Datganiad i'r wasg

Buddsoddiad gwerth £372 miliwn mewn awyrennau Hawk yn cynnal 700 o swyddi yn y DU

Contractau pum mlynedd yn cefnogi dros 450 o swyddi yn RAF y Fali ar Ynys Môn

Mae’r Weinyddiaeth Amddiffyn wedi ymrwymo £372 miliwn ar draws pedwar contract i barhau i gefnogi’r gwaith o wasanaethu jetiau hyfforddi cyflym yr Hawk, gan ddiogelu tua 700 o swyddi yn y DU tan 2020.

Mae lluoedd arfog y DU yn defnyddio’r fflyd o awyrennau Hawk TMk1 a TMk2 ar gyfer hyfforddiant hedfan milwrol cyn symud ymlaen i jetiau cyflym rheng flaen fel y Typhoon neu’r F35 Lightning II ac ar gyfer amryw o wahanol ofynion hyfforddi eraill ar gyfer y Llynges Frenhinol a’r Llu Awyr Brenhinol. Dyma’r awyrennau y mae Tîm Campau Hedfan y Llu Awyr Brenhinol, y Red Arrows, yn eu dewis hefyd, sef un o dimau arddangos campau hedfan gorau’r byd.

Bydd y contractau cymorth pum mlynedd yn chwarae rhan bwysig o ran darparu ystod o wasanaethau i awyrennau Hawk y Llynges Frenhinol a’r Llu Awyr Brenhinol mewn gwahanol ganolfannau ar draws y wlad, gan gynnwys yng Nghymru, Swydd Efrog, Swydd Gaerhirfryn, Swydd Lincoln, Gwlad yr Haf a Chernyw.

Dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Mae’r cyhoeddiad hwn yn tynnu sylw at yr effaith bwysig y mae penderfyniad y llywodraeth hon i gynyddu’r gyllideb amddiffyn yn ei chael ar y sector yng Nghymru.

Dim ond drwy lynu at y cynllun economaidd hirdymor y gall y llywodraeth wneud buddsoddiadau o’r fath. Bydd y contractau hyn yn cynnal cannoedd o swyddi sy’n gofyn am lawer o sgiliau yng ngogledd Cymru, ac yn sicrhau bod RAF y Fali yn cynnal ei enw da fel canolfan o safon fyd-eang am wasanaethau cymorth amddiffyn.

Dywedodd Philip Dunne, y Gweinidog Caffael Amddiffyn:

Mae’r Hawk yn awyren hyfforddi o safon fyd-eang ar gyfer ein criwiau awyr a fydd yn hedfan jetiau cyflym yn y dyfodol.

Mae’r peilotiaid sydd wrthi’n hedfan awyrennau Typhoon a Tornado mor ofalus gan dargedu Daesh yn Iraq a Syria er mwyn cadw Prydain yn ddiogel, wedi dysgu eu sgiliau yn yr Hawk.

Bydd yr Hawk hefyd yn cael ei ddefnyddio i hyfforddi’r peilotiaid a fydd yn hedfan ein hawyrennau F-35 newydd, sef rhai o’r awyrennau mwyaf dyfeisgar yn y byd.

Mae’r contractau hyn i gefnogi’r awyrennau hyfforddi hanfodol hyn yn hwb i’r diwydiant ym Mhrydain. Maent yn diogelu cannoedd o swyddi ledled y DU - ac mae hyn i gyd yn bosib oherwydd y cynnydd yn ein cyllideb Amddiffyn a’n buddsoddiad o £178 biliwn yn prynu ac yn cynnal y cyfarpar gorau posib ar gyfer ein Lluoedd Arfog.

Mae contractau gwerth bron i £300 miliwn wedi’u dyfarnu i BAE Systems i ddarparu cymorth gwasanaeth a Gwasanaethau Ôl-Ddylunio ar gyfer awyrennau Hawk TMk1 a TMk2. Mae’r contractau’n cynnwys cyngor dylunio ac addasu a rheoli darfodiad, gyda’r cwmni’n defnyddio RAF y Fali ar Ynys Môn, Cymru fel ei brif ganolfan ar gyfer gwasanaeth cymorth.

Er mwyn cyflawni’r contractau, mae gan BAE Systems a’i bartner cynnal a chadw, Babcock, tua 470 o bobl yn gweithio yn RAF y Fali, 65 yn RAF Leeming yn Swydd Efrog a 55 yn RNAS Culdrose yng Nghernyw. Mae gan y cwmni 65 o bobl yn gweithio yn Brough yn East Riding, Swydd Efrog a tua 20 arall yn ei safleoedd yn Warton a Samlesbury yn Swydd Gaerhirfryn hefyd.

Mae contract gwerth £79 miliwn hefyd wedi’i roi i Rolls-Royce i gynnal y peiriannau ‘Adour’ ar gyfer awyrennau Hawk, gyda’r gwaith profi, atgyweirio ac archwilio yn cael ei wneud yn RAF y Fali ac yn Filton, Bryste, gan ddiogelu 40 o swyddi ar y ddau safle.

Dywedodd Cyfarwyddwr Awyrennau Ymladd DE&S, sefydliad caffael a chymorth y Weinyddiaeth Amddiffyn, Dirprwy Farsial yr Awyrlu, Sue Gray:

Mae’r contractau newydd hyn i gefnogi ein fflyd o jetiau cyflym, sef awyrennau Hawk, yn golygu bod y safon ar gyfer gwasanaeth cymorth yn uwch nag erioed o’r blaen.

Bydd ein partneriaid BAE Systems a Rolls-Royce yn darparu cymorth am oes y peiriannau, gan gynnwys cynnal a chadw a darparu darnau sbâr, gan sicrhau arbedion o ran costau a sicrhau bod digon o awyrennau ar gael, er mwyn sicrhau bod gan ein peilotiaid ar gyfer jetiau cyflym iawn yn y dyfodol y cyfarpar cywir ar gyfer eu hyfforddiant hedfan.

Cyhoeddwyd ar 29 March 2016