Datganiad i'r wasg

Alun Cairns yn targedu’i wythfed Marathon Llundain

Bydd yr Ysgrifennydd Gwladol yn codi arian ar gyfer Dementia Revolution a'r Cŵn Tywys

Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru Alun Cairns yn paratoi i redeg Marathon Llundain am yr wythfed tro ar ddydd Sul (28 Ebrill).

Roedd amser gorau personol Mr Cairns o 3:28:02 yn 2016 yn ei roi yn y seithfed safle ar y rhestr o redwyr Aelodau Seneddol gyflymaf.

Eleni bydd yr Ysgrifennydd Gwladol yn codi arian ar gyfer Dementia Revolution a’r Cŵn Tywys yn y DU, yn ceisio cyfateb y £10,000 a gododd ar gyfer NSPCC Cymru ac elusen cymorth i fenywod Atal y Fro y llynedd.

Mae Dementia Revolution yn ymdrech flwyddyn o hyd a drefnwyd ar y cyd rhwng y Gymdeithas Alzheimer’s ac Alzheimer’s Research i godi arian drwy Farathon Llundain.

Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru Alun Cairns:

Rwy’n edrych ymlaen at gymryd rhan yn y ras y flwyddyn hon a rhannu atgofion gyda rhedwyr o bob gallu, sydd i gyd gyda chymhellion eu hun ar gyfer cwblhau’r cwrs.

Dw i’n cefnogi elusennau sy’n agos at fy nghalon ac rwy’n cael fy ysbrydoli gan eu gwaith i ddarparu gwasanaethau a gwaith ymchwil hanfodol i filoedd o bobl sy’n agored i niwed yng Nghymru a ledled y DU.

Roedd y marathon y llynedd yn her oherwydd y gwres, felly dw i’n gobeithio am amodau oerach i gofnodi amser parchus a chodi digon o arian ar gyfer y ddau achos mor deilwng hyn y tro yma.

DIWEDD

I roi arian i ddewisiadau elusennau Mr Cairns, ewch i’w dudalen Virgin Money Giving.

Cyhoeddwyd ar 25 April 2019