Bron i 200 o swyddi newydd yng Nghymru o ganlyniad i daith Prif Weinidog y DU i India
Buddsoddwyr o India wedi cadarnhau eu hyder yng Nghymru fel rhywle i gynnal busnes, gan fuddsoddi £1.2 biliwn yn rhai o fusnesau mwyaf ffyniannus Prydain.

Prime Minister Keir Starmer speaks with Trade Commissioner to South Asia Harjinder Kang and British High Commissioner to India Lindy Cameron in front of the Gateway of India in Mumbai. Picture by Simon Dawson / No 10 Downing Street.
- Bydd 64 o gwmnïoedd o India yn buddsoddi dros £1 biliwn yn y DU, gan greu 6,800 o swyddi ym mhob rhanbarth
- Sawl bargen wedi’u cytuno arnynt a’u cadarnhau yn ystod cenhadaeth fasnach Prif Weinidog y DU i India, lle mae wedi addo i agor drysau i fusnesau yng Nghymru a sbarduno twf yma ym Mhrydain - gan wireddu’r Cynllun ar gyfer Newid
- Mae’r buddsoddiadau yn ffordd arall o fynegi hyder yn economi Cymru a chadarnhau ei enw da fel un o’r llefydd gorau yn y byd i gynnal busnes
Bydd bron 200 o swyddi newydd yn cael eu creu yng Nghymru, diolch i lu o fargeinion newydd a gadarnhawyd gan Brif Weinidog y DU yn ystod ei ymweliad ag India yr wythnos hon.
Mae buddsoddwyr o India wedi cadarnhau eu hyder yng Nghymru fel rhywle gwych i gynnal busnes, gan fuddsoddi cyfanswm o £1.2 biliwn yn rhai o fusnesau mwyaf ffyniannus Prydain - gan arddangos yr effaith y mae’r fargen fasnach rhwng y DU ac India eisoes yn ei chael ar hyder buddsoddwyr.
Mae’r rhain yn cynnwys EdSupreme, cwmni technoleg addysgol sy’n arbenigo mewn defnyddio Deallusrwydd Artiffisial (AI) ym maes ffisiotherapi, sy’n buddsoddi £10 miliwn yng Nghymru a Lloegr, gan greu 50 o swyddi yng Nghymru dros gyfnod o dair blynedd, a bydd y cwmni fferyllol Indiaidd, Wockhardt, yn buddsoddi £8 miliwn i uwchraddio ei safle yn Wrecsam, gan creu 35 o swyddi medrus uwch i ymestyn ei weithrediadau byd-eang.
Hefyd, mae cwmni dyfeisiau meddygol arloesol, NeoCeltic Global Ltd., yn buddsoddi £5 miliwn, gan greu 50 o swyddi yng Nghymru i ddarparu datrysiadau y genhedlaeth nesaf ym meysydd symudedd ac adfer.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Busnes a Masnach, Peter Kyle:
India yw’r pedwerydd economi fwyaf yn y byd bellach, a thrwy fuddsoddi biliynau o bunnoedd i gefnogi miloedd o swyddi mewn sectorau amrywiol fel AI, addysg a gwasanaethau ariannol, mae’n dangos graddfa’r cyfle mae hyn yn ei gynnig i fusnesau Cymru.
Bydd eu llwyddiant yn India ond yn tyfu wrth i’n bargen fasnach newydd gryfhau’r bartneriaeth economaidd, gan ddod â’n dwy wlad yn agosach fyth, a gwireddu twf economaidd ledled Cymru yn y pen draw.
Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Jo Stevens:
Bydd ein bargen fasnach arwyddocaol gydag India yn cynyddu nifer y swyddi a sbarduno twf economaidd ledled Cymru.
Bydd diwydiannau allweddol yng Nghymru, megis y sector ynni adnewyddadwy, y sectorau creadigol a chynhyrchwyr bwyd a diod yn elwa o hyn, a bydd gan fusnesau Cymru hefyd fynediad at farchnad gaffael anferth India, gyda mesurau diogelu cryfach fel bod modd iddynt allforio nwyddau a gwasanaethau yn hyderus.
Mae’r llywodraeth hon yn profi ei bod yn gallu gwireddu ein cenhadaeth i dyfu’r economi, creu swyddi newydd a rhoi mwy o arian i mewn i bocedi’r bobl sy’n gweithio.
Hefyd, mae cwmni peirianneg uwch - NMT Engineering and Services - yn buddsoddi bron i £5 miliwn yn y DU, gan greu 15 o swyddi medrus yng Nghymru i weithgynhyrchu cydrannau tra-chywir ar gyfer y meysydd ynni adnewyddadwy ac amddiffyn, a’r maes awyrofod - gan gryfhau arloesi diwydiannol rhwng India a’r DU.
