Datganiad i'r wasg

Cytundeb gorau erioed Airbus yn newyddion gwych i economi Gogledd Cymru, meddai David Jones

Mae’r cytundeb gorau erioed y gwnaeth Airbus ei sicrhau yn y sioe awyr ym Mharis yr wythnos hon yn newyddion gwych i economi Gogledd Cymru, …

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Mae’r cytundeb gorau erioed y gwnaeth Airbus ei sicrhau yn y sioe awyr ym Mharis yr wythnos hon yn newyddion gwych i economi Gogledd Cymru, ac mae’n brawf o weithlu medrus iawn y cwmni, meddai Gweinidog Swyddfa Cymru, David Jones.

Cyhoeddodd Airbus ei fod wedi sicrhau’r archeb unigol fwyaf erioed am awyrennau masnachol yn y sioe awyr ym Mharis.  Mae cwmni awyrennau cost-isel Malaysia, AirAsia, yn prynu 200 o’r jetiau A320neo, mewn cytundeb gwerth oddeutu £11bn.   Mae’r cwmni wedi derbyn archebion pendant am 586 o awyrennau, gwerth oddeutu $55.8bn, a gwerth $29.5bn o archebion amodol.

Wrth groesawu’r cytundeb gorau erioed, dywedodd Mr Jones:  “Unwaith eto, mae Airbus wedi sicrhau cytundeb anhygoel, ac mae hyn yn newyddion gwych i’r cwmni ac i economi Gogledd Cymru.  Daw’r cyhoeddiad yn ystod wythnos dda i Ogledd Cymru, wedi i Wylfa gael ei nodi fel safle addas ar gyfer datblygiad ynni niwclear ddoe.

“Mae Airbus yn gyflogwr pwysig yng Ngogledd Cymru, ac mae’r cyhoeddiad yr wythnos yma yn tynnu sylw pellach at sefyllfa’r cwmni fel arweinydd ym maes technoleg arloesol a blaengar.  Mae llwyddiant y cwmni’n dibynnu’n helaeth ar yr arloesedd hwn ac ar ei weithlu hynod fedrus.

“Rwyf wedi bod yn ffatri Airbus ym Mrychdyn sawl tro, ac mae gwaith y cwmni bob amser yn creu argraff arna i.  Llongyfarchiadau iddyn nhw am sicrhau’r cytundeb sy’n glod go iawn i’r cwmni a’i weithlu.”

Cyhoeddwyd ar 24 June 2011