Datganiad i'r wasg

826,000 o deuluoedd yn rhoi hwb i gyllid gydag arbedion gofal plant

Anogir teuluoedd sy'n gweithio i gofrestru ar gyfer Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth i arbed hyd at £2,000 y flwyddyn fesul plentyn ar eu biliau gofal plant.

  • Rhannodd bron i 826,000 o deuluoedd yn y DU £632.2 miliwn mewn taliadau atodol gan y llywodraeth tuag at eu biliau gofal plant gyda Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth yn y flwyddyn dreth 2024 i 2025
  • Anogir teuluoedd sy’n gweithio i gofrestru nawr i roi hwb ariannol i’w cynlluniau haf
  • Cefnogi ymdrech y llywodraeth i ddatblygu’r economi a chyflawni’r Cynllun Newid

Arbedodd bron i 826,000 o deuluoedd sy’n gweithio hyd at £2,000 fesul plentyn gyda Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth yn y flwyddyn dreth 2024 i 2025. Mae’r arian yn helpu teuluoedd i dalu am eu gofal plant, fel rhan o Gynllun Newid y llywodraeth i roi mwy o arian ym mhocedi pobl.

Mae Cyllid a Thollau EF (CThEF) yn annog y rhai sydd heb gofrestru eto ar gyfer Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth, i wneud hynny nawr a rhoi hwb ariannol i’w cynlluniau haf.

Mae’r ffigurau diweddaraf gan CThEF yn dangos ym mis Mawrth 2025, bod 579,560 o deuluoedd yn y DU wedi defnyddio’r cynllun i arbed ar eu biliau gofal plant blynyddol, cynnydd o 81,770 o deuluoedd o’i gymharu â’r mis Mawrth blaenorol.

Gall teuluoedd sy’n gweithio ac sy’n cofrestru ar gyfer Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth roi hwb i’w cyllideb flynyddol hyd at £2,000 i bob plentyn hyd at 11 oed neu hyd at £4,000 hyd at 16 oed i blentyn anabl.

Gall rhieni ddefnyddio’r cynllun i helpu tuag at gost gofal plant cymeradwy, boed hynny’n feithrinfa i blant iau, neu i blant hŷn – clybiau gofal cofleidiol neu ar ôl ysgol yn ystod y tymor neu glybiau gwyliau ar gyfer gwyliau hir yr haf sydd i ddod.

Meddai Myrtle Lloyd, Cyfarwyddwr Cyffredinol CThEF ar gyfer Gwasanaethau i Gwsmeriaid: 

Gall yr haf fod yn gyfnod drud os oes gennych blant. Beth bynnag rydych yn ei gynllunio, gall Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth roi hwb ariannol croesawgar i’ch cynlluniau. Ewch i GOV.UK i ddechrau arbed arian heddiw.

Am bob £8 sy’n cael ei rhoi mewn cyfrif Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth, mae’r llywodraeth yn ychwanegu £2 ati, sy’n golygu bod rhieni’n gallu cael hyd at £500 (neu £1,000 os yw eu plentyn yn anabl) bob 3 mis tuag at dalu am eu costau gofal plant.

Unwaith y bydd teuluoedd wedi agor cyfrif Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth, gallant dalu arian i mewn i gyfrif a’i ddefnyddio ar unwaith neu ei gadw yn y cyfrif i’w ddefnyddio pryd bynnag y bydd ei angen. Gall unrhyw arian sydd heb ei ddefnyddio gael ei dynnu o’r cyfrif ar unrhyw adeg.   

Gall teuluoedd fod yn gymwys ar gyfer Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth os yw’r canlynol yn wir:   

  • mae ganddynt blentyn neu blant 11 oed neu iau. Maent yn stopio bod yn gymwys ar 1 Medi ar ôl pen-blwydd y plentyn yn 11 oed. Os oes gan y plentyn anabledd, maent yn cael hyd at £4,000 y flwyddyn tan 1 Medi ar ôl pen-blwydd y plentyn yn 16 oed   
  • mae’r rhiant a’i bartner (os oes un) yn ennill, neu’n disgwyl ennill, o leiaf yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol neu’r Cyflog Byw Cenedlaethol am 16 awr yr wythnos ar gyfartaledd   
  • nid ydynt yn ennill dros £100,000 y flwyddyn yr un   
  • nid ydynt yn cael Credyd Cynhwysol na thalebau gofal plant    

Ewch i GOV.UK i wirio cymhwystra a chofrestru ar gyfer Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth.

Gellir defnyddio Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth ochr yn ochr â’r oriau gofal plant sy’n rhad ac am ddim yn amodol ar gymhwystra.

Rhagor o Wybodaeth

Rhyddhawyd yr ystadegau Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth diweddaraf gyda data ar gael hyd at fis Mawrth 2025 ar 28 Mai.

Rhagor o wybodaeth am y cynllun Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth a sut i gofrestru.

Mae’n rhaid i bob plentyn cymwys fod â chyfrif Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth ei hun. Os oes gan deuluoedd fwy nag un plentyn cymwys, bydd angen iddynt gofrestru cyfrif ar gyfer pob plentyn. Yna, bydd y taliad atodol gan y llywodraeth yn cael ei ychwanegu at y taliadau a wnaed ar gyfer pob plentyn, ac nid ar gyfer yr aelwyd.

Mae’n rhaid i ddeiliaid cyfrifon gadarnhau bod eu manylion yn gyfredol bob tri mis er mwyn parhau i gael y taliad atodol gan y llywodraeth.

Gall darparwyr gofal plant hefyd gofrestru ar gyfer cyfrif darparwr gofal plant drwy GOV.UK i gael taliadau gan rieni a gofalwyr drwy’r cynllun.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 6 Mehefin 2025