570,000 o deuluoedd yn osgoi ofn Calan Gaeaf drwy ddefnyddio Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth
Arbed arian ar gostau gofal plant yn ystod gwyliau’r ysgol ac yn ystod tymor yr ysgol gyda Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth.

- Yn ystod mis Mehefin 2025, cafodd dros 570,000 o deuluoedd £100, ar gyfartaledd, tuag at eu bil gofal plant misol.
- Mae teuluoedd sy’n gweithio’n cael eu hannog i gofrestru ar gyfer Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth wrth i gyfanswm taliadau atodol y Llywodraeth gyrraedd £57.7 miliwn.
- Cefnogi ymdrech y llywodraeth i ddatblygu’r economi a chyflawni’r Cynllun Newid.
Mae teuluoedd sy’n gweithio’n cael eu hannog i gofrestru ar gyfer Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth cyn y gwyliau ysgol sbŵci er mwyn osgoi talu biliau gofal plant trici, gan fod ffigurau diweddar Cyllid a Thollau EF (CThEF) yn dangos bod 571,945 o deuluoedd wedi cael newyddion am arbedion braf yn ystod mis Mehefin.
I deuluoedd sy’n gweithio, gall talu biliau gofal plant drwy gyfrif Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth arbed hyd at £2,000 y flwyddyn ar gyfer pob un o’u plant hyd at 11 oed, neu £4,000 y flwyddyn hyd at 16 oed os yw’n blentyn anabl.
Mae CThEF yn annog y rheiny sydd heb gofrestru ar gyfer Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth wneud hynny nawr, er mwyn arbed ar eu costau gofal plant yn ystod gwyliau hanner tymor.
Meddai Myrtle Lloyd, Prif Swyddog Cwsmeriaid CThEF:
Does dim angen i filiau gofal plant godi ofn adeg Calan Gaeaf. P’un a ydych yn gweithio a bod gennych blentyn mewn clwb gwyliau neu’n cymryd amser i ffwrdd ac yn cynllunio gofal yn ystod tymor yr ysgol, gall talu’ch biliau â Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth eich helpu. Ewch i GOV.UK i ddechrau arbed arian heddiw.
Unwaith y bydd cyfrif Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth yn cael ei agor, ar gyfer pob £8 sy’n cael ei rhoi mewn i gyfrif y plentyn gan y rhieni, bydd y llywodraeth yn ychwanegu £2 ati. Gall rhieni gael hyd at £500 (neu £1,000 os yw eu plentyn yn anabl) bob 3 mis tuag at eu costau gofal plant.
Yn ystod mis Mehefin, gwnaeth y llywodraeth dalu cyfanswm o £57.7 miliwn mewn taliadau atodol i gyfrifon Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth. Gwnaeth hyn olygu bod pob teulu, ar gyfartaledd, wedi cael mwy na £100 i’w ddefnyddio tuag at eu biliau gofal plant.
Gall rhieni ddefnyddio’u Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth i’w helpu i dalu ar gyfer unrhyw ofal plant sydd wedi’i gymeradwyo ar gyfer eu plentyn – sef meithrinfa ar gyfer plant iau, neu ar gyfer plant hŷn sydd yn yr ysgol, gofal plant cofleidiol, clybiau ar ôl ysgol a chlybiau gwyliau.
Unwaith y bydd teuluoedd wedi agor cyfrif Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth, gallant dalu arian i mewn i gyfrif a’i ddefnyddio ar unwaith neu ei gadw yn y cyfrif i’w ddefnyddio pryd bynnag y bydd ei angen. Gall unrhyw arian sydd heb ei ddefnyddio gael ei dynnu o’r cyfrif ar unrhyw adeg.
Gall teuluoedd fod yn gymwys ar gyfer Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth os yw’r canlynol yn wir:
- mae ganddynt blentyn neu blant 11 oed neu iau. Maent yn stopio bod yn gymwys ar 1 Medi ar ôl pen-blwydd y plentyn yn 11 oed. Os oes gan y plentyn anabledd, maent yn cael hyd at £4,000 y flwyddyn tan 1 Medi ar ôl pen-blwydd y plentyn yn 16 oed
- mae’r rhiant a’i bartner (os oes un ganddo) yn ennill, neu’n disgwyl ennill, o leiaf yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol neu’r Cyflog Byw Cenedlaethol am 16 awr yr wythnos ar gyfartaledd
- nid ydynt yn ennill dros £100,000 y flwyddyn yr un
- nid ydynt yn cael Credyd Cynhwysol na thalebau gofal plant
Ewch i GOV.UK i wirio cymhwystra a chofrestru ar gyfer Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth.
Gellir defnyddio Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth ochr yn ochr â’r oriau gofal plant sy’n rhad ac am ddim yn amodol ar gymhwystra.
Rhagor o Wybodaeth
Cafodd yr ystadegau Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth diweddaraf gyda data ar gael hyd at fis Mehefin 2025 eu rhyddhau ar 27 Awst 2025.
Rhagor o wybodaeth am y cynllun Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth a sut i gofrestru.
Mae’n rhaid i bob plentyn cymwys fod â chyfrif Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth ei hun. Os oes gan deuluoedd fwy nag un plentyn cymwys, bydd angen iddynt gofrestru i gael cyfrif ar gyfer pob plentyn. Yna, bydd y taliad atodol gan y llywodraeth yn cael ei ychwanegu at y taliadau a wnaed ar gyfer pob plentyn, ac nid ar gyfer yr aelwyd.
Gall rhieni sy’n dychwelyd i’r gwaith rhwng nawr a 31 Ionawr 2026 wneud cais i agor cyfrif Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth heddiw a dechrau arbed yn syth, yn hytrach nag aros tan eu bod o fewn 31 diwrnod i ddychwelyd i’r gwaith.
Mae’n rhaid i ddeiliaid cyfrifon gadarnhau bod eu manylion yn gyfredol bob 3 mis er mwyn parhau i gael y taliad atodol gan y llywodraeth.
Gall darparwyr gofal plant hefyd gofrestru ar gyfer cyfrif darparwr gofal plant drwy GOV.UK i gael taliadau gan rieni a gofalwyr drwy’r cynllun.