“Awyrofod yn ffynhonnell o gryfder allweddol i Gymru”
David Jones i ymweld â phencadlys y cwmni awyrennau enfawr Airbus yn Toulouse.
Airbus A380 image courtesy of Ndecam on Flickr
Bydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David Jones, yn amlinellu statws y DU fel canolfan ragoriaeth ar gyfer y sector awyrofod byd-eang pan fydd yn ymweld â phencadlys Airbus yn Toulouse yr wythnos hon (10-11 Hydref).
Daw’r ymweliad ar ddiwedd blwyddyn lwyddiannus arall i’r gwneuthurwr awyrennau, sy’n cyflogi dros 6,000 o bobl yn ei ganolfan ym Mrychdyn, gogledd Cymru. Ar ôl ymweliad llwyddiannus â Sioe Awyr Paris, llwyddodd y cwmni i sicrhau archebion ac ymrwymiadau ar gyfer yr awyren 466, tra gwelwyd ychwanegiad diweddaraf y cwmni at ei deulu o awyrennau, yr A350 XWB, yn hedfan yn gyhoeddus am y tro cyntaf yn ystod y sioe.
Yn gynharach yr wythnos hon, cyhoeddodd Airbus fargen bwysig arall gydag archeb gwerth £5.9 biliwn gan Japan Airlines ar gyfer cynhyrchu 31 o awyrennau A350. Dyma archeb fwyaf Airbus ar gyfer yr A350 hyd yma eleni, a’r archeb fwyaf erioed mae’r cwmni wedi’i gael gan gwmni awyrennau o Japan. Mae’r cyhoeddiad yn cadarnhau lle Airbus eto fyth yn rôl fyd-eang y DU ym maes technoleg adenydd, a bydd yn cryfhau’r llyfr archebion yn y ffatri adenydd £400m ym Mrychdyn.
Yn ystod ei ymweliad â phencadlys Airbus, bydd Mr Jones yn cael cwmni Tom Williams, Is-Lywydd Gweithredol (Rhaglenni), Paul McKinlay, Pennaeth Gweithgynhyrchu Brychdyn, a Katherine Bennet, Pennaeth Materion Cyhoeddus. Bydd yn cael taith o amgylch llinell gynhyrchu derfynol yr A380, ac yn cwrdd ag aelodau o’r gweithlu.
Dywedodd David Jones, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:
Sector awyrofod y DU yw’r ail fwyaf yn y byd, ac mae’n cyfrannu £24 biliwn at yr economi bob blwyddyn, ac yn cynnal 230,000 o swyddi ledled y wlad. Mae Airbus yn y DU yn gwneud ei gyfraniad pwysig ei hun at y llwyddiant hwn.
Mae’r cwmni yn enghraifft wych o’r modd y gall Cymru a gweddill y DU chwarae rhan allweddol mewn cynnyrch llwyddiannus ar lefel ryngwladol; mae pawb sy’n teithio ar awyren Airbus i unrhyw le yn y byd yn hedfan ar adenydd sydd wedi cael eu cynllunio ym Mhrydain ac wedi cael eu gweithgynhyrchu yng Nghymru.
Mae’r buddsoddiad parhaus a welwn gan gwmnïau awyrennau o bob cwr o’r byd yn brawf o sgiliau’r gweithlu ym Mhrydain, a’r hyder sydd ganddynt yn ein harbenigedd ym maes gweithgynhyrchu. Byddwn yn parhau i gefnogi awyrofod y DU ac yn annog rhagor o fuddsoddiad yn y ffynhonnell ddynamig hon o dwf a chryfder ein heconomi.
Dywedodd Tom Williams, Is-Lywydd Gweithredol (Rhaglenni) yn Airbus:
Mae Airbus yn falch o gefnogi Partneriaeth Twf y Sector Awyrofod.
Mae’r sector awyrofod yn cynhyrchu dros £20 biliwn o refeniw bob blwyddyn ar gyfer economi’r DU, ac mae 75 y cant ohono’n cael ei allforio. Bydd yr Ysgrifennydd Gwladol yn gweld sut mae cynnyrch a sgiliau o Gymru a Phrydain yn chwarae rhan mor allweddol yng ngwaith cynhyrchu awyrennau Airbus yn Toulouse.
Yn ystod yr ymweliad, bydd Mr Jones hefyd yn cymryd rhan mewn cyfarfod gyda’r Arglwydd Green, y Gweinidog Masnach a Buddsoddi, a chynrychiolwyr o ADS - y prif gorff masnach ar gyfer pob cwmni sy’n gweithredu yn sectorau Awyrofod, Amddiffyn, Diogelwch a Gofod y DU.
