Stori newyddion

Diwrnod hunllefus i deuluoedd glowyr Gleision, meddai Ysgrifennydd Cymru

Dywedodd Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:** ** “Mae wedi bod yn ddiwrnod cwbl hunllefus i deuluoedd Charles, Garry, Phillip a David…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Dywedodd Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:** **

“Mae wedi bod yn ddiwrnod cwbl hunllefus i deuluoedd Charles, Garry, Phillip a David, a gollodd eu bywydau yn y drasiedi erchyll hon. Dywedodd y teuluoedd wrthyf fod y cydymdeimlad a’r gefnogaeth ddiflino maent wedi’i chael gan eu ffrindiau, gan y gymuned leol a chan wirfoddolwyr wedi bod o gysur mawr iddynt.** **

“Fe weles i waith diflino a dewr yr holl wasanaethau brys a’r timau achub arbenigol a ddaeth o bob rhan o’r DU.** Mae wedi bod yn broses hynod o anodd a pheryglus, ond proses y maent wedi’i chyflawni’n arbennig o dda. Mae’n rhaid i ni ddiolch iddynt, ac i bawb sydd wedi helpu yn ystod y drasiedi. **Mae’r digwyddiad wedi cyffwrdd a chalonnau pawb, nid dim ond yng Nghymru, ond ledled y wlad.

“Wrth i’r teuluoedd alaru am eu hanwyliaid, fe wnawn ni bopeth o fewn ein gallu i’w cefnogi, i ganfod sut bu i’r ddamwain frawychus hon ddigwydd, ac i ddysgu gwersi ar gyfer y dyfodol.”

Cyhoeddwyd ar 16 September 2011