Stori newyddion

Alun Cairns: "Bydd partneriaeth newydd rhwng S4C a Sony yn datblygu darlledu yn y Gymraeg ymhellach"

Mae'r darlledwr Cymraeg, S4C, wedi arwyddo cytundeb gyda Sony International

S4C

Heddiw (22 Gorffennaf), mae’r darlledwr Cymraeg, S4C, wedi arwyddo cytundeb gyda Sony International i gynhyrchu cynnwys a fydd yn cael ei werthu ledled y byd.

Mae S4C wedi ffilmio cyfres chwe rhan yn ddiweddar, o’r enw Wild Recruits, yng Nghaernarfon a’r ardaloedd cyfagos - yn y gobaith y bydd cwmnïau teledu eraill yn dilyn eu hesiampl.

Dywedodd Alun Cairns, Gweinidog yn Swyddfa Cymru:

Mae’r bartneriaeth yn newyddion gwych i S4C a bydd yn datblygu darlledu yn y Gymraeg ymhellach.

Mae Cymru’n ganolbwynt i greadigrwydd ac arloesi, ac yn cystadlu â’r goreuon yn y sector darlledu. Yr wythnos diwethaf, cynhaliodd Swyddfa Cymru dderbyniad i dynnu sylw at lwyddiant ein diwydiannau creadigol ni ar y llwyfan byd-eang.

Rwy’n gobeithio y bydd y cwmnïau teledu eraill yn achub ar y cyfleoedd sydd yng Nghymru o ran y golygfeydd godidog ac unigryw ar gyfer eu prosiectau ffilmio yn y dyfodol o ganlyniad i’r cytundeb hwn.

Yr wythnos diwethaf, dathlodd Swyddfa Cymru ddiwydiant teledu Cymru mewn derbyniad a gynhaliwyd gan Stephen Crabb, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, yn Llundain.

Daeth gwesteion o fyd teledu masnachol, BBC Cymru, S4C a’r sector ffilmiau annibynnol at ei gilydd yn Nhŷ Gwydyr i nodi blwyddyn anhygoel, llawn llwyddiant i’r diwydiant teledu yng Nghymru.

Cyhoeddwyd ar 22 July 2015