Alun Cairns: Patagonia "yw un o'r hanesion enwocaf o fewnfudo"
Dadorchuddio arddangosfa i ddathlu’r ffaith fod y wladfa Gymreig yn yr Ariannin yn gant a hanner oed eleni
Heddiw, bydd Alun Cairns, Gweinidog Swyddfa Cymru, yn ymweld ag arddangosfa yn Llundain sydd yn nodi 150 o flynyddoedd ers i’r Cymry sefydlu ‘Y Wladfa’ ym Mhatagonia.
Ym 1865, dechreuodd tua 153 o bobl o ledled Cymru ar daith o Lerpwl, ar fwrdd y llong gliper Mimosa, i ddechrau bywyd newydd ym Mhatagonia.
150 mlynedd yn ddiweddarach, mae eu hanes yn dod yn fyw ym Mhalas Westminster drwy arddangosfa o ffotograffau gan Marcos Zimmerman.
Dywedodd Gweinidog Swyddfa Cymru, Alun Cairns:
Mae hanes y wladfa Gymraeg ym Mhatagonia yn un o’r straeon enwocaf o fewnfudo dynol. Mae’n stori o ddycnwch a dewrder, gyda’r dyhead am fywyd gwell a’r freuddwyd o sefydlu Cymru newydd wrth wraidd y daith.
Mae diddordeb yn yr iaith Gymraeg, traddodiadau Cymraeg a’n ffordd ni o fyw yn gryfach nag erioed ym Mhatagonia ar hyn o bryd. Rydw i’n hynod o falch i gael y cyfle i weld y garreg filltir ddiwylliannol bwysig hon wedi ei chyfleu mewn ffotograffau heddiw.