Stori newyddion

Neges blwyddyn newydd Alun Cairns ar gyfer 2019

Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn adlewyrchu ar straeon llwyddiant Cymru yn 2018 ac yn edrych ymlaen at y 12 mis nesaf

O edrych yn ôl dros y deuddeng mis diwethaf, mae Cymru unwaith eto wedi dangos ei bod yn gyrchfan ac iddi fri rhyngwladol sy’n gallu denu buddsoddiad a chyfleoedd cynyddol.

Un o uchafbwyntiau’r flwyddyn, o’m rhan i, oedd y gwaith a arweiniodd at gael gwared â’r tollau dros bontydd Hafren ym mis Rhagfyr. Ers gwneud y penderfyniad, mewn ymgynghoriad â’r Ysgrifennydd Gwladol ar gyfer trafnidiaeth a’r Prif Weinidog, bu trafod a chwilfrydedd di-ben-draw ynglŷn â beth fyddai cael gwared â’r rhwystr corfforol a seicolegol hwn yn ei olygu i gymudwyr, twristiaid a busnesau.

Roedd 2018 yn flwyddyn ddigyffelyb yn hanes gwleidyddol a chyfansoddiadol ein gwlad. Ynghyd â llywio cwrs diogel wrth inni adael yr Undeb Ewropeaidd, cyflwynwyd y trethi Cymreig cyntaf gan ers 800 mlynedd. Cyflwynwyd dwy dreth ddatganoledig newydd yn dilyn trosglwyddo pwerau i’r Cynulliad Cenedlaethol – y Dreth ar Drafodion Tir ar eiddo, sy’n fersiwn Cymreig newydd o’r dreth stamp, a’r Dreth ar Warediadau Tirlenwi, sy’n cymryd lle’r dreth ar dirlenwi.

Gosododd Llywodraeth y DU ein setliad datganoli ar sylfaen gadarnach drwy gyflwyno’r model cadw pwerau newydd ar y cyntaf o Ebrill. Roedd hyn yn galluogi rhoi rhagor o benderfyniadau yn nwylo Gweinidogion Cymru, gan roi iddynt arfau newydd pwysig i ysgogi twf yn economi Cymru a darparu gwell gwasanaethau cyhoeddus ar gyfer y cyhoedd yng Nghymru.

Rhoes y rheoliadau hefyd nifer o’r pwerau pellach a ddatganolwyd i’r Cynulliad Cenedlaethol ac i Weinidogion Cymru o dan Ddeddf Cymru 2017 mewn grym, yn cynnwys pwerau dros etholiadau, cludiant a’r amgylchedd. Ar wahân i’r cerrig milltir deddfwriaethol hyn, sicrhaodd Llywodraeth y DU dros hanner biliwn o bunnau o gyllid ychwanegol ar gyfer Llywodraeth Cymru, cyhoeddodd adolygiad o bwerau benthyg Llywodraeth Cymru a buddsoddodd £120 miliwn mewn Bargen Twf ar gyfer Gogledd Cymru drwy Gyllideb y Trysorlys yn gynharach eleni. Bydd hyn yn dod â chytbwysedd i’n heconomi ac yn darparu mwy o bŵer gwario i Lywodraeth Cymru, ac ar yr un pryd bydd yn cadw trethi’n isel ac yn sicrhau bod y ddyled yn dal i ostwng.

Cyhoeddodd Canghellor y Trysorlys hefyd y byddai £36 miliwn o gyllid Llywodraeth y DU ar gael yn Abertawe i gefnogi deunyddiau adeiladu arloesol sy’n cynhyrchu trydan. Datblygiadau yw’r rhain a fydd yn cefnogi amcan Llywodraeth y DU i haneru (fan leiaf) yr ynni a ddefnyddir gan adeiladau newydd erbyn 2030. Mae’r ariannu diweddar hwn yn golygu fod Prifysgol Abertawe wedi elwa o dros £150 miliwn o gyllid Llywodraeth y DU ers 2010. Nid y diwydiant adeiladu oedd yr unig ddiwydiant a fu ar ei ennill eleni. Bydd entrepreneuriaid arloesol yng Nghymru yn cael budd o £51 miliwn ychwanegol i ddyfeisio technoleg y dyfodol. Mae Philip Hammond yn anelu at ehangu ‘canolfannau lansio’ llwyddiannus sy’n gyrru newid arloesol ledled y DU, yn cynnwys Cymru, yn rhan o Strategaeth Ddiwydiannol fodern, uchelgeisiol y DU.

