Datganiad i'r wasg

Cerbyd Ajax yn adfywio ffatri ym Merthyr

Agoriad canolbwyn peirianneg arbenigol ar gyfer cerbydau arfog newydd Byddin Prydain

Mae ffatri wagenni fforch godi segur yng Nghymru wedi cael ei hagor yn swyddogol fel canolbwynt peirianneg arbenigol ar gyfer cenhedlaeth nesaf cerbydau arfog Byddin Prydain, gan greu 250 o swyddi newydd hynod fedrus.

Yn dilyn ymrwymiad gwerth £390 miliwn y Weinyddiaeth Amddiffyn (MOD) i gerbyd arfog Ajax, penderfynodd General Dynamics UK droi hen ffatri wagenni fforch godi Linde ym Merthyr Tudful yn ganolfan gydosod, integreiddio a phrofi ar gyfer Ajax.

Cafodd y safle, a fydd yn dechrau cydosod a phrofi cerbydau Ajax yn 2017 - sef cerbydau cwbl ddigidol cyntaf y Fyddin - ei agor gan Weinidogion Llywodraethau Cymru a’r Deyrnas Unedig.

Dywedodd Philip Dunne, y Gweinidog Caffael Amddiffyn:

Mae agor y cyfleuster newydd hwn yn ddatblygiad o bwys i Ferthyr Tudful a Byddin Prydain fel ei gilydd. Mae’n ein hatgoffa unwaith eto o bwysigrwydd buddsoddiadau Amddiffyn ar draws y Deyrnas Unedig: mae rhaglen Ajax ar ei phen ei hun yn cynnal miloedd o swyddi ar draws y wlad, ac mae cannoedd ohonyn nhw yma yng Nghymru.

Mae’r cyfleuster newydd hwn, fel y cerbyd cenhedlaeth nesaf y bydd yn ei gynhyrchu, yn rhagor o dystiolaeth o’n hymrwymiad sy’n werth £178 biliwn i ddarparu’r cyfarpar mae ein Lluoedd Arfog ei angen. Diolch i’r bartneriaeth agos rhwng Llywodraeth y Deyrnas Unedig a’r diwydiant, bydd y safle hwn yn cael ei adfywio fel canolfan gyflogaeth arwyddocaol, gan ddod â sgiliau gwerthfawr ac etifeddiaeth barhaol i’r rhanbarth cyfan.

Yn ychwanegol at y 250 o swyddi sy’n cael eu creu yn y cyfleuster ym Merthyr Tudful, mae rhaglen adeiladu Ajax yn cynnal 300 o swyddi yn General Dynamics yn Oakdale gerllaw, ynghyd â 2,250 o swyddi eraill mewn mwy na 210 o gwmnïau ar draws y gadwyn gyflenwi yn y Deyrnas Unedig.

Dywedodd Gweinidog Swyddfa Cymru, Alun Cairns:

Mae llywodraeth y Deyrnas Unedig yn benderfynol o weld cynifer â phosibl o brosiectau’r Weinyddiaeth Amddiffyn yn cael eu cynllunio, eu hadeiladu a’u cynhyrchu yma yn y Deyrnas Unedig.

Mae penderfyniad General Dynamics i ddod â’r gwaith o gydosod, integreiddio a phrofi’r cerbydau AJAX i dde Cymru yn bleidlais enfawr o hyder yn sgiliau ac arbenigedd y gweithlu. Mae hyn yn cynyddu’r ôl-troed amddiffyn yng Nghymru, ac mae’n enghraifft wych o Lywodraethau Cymru a’r Deyrnas Unedig yn cydweithio er budd economi Cymru.

Mae’r sector gweithgynhyrchu yng Nghymru yn mynd o nerth i nerth yn hyderus. Mae digwyddiad heddiw yn arddangos cyfraniad amhrisiadwy ein doniau cynhenid o ran darparu amddiffyniad a chefnogaeth o’r radd flaenaf i’r dynion a’r menywod dewr sy’n gweithio mewn sefyllfaoedd rheng flaen ledled y byd.

Bydd Byddin Prydain yn cael cyfanswm o 589 o gerbydau Ajax ar ffurf chwe math o gerbyd, a fydd yn disodli’r Cerbydau Rhagchwilio cyn Brwydr (wedi eu holrhain). Bydd Ajax yn elfen ganolog o Frigadau Cyrchoedd newydd y Deyrnas Unedig a gyhoeddwyd yn yr Adolygiad Amddiffyn a Gwariant Strategol ddiwedd y llynedd.

Dywedodd y Pennaeth Cerbydau Arfog yn sefydliad Cyfarpar Amddiffyn a Chefnogi’r Weinyddiaeth Amddiffyn, yr Uwchfrigadydd Robert Talbot Rice:

Mae Ajax yn cynrychioli’r archeb unigol fwyaf am gerbydau arfog ar gyfer Byddin Prydain mewn tri degawd. Mae agoriad heddiw yn gam mawr tuag at gyflawni’r prosiect cenedlaethol enfawr i roi cyfarpar gorau’r byd yn nwylo ein milwyr.

Mae dyluniad Ajax yn adeiladu ar wersi a ddysgwyd ar faes y gad. Hwn yw cerbyd arfog cwbl ddigidol cyntaf y Fyddin, sy’n gallu mynd i’r afael â thirwedd anoddaf y byd ac sy’n hynod wydn yn erbyn bygythiadau tebygol.

Y 589 cerbyd Ajax fydd ‘llygaid a chlustiau’ Byddin Prydain ar faes y gad yn y dyfodol. Bydd y cerbyd newydd yn rhoi gwell gwybodaeth a dulliau gwell o oruchwylio, amddiffyn, canfod targedau a rhagchwilio i’r fyddin. Bydd hefyd yn gallu ei amddiffyn ei hun gyda chanon 40 milimedr hynod effeithiol, a ddatblygwyd ar y cyd â Ffrainc.

Hyd yn hyn, mae’r Weinyddiaeth Amddiffyn wedi ymrwymo £4.5 biliwn mewn contractau â General Dynamics i gyflwyno’r cerbyd Ajax.

Dywedodd Prif Swyddog Staff Cyffredinol Byddin Prydain, y Cadfridog Syr Nicholas Carter:

Mae agor y cyfleuster hwn yn newyddion gwych i Fyddin Prydain.

Bydd Ajax yn cyflwyno gallu arfog o’r radd flaenaf i’n milwyr ar y tir. Bydd y cyfuniad o arfau, amddiffyn a symudedd, yn ogystal â’r ystod a’r cyrhaeddiad, yn rhoi’r fantais i ennill brwydrau i’n Brigadau Cyrchoedd.

Disgwylir i’r cerbyd cyntaf gael ei gwblhau yng nghyfleuster Merthyr Tudful yn 2018, gydag unedau cyntaf y Fyddin yn cael y cerbyd gyda’r holl gyfarpar erbyn canol 2019 yn barod i’w ddefnyddio o ddiwedd 2020 ymlaen.

Cyhoeddwyd ar 7 March 2016