Clinigol ymchwiliadol, i gleifion o bedwar ban y byd.

Rydym yn gwerthfawrogi’r amser a’r sylw a roddodd yr Ysgrifennydd Gwladol i hwyluso trafodaeth a chyfathrebu â chwmnïau fel ein cwmni ni, yn ogystal â sicrhau bod y DU a’r UE yn dod i gytundeb, gyda ffocws ar ddiogelu’r gallu i barhau i ddosbarthu meddyginiaethau hanfodol i gleifion mewn modd amserol.

DIWEDD

Cyhoeddwyd ar 3 September 2018