Cynhelir y cyfarfod yn fuan ar ôl lansio Rhaglen Datblygu Technoleg Awyrofod Cenedlaethol (NATEP) yn Sioe Awyr Paris.
Lansiwyd y rhaglen £40 miliwn sy’n cael ei hariannu gan y llywodraeth a’i rheoli gan Bartneriaeth Twf y Sector Awyrofod ac ADS, i fynd i’r afael â’r prinder sgiliau ac i wella’r cydweithrediad o ran ymchwil a datblygu yn y sector. Rhagwelir y bydd hyn yn helpu i gefnogi’r gwaith o wreiddio technoleg a gallu newydd, pwysig yng nghadwyn cyflenwi’r DU.
Ychwanegodd Mr Jones:
Fel Llywodraeth, rydym yn gwneud popeth y gallwn i gefnogi awyrofod y DU. Rydym wedi sefydlu Partneriaeth Twf y Sector Awyrofod er mwyn sicrhau y bydd y diwydiant pwysig hwn yn parhau i ffynnu ac i dyfu yn y dyfodol. Mae Rhaglen Datblygu Technoleg Awyrofod Cenedlaethol yn brawf arall o’r cydweithio rhwng y llywodraeth a’r diwydiant er mwyn cryfhau ein cadwynau cyflenwi.
Yn ystod yr ymweliad, bydd yr Ysgrifennydd Gwladol hefyd yn ymweld â Centre National d’Etudes Spatiales - asiantaeth llywodraeth Ffrainc sy’n gyfrifol am ffurfio a gweithredu polisi awyr y wlad yn Ewrop.
NODIADAU I OLYGYDDION
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â thîm Cyfathrebu Swyddfa Cymru ar 029 2092 4204 / 020 7270 0565.
Rhaglen Datblygu Technoleg Awyrofod Cenedlaethol
Mae disgwyl y bydd Rhaglen Datblygu Technoleg Awyrofod Cenedlaethol (NATEP) ar waith am bedair blynedd, tan 2017. A hithau’n cael £23 miliwn gan Fenter Cadwyn Cyflenwi Gweithgynhyrchu Uwch (AMSCI) a thua £17 miliwn gan bartneriaid, nod y rhaglen yw cefnogi proses datblygu 100 o dechnolegau newydd o leiaf yn y gadwyn cyflenwi ym maes awyrofod. Caiff y prosiect £40 miliwn hwn ei gefnogi gyda £23 miliwn o ail rownd Menter Cadwyn Cyflenwi Gweithgynhyrchu Uwch (AMSCI) y llywodraeth, yn ogystal â £17 miliwn gan y diwydiant.
Yn benodol, bydd y rhaglen:
*Yn annog ac yn datblygu cynnyrch a thechnolegau gweithgynhyrchu newydd sy’n deillio o’r system ‘gwaelod i fyny’ yng nghadwyn cyflenwi ym maes awyrofod y DU.
*Yn ariannu technolegau newydd mewn partneriaethau bach o fusnesau bach a chanolig ac unedau busnes cyfalafiad canol gyda chyfranogiad cwsmeriaid
*Yn datrys methiannau presennol y farchnad o ran cyfathrebu â’r gadwyn cyflenwi a galluoedd rheoli Ymchwil a Datblygu cyflenwyr, yn ogystal â chael gafael ar gyllid.
Y cwmnïau blaenllaw sy’n ymgeisio yw Aero Engine Controls, Airbus, Bombardier, GKN, Rolls-Royce a Spirit.
Bydd NATEP yn cael ei rheoli gan gorff masnach y sector awyrofod, ADS, a bydd yn cael ei rhoi ar waith ar draws rhanbarthau Lloegr gan Gonsortiwm Awyrofod Farnborough, Cynghrair Awyrofod Canolbarth Lloegr, Cynghrair Awyrofod Gogledd Orllewin Lloegr, a Fforwm Awyrofod Gorllewin Lloegr. Caiff y Rhaglen ei chefnogi hefyd yng Nghymru a Gogledd Iwerddon gan y llywodraethau datganoledig ac Awyrofod Cymru ac ADS Gogledd Iwerddon yn y drefn honno.
Strategaeth Ddiwydiannol y Sector Awyrofod
Mae Strategaeth Ddiwydiannol y Sector Awyrofod ar gael yn Lifting Off – Implementing the Strategic Vision for UK Aerospace, a lansiwyd ar 18 Mawrth 2013 gan Bartneriaeth Twf y Sector Awyrofod.