India yw’r ail fuddsoddwr mwyaf yn y DU yn barod, ac mae dros 1,000 o gwmnïoedd o India yn gweithredu yn y DU, gan gefnogi miliynau o swyddi yn y DU.
Mae’n deillio o genhadaeth fasnach Prif Weinidog y DU dros gyfnod o ddau ddiwrnod yn Mumbai, lle bu iddo gwrdd ag arweinwyr busnes Indiaidd a chadarnhau sawl bargen a fydd yn arwain at dwf a chreu swyddi - gan roi arian ym mhocedi pobl weithgar Prydain.
Mae’r cyhoeddiadau allweddol yn cynnwys:
- Bydd cwmni gweithgynhyrchu uwch TVS Motor yn buddsoddi £250 miliwn yn Solihull i ymestyn ei weithrediadau yn Norton Motorcycles a datblygu cerbydau trydanol y genhedlaeth nesaf. Bydd hyn yn creu 300 swydd o ansawdd uchel, a byddant yn cydweithredu â sefydliadau ymchwil yn y DU fel Prifysgol Warwick, gan arddangos y gorau o Brydain.
- Bydd y cwmni peirianneg Cyient yn buddsoddi £100 miliwm i hybu arloesi mewn lled-ddargludyddion, technoleg geo-ofodol, symudedd, ynni glân, a pharthau digidol - gan greu 300 o swyddi yn y DU a chryfhau ei bresenoldeb cryf yn y wlad.
- Yng Ngwlad yr Haf, mae’r cwmni technoleg Atul–Date Palm Developments yn buddsoddi £11 miliwn mewn technoleg amaethyddol cynaliadwy ac arloesol, gan sefydlu gweithgarwch ymchwil a datblygu uwch a fydd yn creu 44 o swyddi medrus uwch a chefnogi gwydnwch hinsawdd byd-eang.
- Mae Mastek, cwmni peirianneg digidol byd-eang, yn buddsoddi £2 miliwn i agor Canolfan Deallusrwydd Artiffisial (AI) yn Llundain ac agor swyddfa yn Leeds, gan greu 200 o swyddi medrus, gan gynnwys 75 o brentisiaethau.
- Mae Marvel Medi Revolutions, yn masnachu fel NeoCeltic Global Ltd, yn buddsoddi £5 miliwn i ddarparu datrysiadau orthopedig ac adfer, gan greu 85 o swyddi yn Llundain a Chaerdydd.
- Yn y cyfamser, bydd Alcor Logistics yn ymestyn ei weithrediadau i Lerpwl a Llundain, gyda buddsoddiad o £3 miliwn i sefydlu gweithrediadau yn y DU fel gweithredwr nad yw’n berchen ar longau, gan greu 150 o swyddi a gwella galluoedd llwytho llongau a chadwyni cyflenwi ar lefel fyd-eang.
Meddai Mr Chandan Jerry, Cyfarwyddwr, NeoCeltic Global Limited (enw Indiaidd y cwmni yw Marvel Medi Revolutions):
Fel entrepreneur, rwy’n croesawu’r Cytundeb Economaidd a Masnach Cynhwysfawr (CETA) rhwng y DU ac India, a fydd yn cryfhau ein cysylltiadau economaidd a datgloi cyfleoedd newydd ar gyfer busnesau.
Mae ein cwmni arloesol, NeoCeltic Global Ltd - UK yn barod i ddefnyddio’r bartneriaeth hon i ymestyn ein gwaith ledled y byd, yn enwedig datrysiadau meddygol sydd wedi’u sbarduno gan AI.
Byddwn yn cydweithredu â busnesau yn y DU i sbarduno arloesi chwyldroadol, gan gryfhau safle blaenllaw y DU ym maes technoleg gofal iechyd. Rydym yn anelu at sbarduno twf economaidd, creu cyfleoedd entrepreneuraidd newydd, a gwella bywyd i fodau dynol, gan osod safonau newydd yn y diwydiant.
Ambell enghraifft yw’r buddsoddiadau hyn sy’n dangos bod y DU yn parhau i fod yn leoliad deniadol ar gyfer arloesi, talent, a thwf busnes byd-eang.
Mae cyhoeddiadau heddiw yn adlewyrchu partneriaeth dechnoleg ffyniannus y DU ac India - gyda 28 o’r buddsoddiadau wedi’u cadarnhau heddiw, sy’n dod o fewn meysydd blaenoriaeth Menter Diogelwch Technoleg y DU ac India. Mae hyn yn cynnwys 26 o gwmnïoedd deallusrwydd artiffisial (AI), 1 cwmni lled-ddargludyddion ac 1 cwmni biotechnoleg.
Lansiwyd y Fenter Diogelwch Technoleg ym mis Gorffennaf y llynedd, ac mae’n anelu at gynyddu cydweithio gydag India mewn technolegau allweddol a datblygol fel telathrebu, mwynau allweddol, AI, biotechnoleg a lled-ddargludyddion.