Stori newyddion

Teyrnged i’r Gwir Anrhydeddus y Fonesig Cheryl Gillan AS

Bu farw y cyn Ysgrifennydd Gwladol Cymru ar ôl dioddef salwch hir.

Portrait of Dame Cheryl Gillan

Y Gwir Anrhydeddus y Fonesig Cheryl Gillan AS oedd y fenyw gyntaf, a’r unig fenyw hyd yma, i fod yn Ysgrifennydd Gwladol Cymru. Gwasanaethodd yng Nghabinet y Prif Weinidog, David Cameron, a bu yn y swydd rhwng 2010 a 2012.

Yn 2011, cefnogodd y broses o gynnal refferendwm datganoli yng Nghymru ar bwerau deddfu uniongyrchol i Senedd Cymru, neu Gynulliad Cenedlaethol Cymru fel ag yr oedd bryd hynny.

Yn yr un flwyddyn, sefydlodd y Comisiwn Annibynnol ar Ddatganoli yng Nghymru, a elwir hefyd yn Gomisiwn Silk, lle cafodd yr achos dros ddatganoli pwerau ariannol i Senedd Cymru ei adolygu a lle rhoddwyd ystyriaeth i gynyddu ei phwerau.

Dywedodd Simon Hart AS, Ysgrifennydd Gwladol presennol Cymru:

Roedd y Fonesig Cheryl Gillan yn unigolyn uchel ei pharch a gyfrannodd lawer iawn at wleidyddiaeth Cymru a’r DU dros flynyddoedd lawer, gan gynnwys fel Ysgrifennydd Cymru.

Bydd yn cael ei chofio’n dyner, ac rwy’n cydymdeimlo â’i theulu, ei ffrindiau a’i chydweithwyr.

Dywedodd y Prif Weinidog Boris Johnson:

Rwy’n drist iawn o glywed y newyddion am farwolaeth y Fonesig Cheryl Gillan. Roedd yn was ffyddlon i bobl Chesham ac Amersham, i’r Blaid Geidwadol ac i’r wlad fel Ysgrifennydd Gwladol Cymru.

Roedd hi bob amser yn llawn cyngor doeth a hiwmor da, roedd parch tuag ati ar bob ochr i Dŷ’r Cyffredin a bydd colled fawr ar ei hôl. Estynnaf fy nghydymdeimlad didwyll i’w theulu a’i ffrindiau.

Dywedodd Glynne Jones, Cyfarwyddwr Swyddfa’r Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Cefais y fraint o weithio’n agos gyda Cheryl pan oedd hi’n Ysgrifennydd Cymru a gwelais ei chydymdeimlad, ei charedigrwydd a’i haelioni. Bydd colled fawr ar ei hôl, ac estynnaf fy nghydymdeimlad i’w ffrindiau a’i theulu.

DIWEDD

Cyhoeddwyd ar 7 April 2021