Datganiad i'r wasg

Alun Cairns yn cyfarfod cwmnïau gweithredu ffonau symudol ac yn erfyn – gadewch i ni gael pobl Cymru i siarad!

Mae Ysgrifennydd Gwladol newydd Cymru yn cyfarfod y cwmnïau gweithredu ffonau symudol er mwyn mynd i’r afael â phroblem dim signal ffôn mewn rhai ardaloedd gwledig.

Heddiw (dydd Mercher, 23 Mawrth) mae Ysgrifennydd Gwladol newydd Cymru yn cyfarfod prif gwmnïau gweithredu ffonau symudol y DU mewn ymdrech i fynd i’r afael â phroblem dim signal ffôn mewn rhai ardaloedd gwledig.

Mae Alun Cairns hefyd wedi galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried pwerau newydd – a gyhoeddwyd yn y Gyllideb – a fydd yn golygu bod modd codi mastiau talach yn Lloegr er mwyn cael gwell signal mewn lleoedd anodd eu cyrraedd.

Ymhlith y rhai a fydd yn bresennol yn y cyfarfod yn Swyddfa Cymru mae swyddogion MobileUK; Three; O2; EE a Vodafone.

Bydd yr agenda yn trafod signal ffôn symudol mewn ardaloedd gwledig a sut i fynd i’r afael â’r broblem mewn ardaloedd mewn rhai rhannau o Gymru, yn enwedig yn y gogledd, lle nad oes unrhyw signal o gwbl.

Er bod cwmnïau gweithredu ffonau symudol yn dal i ymestyn eu rhwydweithiau yng Nghymru, amcangyfrifir bod 4 y cant o gartrefi/busnesau yng Nghymru yn dal i fethu cael signal llais gan unrhyw un o’r prif gwmnïau gweithredu. Mae hyn ddwywaith cymaint â chyfradd y DU.

Dywedodd Mr Cairns ei fod yn awyddus i weld Llywodraeth Cymru’n efelychu mesurau a gyhoeddwyd yn y Gyllideb a fydd yn golygu bod modd codi mastiau ffôn hyd at 25 metr o uchder – 10 metr yn uwch nag a ganiateir ar hyn o bryd – heb ganiatâd cynllunio ledled Lloegr.

Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Rwy’n sylweddoli cymaint o gynnydd sydd wedi’i wneud hyd yn hyn a chymaint o her yw gwella cysylltiadau ffonau symudol yng Nghymru, ond mae ardaloedd mewn rhannau gwledig o Gymru sy’n dal heb signal rhwydwaith.

Defnyddiodd Llywodraeth y DU y Gyllideb i gyhoeddi mwy o ryddid a hyblygrwydd ar gyfer seilwaith ffonau symudol – hoffwn weld Llywodraeth Cymru yn ystyried rhywbeth tebyg.

Mae’n gwbl briodol ein bod yn ymgynghori â chymunedau ynglŷn ag effaith mastiau. Ond os ydym eisiau gwell signal mewn ardaloedd anodd mynd atynt mae angen i ni annog y cwmnïau gweithredu i fuddsoddi yn eu rhwydweithiau er mwyn cael gwell gwasanaethau llais a data.

Bydd y cyfarfod ffonau symudol hefyd yn edrych ar gynllun cydweithredol a dreialwyd yn Ucheldir yr Alban rhwng EE a Facebook a fydd yn darparu cyswllt 4G i bentrefi, a byddwn yn gofyn a ellid defnyddio technolegau arloesol tebyg yng Nghymru.

Cyhoeddwyd ar 23 March 2016