Datganiad i'r wasg

Alun Cairns yn dweud wrth arweinwyr busnes Cymru: arweiniwch y ffordd i wneud Brexit yn llwyddiant

Alun Cairns yn dweud wrth arweinwyr busnes Cymru: chi yw’r arbenigwyr - arweiniwch y ffordd i wneud Brexit yn llwyddiant

Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru heddiw yn galw ar arweinwyr busnes yng Nghymru i ddangos y ffordd o ran sicrhau fod Cymru yn gwneud llwyddiant o Brexit.

Mae Alun Cairns yn mynd i wneud yr alwad wrth annerch cyfarfod Cyngor Chwarterol CBI Cymru.

Bydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn dweud:

Fel arweinwyr busnes, chi yw’r bobl fwyaf cymwys i wneud llwyddiant o Brexit - chi sy’n creu swyddi a’r arbenigwyr wrth greu cyfoeth.

Mae’r Llywodraeth yn barod i helpu - ond chi fydd yn arwain y ffordd o droi Brexit yn gyfle.

Bydd 30 o swyddogion gweithredol uchaf y wlad yng nghyfarfod CBI, sy’n cael ei gynnal yn ffatri General Dynamics yn y Coed Duon.

Bydd Mr Cairns hefyd yn dweud:

Fel Ysgrifennydd Gwladol Cymru byddaf yn sicrhau bod Cymru wrth wraidd y trafodaethau Brexit.

Mae yna heriau o’n blaen - ond mae’r economi mewn cyflwr da ar gyfer y daith. Mae’r gyfradd ddiweithdra yng Nghymru ar ei gyfradd isaf erioed gyda’r nifer uchaf o bobl yn y gwaith.

Mae Llywodraeth y DU yn barod i helpu busnesau yng Nghymru dod o hyd i farchnadoedd allforio newydd. Busnesau Cymru yw’r arbenigwyr go iawn yn tyfu yr economi - a byddaf yn gwneud beth bynnag allwn i’w helpu

Dywedodd Cyfarwyddwr CBI Cymru, Emma Watkins:

Mae aelodau’r CBI yn falch o groesawu Ysgrifennydd Gwladol Cymru i Gyfarfod Cyngor CBI Cymru. Wrth i’r DU baratoi ar gyfer y dasg gymhleth o ymadael a’r Undeb Ewropeaidd, rydym am i Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru weithio’n agos gyda busnesau, anfon signal uchel a chlir, fod Cymru ar agor i fusnes.

Mae cwmnïau yn awyddus i barhau i fasnachu’n hawdd gyda’n cymdogion yn yr UE, yn manteisio ar unrhyw gyfleoedd newydd ar gyfer masnach o amgylch y byd ac yn sicrhau y gallant gael gafael ar dalent byd-eang, er eu bod yn ymwybodol o bryderon cyhoeddus o amgylch mewnfudo.

Yn dilyn y cyfarfod, bydd Mr Cairns yn teithio i SAAB UK yn Wiltshire i weld y datblygiadau diweddaraf mewn technoleg diogelwch ac amddiffyn.

Cyhoeddwyd ar 22 September 2016