Datganiad i'r wasg

Bil Cymru gyda sefydlogrwydd ac atebolrywydd yn ei chalon

Gall Bil Cymru sefydlu pecyn cadarn o bwerau i Aelodau’r Cynulliad gyda sefydlogrwydd ac atebolrwydd yn ganolog i hynny.

Gan Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru

Bydd aelodau Cynulliad Cymru’n paratoi eu hunain heddiw ar gyfer yr hyn rwy’n ei gredu fydd yn gyfnod hanesyddol o ran llywodraethu yng Nghymru.

Mae hyn oherwydd y gall Bil Cymru - a gyflwynwyd yn Nhŷ’r Cyffredin heddiw - sefydlu pecyn cadarn o bwerau i Aelodau’r Cynulliad gyda sefydlogrwydd ac atebolrwydd yn ganolog i hynny.
Mae’r Bil yn gwneud Cynulliad Cymru’n barhaol ac yn fwy atebol i bobl Cymru. Mae’n adeiladu ar gyhoeddiad cyllid gwaelodol hanesyddol y llynedd drwy alluogi’r Cynulliad i amrywio elfen o dreth incwm am y tro cyntaf - pŵer sy’n bodoli’n barod mewn gweinyddiaethau datganoledig eraill. Democratiaeth yn dyfod i oed yng Nghymru yw hyn. Nid oes amheuaeth ai San Steffan neu Gaerdydd sy’n gyfrifol am ddarnau penodol o ddeddfwriaeth gyda’r Bil hwn, ac mae’n golygu mai’r Cynulliad sydd wrth y llyw.

Mae materion pwysig sy’n ymwneud â thrafnidiaeth fel cyfyngiadau cyflymder ar ffyrdd, cyfrifoldeb amgylcheddol dros ffracio a phwerau porthladdoedd ymhlith y nifer o bwerau y bydd Aelodau’r Cynulliad yn gyfrifol amdanynt mewn Senedd yng Nghymru.

Ychydig iawn o ddarnau o ddeddfwriaeth y Llywodraeth sydd wedi cael eu craffu fwy na Bil Cymru. Mae wedi bod yn destun trafodaethau tanbaid yn aml iawn ac wedi ysgogi brwdfrydedd ar draws y grwpiau gwleidyddol.

Mae’n golygu bod y Cynulliad yn gallu newid ei enw i Senedd ac mae’n golygu bod rhestr y cyfrifoldebau yr oedd San Steffan yn gofalu amdanynt yn flaenorol, yn llai erbyn hyn.

Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi gwrando, wedi edrych yn fanwl ar y Bil drafft mewn mannau allweddol, ac wedi paratoi darn o ddeddfwriaeth glir sy’n rhoi ystyriaeth i’r corff penodol a chynyddol o gyfreithiau i Gymru.

Mae’r daith tuag at ddatganoli yng Nghymru wedi bod yn un sefydlog. Mae pobl Cymru wedi pleidleisio dros ragor o bwerau i’r Cynulliad, ond wedi nodi’n glir nad ydyn nhw am gael eu gwahanu oddi wrth weddill y Deyrnas Unedig. Mae Bil Cymru’n cyfleu’r awydd hwnnw am ddatganoli, ac yn sicrhau ein bod ni’n mwynhau manteision bod yn rhan o undeb fwy ar yr un pryd.

Rydym ni fel cenedl yn falch o’n hunaniaeth, ein hiaith a’n hanes arbennig. Ond yn yr un modd, rwy’n credu bod pobl yng Nghymru yn gweld eu hunain fel dinasyddion ar lwyfan ehangach, ac yn hyderus yn eu hunaniaeth ddeuol fel Cymry a Phrydeinwyr.

Mae Bil Cymru yn dilyn traddodiadau gorau diwygwyr radicalaidd Cymru fel Lloyd George. Mae wedi’i gynllunio i bennu’r cwrs am ddegawdau i ddod a rhoi terfyn ar yr hen ddadleuon ynghylch pwy sy’n gyfrifol am beth. Y drafodaeth ar gyfer Senedd Cymru yn yr Unfed Ganrif ar Hugain yw sut i ddefnyddio’r pwerau sydd ganddi nawr, a sicrhau datganoli i gymunedau lleol.

Mae dynion a menywod Cymru’n dymuno cael deddfwriaeth gall sy’n adlewyrchu eu blaenoriaethau ac sy’n caniatáu iddyn nhw fyw o dan ddeddfau o’u dewis eu hunain. Rwyf wedi clywed y cyfarwyddyd hynny’n glir, ac fe fyddaf i’n cyflawni hynny.

(Cyhoeddwyd yr erthygl yma gyntaf yn y Western Mail 7.6.16)

Cyhoeddwyd ar 7 June 2016