Hyd yn hyn mae’r cyllid newydd hwn wedi helpu i greu cannoedd o gynhyrchion, gwasanaethau a dyfeisiadau newydd, gan gynnwys synhwyrydd llygredd symudol, therapïau cellog i frwydro yn erbyn canser a thriniaeth LED i’r rheini sydd wedi colli eu golwg.

Yng Nghymru, bydd y cyllid hwn yn mynd i’r Catapult Lled-ddargludyddion Cyfansawdd yng Nghaerdydd, a fydd yn agor ei Ganolfan Arloesi yn gynnar y flwyddyn nesaf. Bydd hwn yn dwyn ynghyd academyddion a busnesau i ddatblygu technolegau newydd mewn un ganolfan i gefnogi ardaloedd ein bywydau dyddiol o rwydweithiau ffonau symudol 5G y genhedlaeth nesaf i wella sganio yn niogelwch y maes awyr.

Yng nghyd-destun y newid yn ein perthynas â’r Undeb Ewropeaidd, eleni mae hi wedi bod yn bwysicach nag erioed inni ehangu ein gorwelion a meithrin partneriaethau masnachu newydd gyda chenhedloedd ymhellach i ffwrdd.

Rydym wedi dal ati i ddangos bod Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i gefnogi busnesau allforio yng Nghymru, a thystiais i glewt rhyngwladol Cymru yn ystod cenadaethau masnach i’r Unol Daleithiau, Hong Kong, Tseina, Kuwait a De Affrica.

Cefnogir y cenadaethau hyn gan Strategaeth Allforio newydd uchelgeisiol i gynyddu allforion fel cyfran o’n GDP i 35% a darparu cefnogaeth effeithiol a phenodol i fusnesau o bob maint i gynyddu cynhyrchiant, codi cyflogau a gwarchod cyflogaeth ledled y DU.

Yn ôl yng Nghymru, mae Aston Martin yn buddsoddi £50 miliwn eto yn ei ganolfan yn Sain Tathan. Hon fydd canolfan ceir trydan Aston Martin a chartref y brand Lagonda, a bydd yn creu 200 o swyddi ychwanegol gan ddod â chyfanswm felly o hyd at 750 o swyddi crefftus i Dde Cymru.

Dathlwyd ein dylanwad a’n cyfraniad yn y wlad hon ac yn rhyngwladol yn rhan o ŵyl Wythnos Cymru yn Llundain, gan gynnal digwyddiadau i hyrwyddo cynnyrch Cymru a chydnabod cadernid ac amrywiaeth ein hiaith a’n diwylliant.

Darparodd y Sioe Frenhinol gyfle ardderchog i ymwneud â’r diwydiant amaethyddol a thanlinellu pwysigrwydd yr economi wledig i Gymru wrth inni sicrhau’r canlyniadau gorau ar gyfer y trafodaethau i adael yr Undeb Ewropeaidd.

Bydd Llywodraeth y DU yng Nghymru yn parhau i weithio’n agos gydag adrannau eraill y Llywodraeth i amddiffyn buddiannau Cymru a sicrhau bod buddsoddwyr a busnesau’n gweld Cymru fel partner masnachu blaengar. Yn ystod y flwyddyn nesaf, byddwn yn parhau i hyrwyddo twf economaidd cyson, yn darparu cyfleoedd i bawb ac yn helaethu ein potensial i’r eithaf ar ôl inni adael yr Undeb Ewropeaidd.

Ar ran fy nghyd-weinidogion a phawb yn yr adran, rwy’n dymuno blwyddyn newydd dda a ffyniannus i bawb ohonoch.

Cyhoeddwyd ar 31 December 2018