Datganiad i'r wasg

Mae pob ffordd yn arwain at Gymru ar gyfer busnes, yn ôl Alun Cairns

Mae’r Ysgrifennydd Gwladol yn goruchwylio’r gwaith trydaneiddio o gaban y gyrrwr ar drên Llundain-Caerdydd GWR. Yna bydd yn ymweld â thwnnel Hafren i dynnu sylw at bwysigrwydd cysylltiadau trafnidiaeth i economi Cymru mewn araith bwysig i Sefydliad y Cyfarwyddwyr yng Nghymru.

Severn Tunnel Visit

Severn Tunnel/Twnnel Hafren

Heddiw (dydd Iau 13eg Hydref), bydd Alun Cairns yn cael gafael ar declynnau rheoli trên prysur y bore o Lundain i Gaerdydd wrth i’r Ysgrifennydd Gwladol oruchwylio’r gwaith diweddaraf o drydaneiddio’r rheilffordd.

Bydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn teithio yng nghaban y gyrrwr i weld y broses drydaneiddio ar hyd y llwybr - cyn dod oddi ar y trên wrth geg Twnnel Hafren i arolygu’r gwaith uwchraddio mawr sydd wedi bod yn gyfrifol am gau’r twnnel am chwe wythnos.

Bydd Mr Cairns yn tynnu sylw at bwysigrwydd cysylltiadau trafnidiaeth mewn araith i Sefydliad y Cyfarwyddwyr yng Nghaerdydd.

Bydd yn dweud hyn:

Rwy’n cydnabod bod cau’r twnnel wedi bod yn heriol i lawer ohonom yma, ond mae’n amlwg y bydd y manteision yn gwrthbwyso’r cyfnod byr hwn yn llwyr. Mae trydaneiddio Prif Reilffordd y Great Western yn dal yn un o brif flaenoriaethau’r Llywodraeth hon. Bydd yn sicr yn cael ei gyflawni.

Bydd ein cyfraniad o £500 miliwn i Fargen Ddinesig ar gyfer Caerdydd yn cefnogi’r broses o drydaneiddio rheilffyrdd y Cymoedd.

Bydd Crossrail yn gwella’r amseroedd teithiau byr a gynigir yn sgil trydaneiddio’r brif reilffordd - gan ddod â Chaerdydd yn nes at Canary Wharf.

Ac rydym yn buddsoddi mewn cysylltiad rhwng maes awyr Heathrow a Prif Reilffordd y Great Western - gan dorri hanner awr oddi ar y daith rhwng Heathrow a De Cymru.

Ond nid dim ond mewn rheilffyrdd rydym yn buddsoddi.

Drwy gydnabod pwysigrwydd Pontydd Afon Hafren i Gymru a De Orllewin Lloegr, byddwn yn haneru prisiau’r tollau unwaith y bydd y cyhoedd yn berchen ar y pontydd. Rydym hefyd yn cael gwared ar yr ail gategori felly bydd cerbydau nwyddau bach yn talu’r un swm â cheir.

A byddwn yn adolygu’r achos dros gael tollau agored ar y pontydd.“Rwy’n cydnabod bod cau’r twnnel wedi bod yn heriol i lawer ohonom yma, ond mae’n amlwg y bydd y manteision yn gwrthbwyso’r cyfnod byr hwn yn llwyr. Mae trydaneiddio Prif Reilffordd y Great Western yn dal yn un o brif flaenoriaethau’r Llywodraeth hon. Bydd yn sicr yn cael ei gyflawni.

Cyhoeddwyd ar 13 October 2016