Datganiad i'r wasg

Alun Cairns: dyma'r amser i greu Cymru hyderus ar gyfer bywyd y tu hwnt i’r UE

Mae Alun Cairns wedi defnyddio ei araith i’r Cynulliad ar anerchiad y frenhines i gynnig gweledigaeth o Gymru hyderus sy’n barod ar gyfer bywyd ar ôl yr UE.

Heddiw, cyflwynodd Alun Cairns ei weledigaeth o Gymru hyderus yn paratoi ar gyfer bywyd y tu hwnt i’r UE - gyda rhybudd i wleidyddion i beidio â “bod yn negyddol” ynghylch y dyfodol. Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru wrth aelodau’r Cynulliad fod “pobl Cymru a’r DU wedi siarad” a’i bod yn bryd gweithredu ar eu cyfarwyddiadau.

“Mae angen i ni ddangos arweinyddiaeth gadarn a gwneud i fusnesau a buddsoddwyr deimlo’n hyderus,” dywedodd.

Yn yr wythnos diwethaf, mae Alun Cairns wedi cynnal sesiynau gwybodaeth am oblygiadau gadael yr UE gydag arweinyddion o fyd busnes, elusennau, awdurdodau lleol, addysg uwch a’r trydydd sector. Mae’r Ysgrifennydd Gwladol yn cynnal rhagor o gyfarfodydd o amgylch y bwrdd yng ngogledd Cymru ar ddydd Iau.

“Dydy siarad yn negyddol ddim yn mynd i helpu neb. Mae’r ymateb gan y gymuned fusnes yng Nghymru wedi creu argraff fawr arnaf i. Mewn sesiwn wybodaeth wedi’i chynnal gyda mi’n ddiweddar, clywais frawddegau fel ‘busnes fel arfer’ a ‘chyfle i ail-greu busnesau’. Dywedodd un allforiwr wrthyf fi: ‘Mae entrepreneuriaid yn ffynnu ar newid’” .

Dywedodd Mr Cairns wrth y Cynulliad fod economi gadarn ym Mhrydain yn rhoi’r wlad mewn sefyllfa dda er mwyn iddi dyfu.

“Gadael sefydliad yr U.E. ydym ni, nid troi ein cefnau ar gyfeillion, cymdogion a phartneriaid masnachu yn Ewrop.

“Rwy’n obeithiol am ein dyfodol ac am Gymru a Phrydain y mae’n rhaid i ni eu creu y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd.”

Dywedodd yr Ysgrifennydd Gwladol fod Swyddfa Cymru wedi gofyn i adrannau diwydiant a masnach y DU a’r Swyddfa Dramor i helpu cwmnïau Cymru. Galwodd Mr Cairns hefyd am i gymunedau ddod ynghyd yn dilyn llwyth o adroddiadau am ddigwyddiadau hiliol yn ymwneud â mudwyr yn y DU.

“Rwyf am sicrhau nad y gwerthoedd sy’n bwysig i gymdeithas Prydain - sef gwerthoedd o fod yn oddefgar, neu’n agored, o undod - a fydd yn dioddef yn sgil y refferendwm hwn.” Dywedwyd wrth aelodau’r Cynulliad y byddai Bil Cymru sy’n mynd drwy ei gamau Pwyllgor ar hyn o bryd yn sicrhau “eglurder ac atebolrwydd”.

“Nid yw Biliau Cyfansoddiadol yn rhywbeth y mae rhywun yn ei weld bob dydd, ond bydd yn rhoi cyfle i Lywodraeth Cymru a’r Cynulliad ganolbwyntio ar bethau sy’n bwysig i bobl sy’n byw ac yn gweithio yng Nghymru. Lefelau treth, yr economi, polisi iechyd ac addysg, prosiectau ynni ac adfywio.

“Rhaid i bob un ohonon ni gydweithio’n awr, y ddwy Lywodraeth, i sicrhau dyfodol unedig a ffyniannus i Gymru.”

Dywedodd Mr Cairns y gallai rhannau o raglen Llywodraeth y DU - er enghraifft diwygio gwaith cymdeithasol, rhoi mwy o ryddid i athrawon mewn ysgolion ac annog prifysgolion newydd - greu cyfleoedd i Gymru.

“Rwy’n gobeithio y bydd pob un ohonon ni’n cydnabod mai’r DU yw ein marchnad fwyaf a bod cysylltiad anorfod rhyngom. Po agosaf y bydd cymunedau’n gweithio, yn cydweithio, yn ategu, yn cydlynu a hyd yn oed yn cystadlu, po orau fydd y canlyniadau - yn enwedig yng ngoleuni canlyniad y refferendwm lai na phythefnos yn ôl.”

Os caiff Bil Cymru ei gymeradwyo gan y Senedd, yr araith heddiw (dydd Mercher) fydd y tro olaf i Ysgrifennydd Gwladol Cymru berfformio’r rôl draddodiadol o roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Cynulliad Cenedlaethol am gynnwys Anerchiad y Frenhines.

Cyhoeddwyd ar 6 July 2016