Datganiad i'r wasg

Llywodraeth y DU yn rhoi £51m i gefnogi arloesi yng Nghymru

Bydd y cyllid yn mynd i’r Catapwlt Lled-ddargludyddion Cyfansawdd yng Nghaerdydd

  • £51m o gyllid ychwanegol ar gyfer canolfan uwch-dechnoleg yng Nghymru
  • Y gefnogaeth i arbenigedd Prydain ar ei lefel uchaf ers 40 mlynedd
  • Ffigurau diweddaraf y Cynnyrch Domestig Gros (GDP) yn cadarnhau bod yr economi’n parhau i dyfu

Mae’r Canghellor wedi cyhoeddi heddiw y bydd ymchwilwyr ac entrepreneuriaid mwyaf blaenllaw Prydain yng Nghymru yn elwa o £51m ychwanegol i greu technolegau’r dyfodol.

Bydd Philip Hammond yn ehangu’r ‘canolfannau catapwlt’ llwyddiannus sy’n ysgogi arloesi ledled y wlad, yn cynnwys yng Nghymru, fel rhan o Strategaeth Ddiwydiannol uchelgeisiol a modern y DU. Mae’r cyllid newydd hwn yn cefnogi doniau mwyaf disglair Prydain - gan gefnogi gwaith mewn labordai uwch-dechnoleg, ffatrïoedd sydd ar flaen y gad a chanolfannau hyfforddiant blaengar.

Hyd yn hyn mae wedi helpu i greu cannoedd o gynhyrchion, gwasanaethau a dyfeisiadau newydd, gan gynnwys synhwyrydd llygredd symudol y gall rhieni ei roi ar goets plentyn, therapïau cellog i frwydro yn erbyn canser a chynyddu cyfraddau gwella pobl sydd wedi cael strôc, triniaeth LED i’r rheini sydd wedi colli eu golwg ac adenydd mwy effeithlon ar gyfer awyrennau.

Gwnaeth y Canghellor y cyhoeddiad y diwrnod y dangosodd y ffigurau GDP fod economi’r DU wedi tyfu 0.4%.

Dywedodd Canghellor y Trysorlys, Philip Hammond:

Rydyn ni’n cefnogi cwmnïau arloesol Prydain i dyfu a chreu swyddi, wrth i ni adeiladu economi sy’n addas ar gyfer y dyfodol.

Bydd y buddsoddiad heddiw o £51 miliwn i Gymru yn cefnogi arloeswyr ledled y wlad i greu technolegau’r dyfodol a’r swyddi gwell, â thâl uwch rydyn ni i gyd am eu gweld.

Bydd y cyllid yn mynd i’r Catapwlt Lled-ddargludyddion Cyfansawdd yng Nghaerdydd.

Mae gan y DU enw da am arloesi ac mae’n meithrin y cryfder hwn drwy wneud y buddsoddiad mwyaf mewn ymchwil a datblygu ers 40 blynedd. Mae hyn yn rhan o’n dull cytbwys o weithredu, sef lleihau dyledion tra’n buddsoddi i greu mwy o gyfleoedd ar gyfer swyddi medrus â thâl uwch y dyfodol.

Mae’r rhwydwaith o ganolfannau catapwlt yn cefnogi sectorau a thechnolegau lle mae galw mawr yn mynd i fod amdanynt yn y dyfodol. Mae’n dwyn ynghyd y cwmnïau gorau yn y DU o ran busnes, gwyddoniaeth a pheirianneg i weithio ochr yn ochr ym maes ymchwil a datblygu i lansio cynhyrchion, o feddwl am syniadau hyd at eu rhyddhau ar y farchnad. Mae’n helpu i ddileu’r rhwystrau i dyfu, sy’n gallu cynnwys mynediad at gyllid, cyfleusterau annigonol neu brinder sgiliau yn aml.

DIWEDD

Cyhoeddwyd ar 10 August 2018