Alun Cairns yn ystyried cynnydd Cymru cyn y cyhoeddiad ar Ddydd Gŵyl Dewi
Rhoddodd Gweinidog Swyddfa Cymru, Alun Cairns araith ym Mrecwast Busnes ACCA

Heddiw (27 Chwefror) rhoddodd Gweinidog Swyddfa Cymru, Alun Cairns, araith ym Mrecwast Busnes ACCA, gan bwysleisio pwysigrwydd yr adferiad economaidd a oedd i’w deimlo ledled Cymru.
Tynnodd y Gweinidog sylw at bwysigrwydd Dydd Gŵyl Dewi - gan ddweud ei fod yn nodwedd sy’n diffinio ein hanes a’n diwylliant, a hefyd yn symbol o’n dyfodol.
Mae’r economi wrth wraidd Llywodraeth y Glymblaid ac mae’r cynllun economaidd hirdymor yn dechrau dwyn ffrwyth go iawn i Gymru bellach. Diolchodd y Gweinidog i’r Sector Preifat am fod yn rhan allweddol o hyn drwy greu 100,000 o swyddi yng Nghymru.
Dywedodd Gweinidog Swyddfa Cymru Alun Cairns:
Rwy’n credu ein bod wedi gwneud cynnydd gwych yng Nghymru – mae ein cynllun economaidd hirdymor yn arwain at ganlyniadau go iawn.
Rydyn ni’n gweld y swyddi hyn yn cael eu creu yn y sectorau uwch dechnoleg newydd wrth i’n heconomi ailgydbwyso.
Ac mae gennych chi lywodraeth sy’n cefnogi eich dyheadau o safbwynt twf drwy ddadreoleiddio, lleihau’r baich treth a buddsoddi yn y seilwaith sydd ei hangen arnoch i gystadlu a thyfu.