Stori newyddion

Alun Cairns: “Pwysigrwydd dweud na wrth gasineb a rhagfarn”

Ysgrifennydd Cymru yn nodi Diwrnod Cofio'r Holocost

Alun Cairns

Heddiw (27 Ionawr), mae Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, wedi talu teyrnged i’r bobl a fu farw yn yr Holocost, ac i’r goroeswyr sy’n gweithio’n ddiflino i rannu eu straeon dewr gyda chenedlaethau’r dyfodol.

Mae Diwrnod Cofio’r Holocost (27 Ionawr) yn ddigwyddiad cenedlaethol yn benodol i gofio’r bobl a fu farw yn sgil hil-laddiadau ac i anrhydeddu’r rhai hynny sydd wedi goroesi cyfundrefnau casineb ledled y byd. Y thema ar gyfer y cofio yn 2018 yw “Grym Geiriau”.

Yn 2018, gyda chefnogaeth a chyllid parhaus Llywodraeth y DU, bydd Ymddiriedolaeth Diwrnod Cofio’r Holocost yn cyrraedd mwy o bobl nag erioed o’r blaen. Bydd yn trefnu mwy o ddigwyddiadau nag erioed o’r blaen, a bydd yn cyhoeddi ac yn rhannu mwy o eiriau nag erioed o’r blaen.

Yn ei eiriau ei hun, mae Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, yn atgyfnerthu pwysigrwydd dysgu gwersi yn sgil digwyddiadau trasig yr Holocost.

Dywedodd Alun Cairns:

Ni ellir diystyru grym geiriau. Maen nhw’n gallu ein diddanu ni, ein haddysgu ni, ein huno ni, a chodi ein hysbryd. Ond maen nhw hefyd yn gallu ein brifo a’n rhannu ni - ac arwain rhai at gasineb a thrais hyd yn oed.

Bob blwyddyn rydyn ni’n clywed geiriau’r rheini sydd wedi goroesi hil-laddiadau, sy’n rhannu eu hatgofion mwyaf dirdynnol er mwyn i ni ddeall pwysigrwydd dweud na wrth ragfarn.

Mewn byd bregus, mae’n bwysicach nag erioed ein bod yn gwrando ar y geiriau hynny ac addysgu’r genhedlaeth nesaf am beryglon casineb.

Rhaid cofio a chofnodi’r elfen hon o’r hanes rydyn ni’n ei rannu. Ar Ddiwrnod Cofio’r Holocost, rhaid i bob un ohonom fanteisio ar y cyfle i feddwl am y ffyrdd rydyn ni’n byw ein bywydau ac edrych eto ar sut y gallwn greu cymunedau gwell a chryfach gyda’n gilydd, fel na fydd digwyddiadau ein gorffennol byth yn cael eu hailadrodd eto.

Mae Ymddiriedolaeth Addysgol yr Holocost yn gweithio gydag ysgolion, colegau a chymunedau ledled y DU i addysgu pobl am yr Holocost a’r modd mae’n berthnasol heddiw.

Cyhoeddwyd ar 27 January 2018