Datganiad i'r wasg

£46 miliwn ar gyfer sgiliau ac i gefnogi busnes lleol yng Nghymru

Bydd dros 160 o brosiectau ledled Cymru yn cael cyfran o dros £46 miliwn o fuddsoddiad i helpu pobl i gael gwaith, i hybu cynhyrchiant ac i gyrraedd sero net

Bydd y Gronfa Adfywio Cymunedol yn treialu rhaglenni newydd sy’n buddsoddi mewn pobl, yn rhoi hwb i sgiliau ac yn cefnogi busnesau lleol – i adeiladu mwy o gymunedau y mae pobl yn falch o’u galw’n gartref.  

Mae’r Gronfa’n cefnogi oddeutu 500 o drefi, pentrefi a chymunedau arfordirol ledled y Deyrnas Unedig i sicrhau nad oes unrhyw le’n cael ei adael ar ôl wrth i’r Llywodraeth gyflawni ei hymrwymiad i godi’r gwastad yn y wlad.  

Mae llawer o’r prosiectau llwyddiannus hefyd yn cefnogi llwybr y DU tuag at allyriadau carbon sero net, gan roi hwb i fusnesau sy’n creu technoleg lân a sicrhau bod swyddi’n addas ar gyfer y dyfodol.  Er enghraifft, bydd £127,000 yn annog atebion trafnidiaeth cynaliadwy a chynhwysol yn Ne Cymru, gan helpu i leihau’r defnydd o geir a mynd i’r afael â llygredd aer.

Mae’r prosiectau eraill sy’n cael eu hariannu yn cynnwys:  

  • £200,000 i helpu pobl ddi-waith a phobl dan anfantais yn Sir Gaerfyrddin i ddechrau eu busnes eu hunain drwy fuddsoddi mewn sgiliau digidol, cyflogadwyedd ac entrepreneuriaeth. Bydd y rhaglen hefyd yn ariannu bwtcamp i entrepreneuriaid benywaidd, gan greu grŵp rhwydweithio i fenywod mewn busnes. 
  • £45,900 i uwchraddio llwybrau yn ardal Dinas Mawddwy yng Ngwynedd. Rhan allweddol o’r gwelliannau fydd gwneud y llwybrau’n fwy hygyrch i’r rheini sydd ag anableddau, gan helpu i ddiogelu rhwydweithiau cymunedol a sicrhau bod yr awyr agored yn agored i bawb.
  • £629,000 i gefnogi a chyllido gweithgynhyrchwyr yn Sir Ddinbych i roi strategaethau gweithgynhyrchu digidol newydd neu well ar waith.
  • £67,000 i ddarparu hyfforddiant ymwybyddiaeth o fyddardod ac Iaith Arwyddion Prydain sylfaenol i staff sy’n delio â chwsmeriaid mewn amrywiaeth o fusnesau a sefydliadau ledled Rhondda Cynon Taf.
  • £61,000 i ariannu astudiaeth ddichonoldeb lawn i wella mynediad ymwelwyr i Freshwater West yn Sir Benfro a fydd o fudd i fusnesau lleol a sicrhau bod yr amgylchedd yn cael ei ddiogelu wrth gynyddu twristiaeth.
  • £1 miliwn i sefydlu Rhaglen Hyfforddi’r Diwydiannau Creadigol a fydd yn ffordd gydweithredol o weithio, gan gefnogi cyfleoedd hyfforddi a dysgu mewn lleoliadau ar draws Merthyr Tudful a Chaerdydd.

Meddai’r Ysgrifennydd Gwladol dros Lefelu Michael Gove:  

Rydym yn benderfynol o uno a chodi’r gwastad yn Deyrnas Unedig gyfan.

Bydd y prosiectau rydyn ni’n eu cefnogi heddiw, o Wrecsam i Gaerffili, yn helpu cymunedau ledled Cymru i wireddu eu potensial yn llawn, yn creu cyfleoedd newydd ar gyfer y dyfodol ac yn ein helpu i gyflawni allyriadau carbon sero net.

Meddai Simon Hart, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Mae Llywodraeth y DU yn canolbwyntio’n llwyr ar godi’r gwastad yn ein cymunedau, gan roi hwb i sgiliau a chynyddu’r cyfleoedd i bobl ledled Cymru.

Mae cyllid ar gyfer dwsinau o brosiectau gwych ar hyd a lled Cymru, o sgiliau digidol yng Nghonwy i gymorth i fusnesau bach yn Nhorfaen, yn dangos sut y byddwn yn rhyddhau potensial ein holl ardaloedd lleol.

Mae hyn ychydig ddyddiau ar ôl i £120m gael ei gyhoeddi ar gyfer prosiectau yng Nghymru yn y Gyllideb yr wythnos diwethaf, ac mae’n dangos y byddwn yn darparu buddsoddiad lle mae ei angen a lle gall wneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl.

Gwahoddwyd awdurdodau lleol i wneud cais am gyllid o’r Gronfa Adfywio Cymunedol ym mis Mai.

Bydd y cyllid o £200 miliwn drwy Gronfa Adnewyddu Cymunedol y DU yn helpu ardaloedd lleol i baratoi ar gyfer lansio Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn 2022, y cynllun a fydd yn gweld cyllid ar gyfer y DU gyfan o leiaf yn cyfateb i arian yr UE, gan gyrraedd tua £1.5 biliwn y flwyddyn. 

Yn y Gyllideb yr wythnos diwethaf, cyhoeddodd Llywodraeth y DU fuddsoddiad o dros £121 miliwn yn uniongyrchol i gymunedau yng Nghymru, drwy Gronfa Codi’r Gwastad a’r Gronfa Berchnogaeth Gymunedol, ar gyfer prosiectau adfywio mawr a mentrau cymunedol llai. 

Mae rhagor o wybodaeth ar gael am bob un o’r tair cronfa – y Gronfa Adnewyddu Cymunedol, y Gronfa Berchnogaeth Gymunedol a Chronfa Codi’r Gwastad, gan gynnwys y rhestrau llawn o fidiau llwyddiannus.

Mae’r fethodoleg gyhoeddedig a ddefnyddiwyd i ganfod llefydd sydd angen cyllid ar gael hefyd.

Bydd buddsoddiad o Gronfeydd Strwythurol yr UE yn parhau i gael ei wario gan ardaloedd lleol tan 2023 ac mae’r Llywodraeth wedi ymrwymo i gyllid sy’n cyfateb i’r derbyniadau o’r UE o leiaf drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin newydd y DU, gan gyrraedd tua £1.5 biliwn y flwyddyn ar gyfartaledd.

Bydd y Gronfa newydd hon, a fydd yn cael ei lansio yn 2022, yn gweithredu ledled y DU ac yn chwarae rhan yn y gwaith o lefelu’r gwastad ac uno’r wlad gyfan. 

Cymru / Twf economaidd yng Nghymru / Busnes a diwydiant / economi’r DU / Cronfeydd Twf Rhanbarthol / Twf Economaidd y DU

Cyhoeddwyd ar 4 November 2021