Datganiad i'r wasg

Alun Cairns yn llongyfarch y cwmni digidol o Gymru, One Team Logic, am dderbyn Gwobr y Frenhines am Fenter

Ysgrifennydd Cymru yn ymweld â chwmni yn Nhonysguboriau sydd wedi cael ei anrhydeddu am ei feddalwedd diogelu arloesol

Mi wnaeth Ysgrifennydd Gwladol Cymru Alun Cairns ymweld ag [One Team Logic(http://www.oneteamlogic.co.uk) yn Nhonysguboriau heddiw (dydd Iau 7 Mehefin) i gydnabod llwyddiant y cwmni yn ennill Gwobr y Frenhines am Fenter yn y categori Arloesi am eu meddalwedd diogelu arloesol, MyConcern®, sef datrysiad meddalwedd dibynadwy a diogel ar gyfer amddiffyn plant a phobl ifanc sy’n agored i niwed.

Nawr yn ei 52fed blwyddyn, Gwobrau’r Frenhines am Fenter yw gwobrau busnes mwyaf mawreddog y DU, ac maent yn cydnabod ac yn dathlu rhagoriaeth ym myd busnes ledled y DU mewn meysydd sy’n cynnwys arloesi, masnach ryngwladol, datblygu cynaliadwy, a hybu cyfleoedd drwy symudedd cymdeithasol.

Cafodd meddalwedd MyConcern ei ddatblygu i gynorthwyo pobl (megis athrawon) sy’n gyfrifol am les pobl ifanc a phobl sy’n agored i niwed i fod yn gallu adrodd a chofnodi pryderon yn rhwydd. Gan fod dros 3000 o blant yng Nghymru wedi’u nodi yn rhai sydd angen amddiffyniad rhag cam-drin a’r ffaith fod cynnydd o 25% wedi bod yn y troseddau rhywiol a gofnodwyd yn erbyn plant dan un ar bymtheg oed yng Nghymru, ysgolion a cholegau sy’n aml yn dod yn ymwybodol gyntaf am y problemau hyn.*

Mae’r system hefyd yn gallu adnabod arwyddion fod gan bobl ifanc broblemau iechyd meddwl cymhleth, gan gynnwys hunan-niweidio. Mae’n galluogi ysgolion, colegau a sefydliadau eraill i gofnodi a rheoli materion diogelu fel bwlio, cam-drin cyffuriau ac alcohol, cam-drin domestig a thrais ar sail rhywedd yn gysylltiedig â phlant, pobl ifanc ac oedolion sy’n agored i niwed.

Cafodd One Team Logic ei sefydlu yn 2014, ac ers hynny mae wedi creu bron i 50 o swyddi yn Ne Cymru, yn ogystal ag 14 o swyddi eraill ledled Cymru a Lloegr. Bydd dau o’r sylfaenwyr, sef Martin Baker QPM a Darryl Morton, yn mynychu derbyniad swyddogol i enillwyr y gwobrau gydag Ei Uchelder Brenhinol, Tywysog Cymru ym Mhalas Buckingham yn nes ymlaen y mis yma.

Dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Mae Gwobrau’r Frenhines yn tynnu sylw at y goreuon ymysg busnesau Prydain – mae’r gwobrau’n cydnabod eu hysbryd entrepreneuraidd a’u huchelgeisiau i lwyddo gartref a ledled y byd.

Dylai One Team Logic fod yn falch o’u llwyddiant yn darparu datrysiad digidol arloesol sy’n delio â materion sy’n newid drwy’r amser ac sy’n effeithio ar ein plant a’n pobl ifanc. Gobeithio y bydd eu stori yn ysbrydoli busnesau eraill yng Nghymru i ymgeisio am y wobr fawreddog hon yn y dyfodol.

Mae Llywodraeth y DU yn gwneud popeth o fewn ei gallu i feithrin uchelgeisiau a doniau busnesau yng Nghymru drwy greu’r amodau cywir ar gyfer twf economaidd a hwyluso mwy o gyfleoedd i fasnachu a buddsoddi rhwng Cymru, y Deyrnas Unedig a ledled y byd.

Dywedodd Mike Glanville, Cyfarwyddwr Diogelu yn One Team Logic:

Mae’n anrhydedd i ni fod gwaith ein tîm cyfan wedi cael ei gydnabod gan Ei Mawrhydi y Frenhines drwy gael Gwobrau’r Frenhines am Fenter. Peth rhyfeddol a hynod bleserus yw cael cydnabyddiaeth mor gyhoeddus i’r gwaith arloesi rydyn ni wedi’i wneud ym maes diogelu ac amddiffyn plant.

Oherwydd yr heriau sy’n wynebu ysgolion a cholegau, rydyn ni’n credu bod defnyddio MyConcern nid yn unig yn trawsnewid y ffordd y mae gwaith diogelu yn cael ei reoli ond hefyd yn helpu i gefnogi arweinwyr ysgolion ac aelodau eraill o’r staff yn eu gwaith hollbwysig fel ymarferwyr ym maes diogelu. Fel cwmni diogelu yng Nghymru, rydyn ni’n falch o weithio ochr yn ochr â chynifer o ysgolion a cholegau ledled Cymru yn eu cefnogi i gadw plant yn ddiogel rhag niwed.

Mae’n bleser mawr i ni fod Ysgrifennydd Gwladol Cymru wedi gallu ymweld â’n swyddfeydd yn Nhonysguboriau i gydnabod Gwobr y Frenhines ac i dreulio amser gyda’n gweithlu ymroddgar a dawnus.

Am fwy o wybodaeth, ewch i: www.oneteamlogic.co.uk www.myconcern.co.uk

DIWEDD

Cyfeiriadau

Cyhoeddwyd ar 7 June 2018