Datganiad i'r wasg

Alun Cairns yn ymweld ag Abertawe am y tro cyntaf yn swyddogol i nodi ymrwymiadau Cyllideb 2016

“Gallai Bargen Ddinesig i Abertawe drawsnewid tynged rhanbarth De Orllewin Cymru yn gyfan gwbl”

Bydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns, yn ymweld ag Abertawe am y tro cyntaf yn swyddogol heddiw (dydd Mawrth, 29 Mawrth), i dynnu sylw at weledigaeth Llywodraeth y DU ar gyfer y rhanbarth ac i ddangos ei fod yn cefnogi’r ail ymgyrch am Fargen Ddinesig i Gymru.

Wrth siarad cyn yr ymweliad, dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns:

Yn rhinwedd fy swydd newydd fel Ysgrifennydd Gwladol, byddaf yn manteisio ar bob cyfle i hyrwyddo’r cyfraniad y mae pob cwr o Gymru yn ei wneud i’r twf rydyn ni’n ei weld yn ein heconomi.

O’r busnesau sy’n creu swyddi, i’r Prifysgolion sy’n cystadlu â rhai o sefydliadau gorau’r byd, mae Llywodraeth y DU yn deall bod rhanbarth Abertawe yn gwneud cyfraniad hanfodol i sicrhau llwyddiant ein cynllun economaidd hirdymor.

Bydd Mr Cairns yn cwrdd â Chadeirydd cangen Bae Abertawe o Ffederasiwn Busnesau Bach, Julie Williamson, i drafod ymrwymiad y Canghellor yn ei Gyllideb i ddechrau trafod bargen ddinesig ar gyfer rhanbarth Abertawe â phartneriaid lleol a Llywodraeth Cymru.

Mae Bargeinion Dinesig wedi nodi cychwyn dull gweithredu newydd y Llywodraeth, drwy ofyn i arweinwyr lleol bennu’r agenda ar gyfer twf economaidd.

Ychwanegodd Mr Cairns:

Union bythefnos yn ôl, sicrhaodd Rhanbarth Prif Ddinas Caerdydd Fargen Ddinesig sy’n addo trawsnewid y ddinas a’i gwneud yn brif beiriant ar gyfer twf ar gyfer y DU.

Mae’r llywodraeth hon yn cydnabod y potensial sydd gan ranbarth Bae Abertawe i gyflawni’r un weledigaeth gyffrous.

Mae Bargeinion Dinesig llwyddiannus yn seiliedig ar syniadau mawr i ddatgloi twf ar draws dinasoedd a’u hardaloedd economaidd ehangach. Maen nhw’n gweithio orau pan fydd pawb yn yr ardal leol, gan gynnwys arweinwyr dinesig, busnes ac addysg uwch, yn dod at ei gilydd i ddweud wrth y Llywodraeth beth sydd angen ei newid a beth ellir ei wneud yn well.

Rydyn ni’n edrych ymlaen at weld y trafodaethau’n mynd rhagddynt, a symud ymlaen tuag at greu bargen a allai drawsnewid tynged rhanbarth De Orllewin Cymru yn gyfan gwbl.

Dywedodd cadeirydd cangen Bae Abertawe o Ffederasiwn Busnesau Bach, Julie Williamson:

Rwy’n edrych ymlaen at gwrdd â’r Ysgrifennydd Gwladol ar ran ein haelodau yn Abertawe er mwyn trafod y cynnydd tuag at Fargen Ddinesig.

Mae’r posibilrwydd o gael Bargen Ddinesig ar gyfer Abertawe yn gyfle pwysig, ac rwy’n edrych ymlaen at weld busnesau bach ar draws rhanbarth Bae Abertawe yn chwarae rhan bwysig yn y gwaith o ddatblygu hyn.

Cyhoeddwyd ar 29 March 2016